Eluned Morgan AS, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
Heddiw, yn dilyn misoedd o drafod ac ystyried y dystiolaeth, mae’r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu wedi rhoi cyngor ar frechu plant a phobl ifanc 12-15 oed.
Maent yn argymell estyn y rhestr o gyflyrau iechyd penodol ar gyfer plant a phobl ifanc 12 - 15 oed sy’n gymwys ar gyfer dau ddos o’r brechlyn COVID-19. Mae eu cyngor yn nodi’r grwpiau ychwanegol a fydd yn gymwys. Bydd ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn gweithio’n gyflym i nodi’r plant a’r bobl ifanc hyn, a bydd eu Byrddau Iechyd yn cysylltu â hwy yn awtomatig. Nid oes angen i gleifion gysylltu â’u Byrddau Iechyd nac â chlinigwyr i wirio a ydynt yn gymwys. Bydd y plant a’r bobl ifanc hynny sydd eisoes yn gymwys yn unol â chyngor y Cyd-bwyllgor ynghylch cyflyrau iechyd penodol, wedi cael cynnig apwyntiadau erbyn hyn.
O ran plant a phobl ifanc 12-15 oed nad oes ganddynt gyflyrau iechyd sy’n bodoli eisoes, mae’r Cyd-bwyllgor wedi cynghori bod manteision brechu ychydig yn fwy na’r niwed posibl y gwyddom amdano, ond bod ansicrwydd sylweddol o ran maint y niwed hwn. O safbwynt manteision iechyd i unigolion, nid yw’r Cyd-bwyllgor ar hyn o bryd yn credu bod y manteision yn ddigon i gefnogi cyngor ar gyfer rhaglen frechu gyffredinol i blant 12-15 oed sy’n iach fel arall. Fodd bynnag, maent yn cydnabod bod materion ehangach i’w hystyried, materion nad yw’r Cyd-bwyllgor yn gyfrifol am eu gwerthuso o fewn ei gylch gwaith. Er enghraifft, effeithiau strwythurol ehangach, gan gynnwys manteision addysgol, lle byddai’r Prif Swyddog Meddygol mewn sefyllfa well i roi cyngor, gyda sylwadau gan y Cyd-bwyllgor.
Hoffwn ddiolch i’r Cyd-bwyllgor am roi ystyriaeth lawn i’r mater o frechu plant a phobl ifanc 12-15 oed, ac am gymryd gofal er mwyn ffurfio safbwynt cytbwys. Ochr yn ochr â gwledydd eraill y DU, rwyf wedi gofyn i fy Mhrif Swyddog Meddygol ddarparu canllawiau cyn gynted â phosibl ar y manteision clinigol a’r manteision iechyd ehangach sy’n gysylltiedig â brechu’r grŵp oedran hwn. Ein bwriad, fel ein bwriad ers dechrau’r pandemig, yw dilyn y dystiolaeth glinigol a’r dystiolaeth wyddonol. Bydd penderfyniadau ar frechu pob plentyn a pherson ifanc 12-15 oed yn cael eu gwneud ar sail cyngor y Prif Swyddog Meddygol, ynghyd â chyngor a ddarperir gan y Cyd-bwyllgor. Yn y cyfamser, mae ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol wedi cynllunio ar gyfer unrhyw benderfyniadau pellach a wneir ac yn barod i weithredu arnynt.
Mae'r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau. Os bydd aelodau'n dymuno imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau am y mater hwn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.