Gwerthusiad o Beilot y Panel Ymgysylltu â Goroeswyr Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol: cam 2 (crynodeb)
Mae’r adroddiad gwerthuso hwn yn canolbwyntio ar gynllun peilot ar gyfer y Panel Ymgysylltu â Goroeswyr.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 (‘y Ddeddf’) oedd ymrwymiad ffurfiol Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol (VAWDASV) drwy ddiogelu, atal a chefnogi'r rhai yr effeithiwyd arnynt gan y mathau hyn o drais a cham-drin.
Cydnabu'r Ddeddf, er bod menywod yn fwy tebygol yn ystadegol o gael profiad o VAWDASV, y gall effeithio ar unrhyw un, gan gynnwys: dynion; pobl o gymunedau duon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig (BAME); pobl o'r gymuned LHDTC+; pobl anabl; pobl iau; a phobl hŷn.
Ategir y Ddeddf gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, sy'n nodi bod rhyddid rhag cam-drin a thrais yn un o elfennau allweddol llesiant. Mae'r ymrwymiadau hyn wedi arwain at ffocws ar sicrhau ymgysylltu ystyrlon a pharhaus â goroeswyr VAWDASV.
Comisiynwyd Rhaglen Ymchwil Fewnol Llywodraeth Cymru gan y tîm polisi ar gyfer VAWDASV (Llywodraeth Cymru) ym mis Hydref 2018 i ymgymryd â phrosiect ymchwil ar raddfa fach i helpu i greu Fframwaith Ymgysylltu â Goroeswyr ar gyfer VAWDASV.
Roedd dau gam i'r ymchwil, a gafodd eu cynnal ar yr un pryd. Canolbwyntiodd Cam 1 ar y ffordd orau i Lywodraeth Cymru ymgysylltu â goroeswyr VAWDASV o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol. Canolbwyntiodd Cam 2 ar werthuso Panel Ymgysylltu â Goroeswyr peilot. Mae'r crynodeb gweithredol hwn yn manylu ar Gam 2 o'r ymchwil.
Nodau a methodoleg yr ymchwil
Prif amcanion yr ymchwil hon oedd:
- ystyried safbwyntiau a phrofiadau'r poblogaethau targed mewn perthynas â chyfranogi yn y gorffennol a modelau cyfranogi effeithiol
- deall natur, ffocws a'r cymorth sydd ei angen i hwyluso cyfranogiad y poblogaethau targed
- datblygu dulliau a systemau casglu data sy'n seiliedig ar dystiolaeth er mwyn helpu i roi'r Panel Goroeswyr Cenedlaethol ar waith
- datblygu fframwaith canlyniadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth a mesurau canlyniadau sy'n ddigonol i fesur effeithiolrwydd y Panel Goroeswyr Cenedlaethol
- profi a dadansoddi effeithiolrwydd y Panel Goroeswyr Cenedlaethol
Roedd y dulliau o werthuso'r panel Ymgysylltu â Goroeswyr peilot yn cynnwys tri gweithdy Theori Newid, tair sesiwn panel peilot a chyfweliadau lled-strwythuredig â'r rhai a fu'n rhan o'r Panel.
Cwblhawyd tri gweithdy Theori Newid (un gyda goroeswyr, un gyda rhanddeiliaid allanol ac un gyda swyddogion polisi) fel rhan o'r ymchwil hon o dan Gam 2. O ganlyniad i'r gweithdai, lluniwyd model rhesymeg polisi (gweler adran 3 o'r adroddiad terfynol). Ei ddiben yw adolygu a oedd yr ymyriad wedi cael ei weithredu yn ôl y bwriad ac ymholi ynghylch canlyniadau ac effeithiau'r model rhesymeg.
