Cyfarfod y Fforwm Iechyd a Diogelwch: 17 Medi 2020
Crynodeb o’r penderfyniadau a’r camau gweithredu.
Bydd PDF o'r ddogfen hon wedi'i lawrlwytho'n fuan
1. Croeso a chyflwyniadau
Amlinellodd y cadeirydd ei nodau a’i amcanion ar gyfer y fforwm.
2. Cylch gorchwyl
Trafodwyd y Cylch Gorchwyl a chytunwyd arno. Pwysleisiodd yr aelodau hefyd bwysigrwydd rhannu gwybodaeth.
3. Ardaloedd lle mae risg uchel o drosglwyddo COVID-19
Derbyniodd a thrafododd yr aelodau gyflwyniad ar y ffactorau risg sy'n sail i drosglwyddo COVID-19 a'r sectorau lle mae’r risgiau o drosglwyddo COVID-19 yn uchel.
4. Gwersi a ddysgwyd yn ystod y pandemig COVID-19 a chyfnewid gwybodaeth
Trafododd yr aelodau y gwersi a ddysgwyd hyd yma wrth ymdrin â throsglwyddo COVID-19 yn y gweithle. Rhoddodd y Cadeirydd grynodeb o'r rhain.
5. Ffocws y cyfarfod nesaf a chloi’r cyfarfod
Cytunwyd y byddai'r fforwm yn cyfarfod eto ym mis Hydref ac y byddai'r drafodaeth honno'n cynnwys awgrymiadau ynghylch gwybodaeth neu ddata y gallai’r partneriaid eu rhannu.