Julie Morgan AS, Y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol,
Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Mae’r sector gofal plant yn chwarae rhan hanfodol yn ein heconomi, gan gynnig amgylcheddau cadarnhaol a llawn gofal i’n plant a helpu rhieni i fynd i’r gwaith neu i gael addysg neu hyfforddiant.
Ym mis Ebrill 2019, cafodd ein cynllun rhyddhad ardrethi i fusnesau bach ei estyn i ddarparu rhyddhad o 100% i bob darparwr gofal plant cofrestredig yng Nghymru am gyfnod o dair blynedd. Cafodd y cynllun ei lunio i helpu’r sector i ddarparu ein cynnig gofal plant. Mae’r cynnig yn darparu 30 awr o addysg gynnar a gofal plant, sy’n helpu rhieni i blant tair i bedair oed sy’n gweithio i gael mynediad at gyfleoedd gwaith.
Er mwyn helpu darparwyr i adfer ar ôl y pandemig, rydym yn estyn y rhyddhad ardrethi ychwanegol ar gyfer darparwyr gofal plant am dair blynedd arall, hyd at 31 Mawrth 2025. Amcangyfrifir y bydd y cynllun yn darparu £9.7m o gymorth ychwanegol i’r sector hollbwysig hwn dros y cyfnod dan sylw.
Bydd yr estyniad tair blynedd hwn yn cefnogi’r lleoliadau hynny sy’n wynebu heriau ariannol sylweddol o ganlyniad i’r pandemig a bydd yn helpu i sicrhau’r lefel o ddarpariaeth y mae plant a rhieni ei hangen ac yn dibynnu arni.
Mae’r cyhoeddiad hwn yn cefnogi ein hymrwymiad i barhau i flaenoriaethu buddsoddiad yn y sector gofal plant, fel y nodir yn ein cynllun 10 mlynedd ar gyfer y gweithlu Gofal Plant, Chwarae a’r Blynyddoedd Cynnar. Mae hefyd yn cydnabod y gwasanaeth hanfodol y mae lleoliadau gofal plant yn parhau i’w ddarparu fel rhan hollbwysig o’r seilwaith economi a gwaith, sy’n hanfodol i adferiad economaidd Cymru yn dilyn y pandemig.
Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau. Pe byddai’r aelodau am inni wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau am hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, bydden ni’n fodlon gwneud hynny.