Bu 10 goroeswr VAWDASV a recriwtiwyd yn bresennol yn y sesiynau panel peilot, a gynhaliwyd rhwng mis Medi a mis Tachwedd 2019. Nod y rhain oedd dod i ddeall sut y gellid trefnu panel ymgysylltu â goroeswyr a hwyluso trafodaethau. Dewiswyd un o amcanion Strategaeth Genedlaethol 2016-2021 fesul sesiwn i ganolbwyntio arno, a thrafodwyd tri o'r chwe amcan i gyd sydd yn y strategaeth. Cynhaliwyd cyfweliadau lled-strwythuredig ag aelodau panel, rhanddeiliaid a swyddogion polisi er mwyn ystyried pa mor llwyddiannus fu'r sesiynau panel peilot. Cwblhawyd cyfanswm o 16 o gyfweliadau. Canolbwyntiodd cyfweliadau ag aelodau panel a swyddogion polisi ar y ffordd roedd y peilot wedi gweithio a pha welliannau y gellid eu gwneud ar gyfer panel yn y tymor hwy. Hefyd, trafodwyd y ffordd orau o ymgysylltu â goroeswyr yn y dyfodol a mesur effaith hyn. Ystyriodd cyfweliadau â rhanddeiliaid natur eu hymwneud â'r panel peilot, yr hyn a fu'n effeithiol o ran ymgysylltu â goroeswyr yn eu barn nhw, a pham nad yw goroeswyr o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol yn ymgysylltu â Llywodraeth Cymru.
Prif ganfyddiadau
Mae'r canfyddiadau yn seiliedig ar y dystiolaeth a gasglwyd drwy dair sesiwn panel a chyfweliadau â goroeswyr, rhanddeiliaid allanol a swyddogion polisi.
Recriwtio i'r panel
Dywedodd aelodau'r panel fod y gwahoddiadau i'r panel goroeswyr yn glir o ran gwybodaeth sylfaenol ond y gellid bod wedi rhoi mwy o fanylion ynglŷn â'r hyn yr oedd disgwyl iddynt ei wneud yn ystod y sesiwn, yr hyn y gobeithiwyd ei gyflawni o'r sesiynau a'r canlyniadau.
Hoffai aelodau'r panel pe bai wedi bod yn glir ymlaen llaw pa gydnabyddiaeth y byddent yn ei chael am gymryd rhan yn y panel, e.e. treuliau teithio, costau gofal plant a digolledu am enillion a gollwyd. Byddai eglurder ynglŷn â hyn wedi ei gwneud yn haws i unigolion ymrwymo i fod yn rhan o'r panel. Roedd rhai aelodau panel hefyd yn teimlo y byddai tâl am ddod i'r sesiynau wedi dangos bod Llywodraeth Cymru yn gwerthfawrogi eu cyfraniad.
Awgrymwyd y byddai deunydd perthnasol a anfonwyd cyn sesiynau'r panel wedi bod yn fuddiol i'r aelodau er mwyn iddynt gadw eu ffocws ar y pwnc dan sylw a gwneud y defnydd mwyaf adeiladol o'u hamser.
Er mwyn helpu darpar banelwyr i wybod beth yn union roedd angen iddynt ei wneud yn ystod sesiynau'r panel, awgrymodd aelodau'r panel peilot y dylid darparu dogfen ganllaw â ‘disgrifiad swydd’ fel rhan o'r broses recriwtio. Byddai hyn hefyd yn helpu i esbonio sut y bydd cyfranogi yn cyfrannu at banel ymgysylltu â goroeswyr. Cydnabu aelodau'r panel a swyddogion polisi fod diffyg amrywiaeth ar y panel peilot, a theimlid y gallai dogfen ganllaw i ddarpar banelwyr helpu i sicrhau mwy o gynrychiolaeth.
Ystyriwyd y byddai defnyddio sefydliadau rhanddeiliaid fel allgymorth i helpu i ennyn ymddiriedaeth a chefnogaeth yn fuddiol er mwyn sicrhau mwy o amrywiaeth a chynrychiolaeth ar unrhyw banel yn y dyfodol. Roedd dulliau eraill o wella cynrychiolaeth ar y panel a awgrymwyd yn cynnwys defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol i dargedu grwpiau nad ydynt eisoes yn ymgysylltu â sefydliadau a gwasanaethau.
Y Panel Peilot
Un gŵyn a godwyd yn aml ynglŷn â sesiynau'r panel oedd nad oeddent yn ddigon hir. Roedd sesiynau'r panel ar gyfer y cynllun peilot yn para 2.5 awr yr un, ond teimlid nad oedd hynny'n rhoi digon o amser i ystyried cymhlethdod na dyfnder y pwnc yn llawn.
