Cyfarfod y Fforwm Iechyd a Diogelwch: 25 Mawrth 2021
Crynodeb o’r penderfyniadau a’r camau gweithredu.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
1. Croeso a chyflwyniadau
Cytunwyd ar gofnodion a chamau gweithredu’r cyfarfod diwethaf.
2. Lleihau Effaith Covid-19 ar Weithwyr Asiantaeth
Rhoddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru gyflwyniad a oedd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Fforwm am eu prosiect oedd â’r nod o leihau risg Covid i weithwyr asiantaeth. Cyfrannodd aelodau’r Fforwm fewnbwn a sylwadau o safbwynt eu sefydliadau eu hunain.
3. Arolwg Iechyd a Diogelwch WTUC/YouGov
Cyflwynwyd a thrafodwyd y data. Gofynnodd sawl aelod o'r Fforwm am ddadansoddiad manylach o'r data ac am drafodaeth bellach i lywio unrhyw gasgliadau.
4. Cardiau gweithredu busnes
Eglurodd swyddogion Llywodraeth Cymru ddiben y cardiau gweithredu busnes a sut y cawsant eu datblygu. Cytunodd y Fforwm i roi adborth a hefyd i rannu’r cardiau gweithredu busnes drwy eu rhwydweithiau.
5. Dangosfwrdd a chynlluniau ar gyfer y cyfarfod nesaf
Cyflwynodd y Cadeirydd y dangosfwrdd data a thrafododd y Fforwm dueddiadau mewn gweithgarwch arolygu a gorfodi. Atgoffodd y Cadeirydd yr aelodau mai hwn oedd y cyfarfod olaf cyn etholiad y Senedd ac y byddai'r cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal ar ôl yr etholiad (yn amodol ar farn y weinyddiaeth newydd).