Sut i wneud cais am ein swyddi gwag
Canllawiau ar ymgeisio am ein swyddi yn Awdurdod Cyllid Cymru (ACC).
Cynnwys
Mae ein swyddi'n cael eu hysbysebu ar wefan Swyddi’r Gwasanaeth Sifil.
Bydd angen i chi ddarparu:
- datganiad personol
- CV
Dilynwch y canllaw hwn ar beth i'w gynnwys yn y dogfennau hyn.
Sut i ysgrifennu datganiad personol
Mae datganiad personol yn gyfle i chi ehangu ar eich CV er mwyn dangos eich bod yn addas ar gyfer y rôl rydych chi'n gwneud cais amdani.
Dylai eich datganiad personol:
- ddangos sut mae eich sgiliau trosglwyddadwy yn bodloni gofynion y rôl fel y'u disgrifir yn yr hysbyseb swydd a/neu swydd ddisgrifiad
- arddangos ei rhinweddau a'ch cryfderau personol, a disgrifio sut y bydden nhw’n trosglwyddo i'r rôl
- cynnwys enghreifftiau perthnasol o'ch profiad i gefnogi eich cais
- bod dim hirach na 1,250 o eiriau
Sut i ysgrifennu eich CV
Mae CV yn rhoi manylion eich:
- hanes cyflogaeth
- sgiliau a’ch profiad blaenorol
- cymwysterau
Gall eich CV gynnwys datganiad personol byr. Nid yw hyn yr un peth â'r datganiad personol y soniwyd amdano’n fanylach uchod.
Wrth ysgrifennu eich CV:
- dylech ei deilwra ar gyfer y rôl rydych chi'n gwneud cais amdani, gan ddangos sut rydych chi'n bodloni gofynion y rôl ac unrhyw feini prawf hanfodol
- defnyddiwch bwyntiau bwled
- rhowch eich addysg neu hanes gwaith mewn trefn fel bod y diweddaraf yn dod gyntaf
- ar gyfer pob rôl berthnasol rhowch:
- deitl eich swydd
- enw’r sefydliad
- dyddiadau cyflogaeth
- prif dasgau, cyfrifoldebau, rhanddeiliaid
- llwyddiannau sylweddol
- rhowh unrhyw waith gwirfoddol perthnasol
Dileu gwybodaeth bersonol
Rydym yn defnyddio recriwtio dienw er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn cael eich barnu yn ôl teilyngdod eich datganiad personol a'ch CV yn unig. Mae hyn yn helpu i ddilleu ffactorau amherthnasol fel cefndir, hil neu rywedd.
Peidiwch â chynnwys y canlynol ar eich CV a'ch datganiad personol:
- enw a theitl
- enwau sefydliadau addysgol
- oedran a rhywedd
- manylion cyswllt
- cenedligrwydd neu statws mewnfudo
Gallwch gynnwys manylion eich rôl neu sefydliad presennol.
Cynllun cyfweliad gwarantedig
Rydym yn annog pobl anabl i wneud cais am swyddi gyda ni.
Fel rhan o'r Cynllun Hyderus o ran Anabledd, rydym yn gwarantu cyfweliad i ymgeiswyr sydd ag anabledd cyn belled â’u bod yn bodloni lleiafswm y meini prawf dethol ar gyfer y rôl.
I gael eich ystyried ar gyfer cyfweliad o dan y cynllun hwn, mae'n rhaid i chi:
- fod â naill ai:
-
- nam corfforol neu feddyliol
- cyflwr iechyd hirdymor sy’n cael effaith andwyol sylweddol a hirdymor (dros 12 mis) ar eich gallu i wneud gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd
- dangos yn eich cais a'r camau profi eich bod yn bodloni lleiafswm meini prawf y swydd sydd yn yr hysbyseb neu’r manyleb person ar gyfer y rôl