Roedd swyddogion polisi o'r farn, ar ôl ystyried, fod y pynciau a neilltuwyd ar gyfer pob un o'r sesiynau yn ymdrin â gormod ar gyfer yr amser a oedd ar gael. Mewn ymateb, un awgrym oedd y dylid amrywio hyd ac amlder y sesiynau i gyd-fynd â maint y pwnc dan sylw, gan y byddai hyn yn ei gwneud yn bosibl i amcanion mwy cymhleth gael eu trafod yn fanwl a gellid trafod materion haws eu trafod mewn sesiynau byrrach, llai aml.
Cynhaliwyd sesiynau'r panel peilot tua chanol dydd ac mae'r adborth gan aelodau'r panel yn awgrymu bod yr amser hwn yn gyfleus o ran teithio i'r lleoliad a gwneud trefniadau ar gyfer cyfrifoldebau gofalu lle y bo angen gwneud hynny.
Trafododd rhanddeiliaid ac aelodau'r panel a oedd swyddfeydd Llywodraeth Cymru yn lleoliad priodol i gynnal sesiynau'r panel. Roedd rhai aelodau yn teimlo bod defnyddio'r swyddfa yn dangos statws uchel y panel, ond roedd eraill yn teimlo bod y lleoliad yn rhy ffurfiol. Roedd cael eu hebrwng o amgylch y swyddfeydd gan un o swyddogion y llywodraeth yn achosi i rai deimlo'n bryderus. Codwyd cwestiynau hefyd o ran hygyrchedd, gan fod swyddfa Parc Cathays lle y cynhaliwyd y peilot yng nghanol dinas Caerdydd. Efallai y bydd darpar banelwyr o ardaloedd gwledig yng Nghymru yn cael anhawster i deithio i Gaerdydd os nad oes trafnidiaeth gyhoeddus ar gael neu os nad yw'n briodol. Awgrymwyd y dylai paneli gael eu cynnal mewn lleoliadau gwahanol yng Nghymru er mwyn goresgyn y broblem hon.
Dynameg y grŵp
Cytunodd aelodau'r panel fod y sesiynau peilot wedi cael eu hwyluso a'u trefnu'n dda. Cydnabuwyd bod hwyluso grŵp lle mae pynciau emosiynol yn cael eu trafod yn gallu bod yn anodd, ond roedd aelodau'r panel yn teimlo bod pawb wedi cael cyfle priodol i gymryd rhan.
Gofynnwyd a oedd panel cymysg o ran y rhywiau yn briodol i drafod pynciau a oedd yn ymwneud â VAWDASV gan aelodau'r panel a rhanddeiliaid, gan fod trais dynion yn erbyn menywod wedi cael effaith ar lawer o oroeswyr. Fodd bynnag, nodwyd hefyd y gall menywod a dynion brofi'r mathau hyn o drais ac na ddylid peidio â chynnwys profiadau dynion.
Gwnaeth rhai sylwadau a wnaed yn ystod sesiynau'r panel achosi teimladau annymunol neu anghysur i oroeswyr eraill. Teimlai rhai aelodau o'r panel y byddai cyfle i leisio'r pryderon hyn â hwyluswyr ar ôl sesiwn panel yn fuddiol o ran monitro dynameg y grŵp mewn sesiynau yn y dyfodol.
Credai aelodau'r panel ei bod yn bwysig bod Llywodraeth Cymru yn recriwtio goroeswyr yr oedd mwy o bellter rhyngddynt hwy a'u profiadau o gael eu cam-drin, am y gallai fod yng nghanol y sefyllfa ei gwneud yn anodd iawn bod yn rhan o banel ac y gallai fod niweidiol i wellhad.
Pynciau a drafodwyd
Croesawodd aelodau'r panel a'r rhanddeiliaid y drafodaeth am amcanion y Strategaeth Genedlaethol, yr ystyriwyd bod pob un ohonynt yn bwysig ac yn berthnasol.
