Julie James AS, y Gweinidog dros Newid yn yr Hinsawdd
Mae'n bleser gennyf benodi'r Athro Calvin Jones, Mark McKenna a Paul Griffiths i fwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).
Hoffwn ddiolch i Chris Blake, Elizabeth Haywood a Howard Davies am eu gwasanaeth a'u hymrwymiad i CNC. Maen nhw'n gadael y bwrdd ar ôl gwasanaethu am chwe mlynedd.
Rwy'n rhoi pwys mawr ar rôl CNC a gwaith aelodau ei fwrdd. Mae Calvin, Mark a Paul i gyd yn dod â'u sgiliau a'u profiadau eu hunain, a fydd yn helpu i gryfhau'r bwrdd ac yn helpu CNC i dyfu a chwarae ei rôl lawn wrth gyflawni ein hamcanion ar gyfer y newid yn yr hinsawdd.
Bydd angen i fwrdd CNC wneud penderfyniadau pwysig yn ystod y misoedd nesaf wrth iddo fwrw ymlaen ag ymrwymiadau ein Rhaglen Lywodraethu. Penderfynais benodi Calvin, Mark a Paul yn uniongyrchol er mwyn sicrhau bod y bwrdd yn gweithio'n effeithiol ac yn llywodraethu ar yr adeg dyngedfennol hon.
Byddant yn gwasanaethu am gyfnod o 12 mis ac yn cael eu talu £350 y dydd am rhwng 36 a 48 diwrnod y flwyddyn, gan ddechrau ar 1 Medi 2021. Bydd ymgyrch recriwtio newydd ar gyfer y dair swydd ar y bwrdd yn cael ei chynnal ar ôl 12 mis.
Goruchwyliwyd y penodiadau hyn gan y Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus, sy'n sicrhau eu bod yn cael eu gwneud yn unol â'r Cod Llywodraethu ac egwyddorion penodiadau cyhoeddus.
Mae'r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau. Pe bai'r aelodau'n dymuno imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ar hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.