Neidio i'r prif gynnwy

Bydd cyffordd Baverstock yn cysylltu Heol Abertawe, Heol Merthyr, Heol yr Amlosgfa a’r A465.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Medi 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:
Image
map o'r gwaith ar gyffordd Baverstock
Map o'r gwaith ar gyffordd Baverstock

Beth ydyn ni'n ei wneud

  • ymchwiliadau archeolegol
  • symud ac ailgartrefu madfallod dŵr cribog a brithegion y gors
  • gosod ffordd dros dro
  • symud cyfleustodau
  • adeiladu ffyrdd ymuno a ffordd newydd
  • adeiladu pont

Pont dros yr A465, wedi’i chysylltu gan 2 gylchfan, fydd cyffordd Baverstock. Caiff hanner gorllewinol y gyffordd ei adeiladu ar arglawdd hyd at 52tr (16m) o uchder. I adeiladu’r hanner dwyreiniol, byddwn yn palu hyd at 55tr (17m) o dan y wyneb.

Byddwn yn adeiladu arglawdd 40tr (12m) o uchder i gysylltu ochr ddwyreiniol y gyffordd â’r ffordd.

Byddwn yn adeiladu ffordd newydd i gysylltu Heol Abertawe â chyffordd Baverstock. Bydd yn rhedeg yn gyfochrog i’r de o’r A465 arfaethedig, a bydd yn cario traffig dwyffordd.

Sut mae’r gwaith yn mynd yn ei flaen

  • symudwyd ac ailgartrefwyd madfallod dŵr cribog
  • mae Heol Abertawe wedi’i chau lle mae'n ymuno â'r A465
  • cliriwyd y tir cyn adeiladu'r A465 newydd
  • gosodwyd cwlfertau
  • adeiladwyd pyllau i reoli llif dŵr glaw i gyrsiau dŵr

 Y camau nesaf

  • adeiladu Heol Abertawe wedi'i hailalinio
  • adeiladu prif gerbytffordd yr A465

I gael newyddion traffig ar y gyffordd hon, ewch i Traffig Cymru.