Teimlai rhai aelodau o'r panel nad oedd y Strategaeth Genedlaethol yn mynd i'r afael â rhoi terfyn ar VAWDASV na'i leihau, dim ond ymateb iddo. Awgrymwyd y dylid cynnwys amcan ychwanegol er mwyn adlewyrchu atal VAWDASV.
Codwyd pwnc yr heddlu a'r system cyfiawnder troseddol ychydig o weithiau fel un y dylid ei gynnwys yn sesiynau'r panel. Soniodd llawer o aelodau'r panel am brofiadau negyddol wrth ymwneud â'r heddlu a'r llysoedd teulu, felly roeddent yn teimlo bod hyn yn ffactor pwysig o ran mynd i'r afael â VAWDASV ac ymateb iddo.
Nododd aelodau'r panel yr hoffent weld y panel yn cyfrannu at benderfyniadau lefel uwch, gan gynnwys cyllid a chyllidebu. Cytunodd swyddogion polisi fod cyfraniad y panel yn bwysig o ran gwneud penderfyniadau ar wariant.
Awgrymwyd y dylai agenda a nodau sesiynau'r panel gael eu harwain gan oroeswyr gan mai unigolion sydd wedi cael profiadau uniongyrchol sydd yn y sefyllfa orau i wybod beth sydd ei angen a beth sydd ei eisiau ar oroeswyr VAWDASV.
Dywedodd rhai rhanddeiliaid yr hoffent weld ymwybyddiaeth ac addysg ynglŷn â rheolaeth drwy orfodaeth yn cael eu trafod gan y panel, er mwyn helpu'r cyhoedd i ddeall nad trais corfforol yw'r unig fath o gam-drin. Credid bod angen gwneud gwaith o hyd i helpu dioddefwyr adnabod rheolaeth drwy orfodaeth fel math o gam-drin a'u helpu i geisio cymorth priodol.
Panel parhaol
Teimlai pob un a gymerodd ran yn yr ymchwil fod panel parhaol, hirdymor yn fuddiol. Er bod pob un o aelodau'r panel a gymerodd ran yn y peilot am fod yn aelodau parhaol, cydnabuont hefyd y byddai'n fuddiol newid aelodaeth o bryd i'w gilydd o ran cynhwysiant a chynrychiolaeth ymhlith goroeswyr VAWDASV.
Teimlid y dylai dulliau ymgysylltu ar-lein gael eu cynnig i oroeswyr VAWDASV, gan nad yw pawb yn gallu neu nad yw pawb yn dymuno mynychu sesiynau grŵp.
Dywedodd pob un o aelodau'r panel peilot mai ymgysylltu wyneb yn wyneb fyddai'r dull cysylltu y byddent yn ei ffafrio. Awgrymwyd mai ymarfer ‘ticio blychau’ oedd arolygon ar-lein ac nad oeddent yn trafod materion yr oedd goroeswyr yn eu profi mewn unrhyw ddyfnder mewn gwirionedd. Teimlid hefyd y gall arolygon fod yn ddiflas ac arwain at ymddieithrio.
Roedd aelodau'r panel yn agored i gymryd rhan mewn cyfarfodydd rhithwir yn lle ymgysylltu wyneb yn wyneb, ond nodwyd yn glir mai ymgysylltu wyneb yn wyneb oedd yr hyn a ffafriwyd ganddynt. Mynegwyd pryder ynglŷn â chyfrinachedd cyfarfodydd rhithwir.
Roedd rhai aelodau o'r panel yn teimlo'n anghysurus ynglŷn â'r syniad o ddulliau ymgysylltu ar-lein eraill megis fforymau, lle y caiff negeseuon eu cadw ar-lein ac nad yw'n hysbys pwy yn union sydd yn eu gweld. Teimlid bod perygl gwirioneddol y gallai unigolion sy'n cam-drin geisio ymuno â llwyfannau o'r fath drwy ddichell ac felly y byddai angen eu monitro'n fanwl pe baent yn cael eu cynnig fel dull ymgysylltu.
Ystyriwyd cyfuno gwahanol ddulliau ymgysylltu, er enghraifft cyfuno cyfarfodydd rhithwir a chyfarfodydd wyneb yn wyneb. Mynegwyd pryder y byddai pobl a oedd yn ymuno'n rhithwir yn peidio ag ymgysylltu eto o bosibl pe baent yn cael problemau technegol yn ystod y sesiwn.
Awgrymodd rhanddeiliaid ac aelodau'r panel y gallai fod yn fuddiol o bosibl sefydlu paneli rhanbarthol yn ogystal â phanel cenedlaethol. Y canfyddiad oedd na fyddai goroeswyr o rannau eraill o Gymru yn gallu dod i gyfarfodydd panel wyneb yn wyneb pe baent yn cael eu cynnal yng Nghaerdydd drwy'r amser, fel y panel peilot. Teimlid hefyd ei bod yn bwysig cydnabod sut mae gwahaniaethau rhanbarthol yn effeithio ar anghenion goroeswyr VAWDASV.
Cefnogi aelodau'r panel
Cydnabuwyd bod cefnogi llesiant aelodau'r panel yn bwysig o ystyried natur sensitif a thrawmatig y pwnc. Dywedwyd ei bod yn anochel y byddai'r trafodaethau hyn yn achosi teimladau annymunol. Teimlai rhai y byddai'n ddefnyddiol pe bai cwnselydd ar gael, ond nid oedd eraill yn credu y byddai'n ddefnyddiol gan fod ganddynt eu systemau cymorth eu hunain eisoes. Awgrymwyd cysylltiadau ar ôl sesiwn rhwng hwyluswyr ac aelodau'r panel fel math amgen o gymorth yn lle cwnsela.
Ystyriwyd bod y dull ymgysylltu yn bwysig o ran sut y dylid cynnig cymorth i oroeswyr a oedd yn cymryd rhan. Teimlai aelodau'r panel a'r rhanddeiliaid fel ei gilydd mai ymgysylltu wyneb yn wyneb yw'r dull mwyaf priodol ar gyfer ennyn ymddiriedaeth a chynnig man diogel i rannu gwybodaeth. Mynegwyd pryder na fyddai dulliau ar-lein yn ei gwneud yn bosibl i gynnig yr un lefel o gymorth.
Cyfathrebu'n barhaus ag aelodau'r panel
Cytunodd aelodau'r panel fod cael adborth ar benderfyniadau gweinidogol a oedd yn gysylltiedig â'u cyfraniad yn bwysig, yn enwedig pan wneir penderfyniad yn groes i gyngor y panel. Mae helpu'r panel i ddeall y rhesymeg dros benderfyniadau yn un ffordd y gall Llywodraeth Cymru ddangos nad symbolaidd yn unig yw ei gyfraniad.
Nododd rhanddeiliaid yr hoffent gael eu hysbysu am yr hyn a oedd yn cael ei drafod yn ystod cyfarfodydd y panel rhag ofn ei fod yn bwydo i mewn i waith eu sefydliad.
Mesur llwyddiant panel parhaol
Teimlai aelodau'r panel yn gryf y dylai'r panel ymgysylltu gael ei arwain gan oroeswyr ac y byddai'n llwyddiannus pe bai eu profiadau personol yn dylanwadu ar bolisi VAWDASV. Ystyriwyd mai un arwydd hollbwysig o lwyddiant oedd bod Llywodraeth Cymru yn dangos ei bod yn cymryd lleisiau goroeswyr o ddifrif wrth lunio polisi.
Awgrymwyd y dylai'r panel nodi bylchau yn y gwasanaethau a'r cymorth a oedd ar gael i oroeswyr, ac yna gynghori ar sut y dylid mynd i'r afael â'r bylchau hynny gyda'r cymorth priodol.
Awgrymodd rhai y gellid mesur llwyddiant panel yn yr hirdymor pe bai goroeswyr yn nodi eu bod yn teimlo'n fwy diogel ac yn cael mwy o gymorth o ganlyniad i'r polisïau yr oedd y panel wedi cynghori arnynt.
Trafododd swyddogion polisi a rhanddeiliaid reoli disgwyliadau goroeswyr ac aelodau'r panel ynglŷn â'r hyn y gall Llywodraeth Cymru ei gyflawni'n realistig. Roedd rhwystredigaeth ymhlith aelodau'r panel yn ystod y sesiynau peilot ynglŷn â'r pwerau cyfyngedig sydd gan Lywodraeth Cymru, er enghraifft dros y system cyfiawnder troseddol sy'n bŵer a gedwir yn ôl. Trafodwyd sut y gall Llywodraeth Cymru ddwyn y rhai sy'n cam-drin i gyfrif mewn gwirionedd gan nad oes ganddi bwerau o'r fath.
Opsiynau ar gyfer Panel Parhaol
Yn seiliedig ar ganfyddiadau'r panel peilot a chyfweliadau ag aelodau'r panel, rhanddeiliaid a swyddogion polisi, penderfynwyd ar bedwar opsiwn ar gyfer panel ymgysylltu â goroeswyr yn yr hirdymor.
Opsiwn 1
Panel wyneb yn wyneb sy'n cynnwys 10-12 o aelodau gyda phroses recriwtio gylchdroadol bob 12 i 18 mis. Bydd aelodau'r panel yn cael cyfle i arwain y panel, gosod yr agenda a phennu'r amcanion. Mae'r opsiwn hwn yn gost isel ac mae digon o adnoddau i'w roi ar waith. Fodd bynnag, bydd angen ystyried cyfyngiadau pandemig Covid-19 ar gyfer cyfarfodydd wyneb yn wyneb yn y dyfodol. Mae risg yn gysylltiedig â'r opsiwn hwn y bydd goroeswyr na allant neu na ddymunant ymgysylltu wyneb yn wyneb yn cael eu hallgáu'n awtomatig ac y byddant heb gynrychiolaeth ddigonol.
Opsiwn 2
Panel wyneb yn wyneb ynghyd ag ymgysylltu ar-lein, gan gynnwys arolygon, gweminarau a byrddau trafod, sy'n cynnig defnydd hyblyg a mwy o hygyrchedd i'r rhai na allant neu na ddymunant ddod i gyfarfodydd wyneb yn wyneb. Efallai y bydd yr opsiwn hwn yn sicrhau mwy o gynrychiolaeth gan grwpiau sydd wedi'u hymyleiddio'n fwy nag eraill. Fodd bynnag, mae llai o adnoddau ar gael ym maes polisi VAWDASV i gydgysylltu cyfarfodydd wyneb yn wyneb a gweithgareddau ymgysylltu ar-lein ac efallai y bydd darpar banelwyr yn anfodlon ar gyflwyno gwybodaeth ar-lein oherwydd y risg ganfyddedig i'w diogelwch.
Opsiwn 3
Is-grwpiau/paneli byrdymor arbenigol, sy'n gweithio tuag at ganlyniadau llai drwy grwpiau mwy hyblyg o ran maint, lleoliad a hyd. Byddai paneli arbenigol yn caniatáu ar gyfer mwy o amrywiaeth ymhlith goroeswyr, sy'n golygu cynrychioliaeth fwy amrywiol o brofiad a chyfraniad tuag at amcanion polisi. Mae lleoliadau hyblyg hefyd yn cynnig mwy o hygyrchedd ar gyfer dull mwy cynhwysol i Gymru gyfan. Mae'r opsiwn hwn yn dwyn y risg o fod yn feichus o ran adnoddau am ddau reswm: byddai angen mwy o recriwtio er mwyn sicrhau bod arbenigeddau yn cael eu cyflawni ac efallai y byddai'n fwy anodd cydgysylltu a rheoli canlyniadau pe bai nifer o grwpiau.
Opsiwn 4
:Tri phanel rhanbarthol ac ymgynghori ar-lein ad hoc. Byddai'r opsiwn hwn yn adlewyrchu cyd-destunau rhanbarthol a chynnig mwy o hygyrchedd i oroeswyr ledled Cymru o ran daearyddiaeth, mynediad i drafnidiaeth a'r dewis o hwyluso cyfarfodydd wyneb yn wyneb yn Gymraeg, o gymharu â phanel wedi'i leoli yng Nghaerdydd. Byddai ymgynghori ar-lein ad hoc yn fwy diogel, gyda llai o risg y byddai'r rhai sy'n cam-drin yn ymuno drwy ddichell pe cynhelid gweithgareddau untro. Mae'r opsiwn hwn yn gofyn am fwy o adnoddau o ganlyniad i redeg tri phanel ledled Cymru a mwy o waith cynllunio o ran cydlynu canlyniadau, adborth rhwng paneli a hwyluso.
Argymhellion
Yn seiliedig ar ganfyddiadau'r ymchwil hon, gwneir nifer o argymhellion.
Dylai'r tîm polisi ystyried amlinellu'n glir yr agweddau canlynol ar y panel i ddarpar banelwyr cyn iddynt ymrwymo i gymryd rhan.
- Cylch gorchwyl y panel.
- Disgrifiad o rôl aelod o'r panel.
- Meini prawf i fod yn gymwys i fod yn aelod o'r panel.
- Amcan o'r hyn y bydd yn ofynnol i'r panel ei wneud a'r canlyniadau disgwyliedig, i'w gyd-drafod unwaith y bydd y panel wedi'i recriwtio.
- Eglurder ynglŷn â chydnabyddiaeth ariannol i banelwyr e.e. costau teithio a chynhaliaeth yn unig, digolledu am enillion a gollwyd ac ati.
Dylid cynnal sesiynau panel mewn lleoliad niwtral.
Dylai sesiynau'r panel parhaol gael eu strwythuro'n glir, yn ddelfrydol drwy ddarparu deunydd darllen perthnasol, gosod agenda a nodi canlyniad clir cyn i'r sesiwn gael ei chynnal
Dylai'r tîm polisi ystyried yr awgrymiadau canlynol gan aelodau'r panel a'r rhanddeiliaid:
- Amrywio amlder a hyd y sesiynau yn unol â maint y pwnc dan sylw
- Cynnal sesiynau panel mewn rhannau gwahanol o Gymru er mwyn rhoi cyfle i unigolion nad ydynt yn y Ne Cymru i gymryd rhan a'u hannog i wneud hynny
- Cynnal sesiwn ragarweiniol i roi cyfle i aelodau'r panel gyfarfod a dod i adnabod ei gilydd. Byddai hyn yn rhoi cyfle i Lywodraeth Cymru gyfarfod ag aelodau'r panel ac i aelodau'r panel ddod i adnabod ei gilydd, a rhannu eu profiadau cyn cyfarfod cyntaf y panel. Dylai'r sesiwn ragarweiniol hefyd amlinellu pa agweddau ar VAWDASV y gall Llywodraeth Cymru effeithio arnynt h.y. dim ond yr agweddau sydd wedi'u datganoli
Dylai'r tîm polisi ystyried ymgysylltu â sefydliadau rhanddeiliaid ymhellach er mwyn codi ymwybyddiaeth o'r panel a deall y rhwystrau sy'n atal y goroeswyr y maent yn eu cefnogi rhag ymgysylltu, gyda'r nod o sicrhau mwy o gefnogaeth i'r panel o fewn y grwpiau hynny sydd wedi'u hymyleiddio.
Datblygu strategaeth glir o ran y cyfryngau cymdeithasol er mwyn ymgysylltu â'r rhai nad ydynt yn cael cymorth gwasanaethau ar hyn o bryd.
Dylai swyddogion Llywodraeth Cymru sicrhau bod y cydberthnasau rhwng y panel a'r grŵp rhanddeiliad arbenigol yn glir o'r cychwyn cyntaf.
Dylai'r tîm polisi ystyried Opsiwn 4 fel dull o ymgysylltu â goroeswyr yn y dyfodol.
Dylai'r tîm polisi gynnal gwerthusiad llawn o'r panel parhaol.
Manylion cyswllt
Awduron yr adroddiad: L Entwistle and J Coates
Barn yr ymchwilwyr a fynegir yn yr adroddiad hwn ac nid barn Llywodraeth Cymru o reidrwydd.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â'r canlynol:
Dr Jo Coates
E-bost: rhyf.irp@llyw.cymru
Rhif ymchwil gymdeithasol: 57/2021
ISBN digidol: 978-1-80195-816-5