Ymlaen â’r sioe.
Pan roddodd cyfyngiadau COVID-19 derfyn ar gynulleidfaoedd yn ymgynnull i wylio perfformiadau byw ym mis Mawrth 2020, gorfodwyd Theatr Clwyd yn yr Wyddgrug, Sir y Fflint, i gau ei drysau am y dyfodol rhagweladwy.
Gyda mwy na 100 o weithwyr craidd – a throsiant blynyddol o £7 miliwn cyn y pandemig – bu’n rhaid i uwch dîm rheoli’r theatr symud yn gyflym i alluogi rhywfaint o barhad ar gyfer ei gwaith cymunedol a’i chynyrchiadau ar y llwyfan.
Addasodd y theatr trwy symud llawer o’i gwaith ar-lein gyda gweithdai rhithwir, gan greu platfform digidol newydd ar yr un pryd i alluogi ei chynyrchiadau llwyfan i fod yn hygyrch i gynulleidfa o bell. Yn y bôn, roedd angen i’r theatr droi’n un hollol rithwir mewn ychydig wythnosau.
Oherwydd y ffordd newydd hon o weithio roedd angen i’r timau technegol uwchsgilio eu galluoedd TG ar frys, er mwyn trosglwyddo i sioeau a chynnwys theatr ar-lein – her y gwnaethant ymateb iddi yn llawn brwdfrydedd.
Wrth gwrs, nid cynulleidfaoedd oedd yr unig rai nad oedd yn cael mynd i’r theatr. Roedd gweithlu’r theatr hefyd yn gorfod addasu i ffordd newydd o weithio i sicrhau bod Theatr Clwyd yn parhau’n gonglfaen Theatr Clwyd fel conglfaen i’r gymuned – a hynny ar ben cynnal sioeau theatr rhithwir.
I’r timau desg, yr her oedd yr angen uniongyrchol am atebion TG effeithiol, a fyddai’n caniatáu i weinyddwyr theatr, pobl marchnata a rheolwyr weithio gartref. Y mater mwyaf i’r tîm rheoli, yn hyn o beth, oedd jyglo caledwedd TG i sicrhau bod offer yn cael ei rannu mewn ffordd effeithlon er mwyn ei ddefnyddio yn y ffordd orau bosib.
I’r rhai a oedd yn gweithio mewn rolau mwy creadigol, roedd y sefyllfa’n fwy cymhleth. Mae Theatr Clwyd yn gyfrifol am ddarparu addysg gerddoriaeth y rhanbarth, ac ymatebodd cerddorion y theatr i’r cyfyngiadau symud yn gyflym ac yn effeithiol trwy roi eu dosbarthiadau cerdd ar-lein.
Ochr yn ochr â hyn oedd y gwaith ymgysylltu creadigol â’r gymuned ehangach sy’n digwydd mewn gweithdai dawns, celfyddydau gweledol a theatr.
At ei gilydd, roedd mwy na 1,000 o bobl yn cael sesiynau creadigol ar-lein bob wythnos.
Roedd pobl ifanc yn aml yn gallu addasu’n ddi-drafferth, ond ar gyfer mynychwyr gweithdai eraill, fel dioddefwyr dementia, roedd y newid i weithdai a gwersi ar-lein yn fwy cymhleth, a bu’n rhaid i dîm Theatr Clwyd weithio’n agos gyda thrydydd partïon, fel gofalwyr, i helpu i gael pobl ar-lein.
Roedd yn rhaid i’r tîm cefn llwyfan addasu hefyd, a oedd yn golygu bod pobl fel yr adran dillad a gwisgoedd yn defnyddio eu peiriannau gwnïo eu hunain gartref. Gweithiodd hyn yn dda, ar y cyfan, er bod yr angen i gael gafael ar offer arbenigol yn y theatr ar gyfer gwaith cymhleth yn parhau i fod yn anhawster.
I Liam Evans-Ford, cyfarwyddwr gweithredol Theatr Clwyd, roedd y ffordd newydd hon o weithio yn golygu tro 180 gradd i’w dîm mewn sector sydd wedi’i neilltuo ers tro byd i gyfoethogi bywydau trwy ddod â phobl ynghyd.
Meddai Liam:
“Gyda’n ffordd newydd o weithio, ehangodd ein cynulleidfaoedd yn ystod cyfnod y cyfyngiadau symud. Yn hanesyddol, mae ein cynulleidfa bob amser wedi bod o fewn 80 munud mewn car, ond trwy fynd ar-lein, roeddem yn cyrraedd gwledydd ledled y byd, ac mae hynny’n gorfod bod yn beth da i’r celfyddydau a diwylliant yng Nghymru.
“Mae’r staff wedi elwa hefyd, yn enwedig rhieni neu’r rheini sydd â rolau gofalu eraill.
"Mae’r dechnoleg, a gynigir gan blatfformau fel Zoom a Microsoft Teams, yn golygu y gallwn nawr fod gyda’n gilydd fel un – rhywbeth nad ydym erioed wedi llwyddo i’w wneud o’r blaen, a bydd hyn yn rhywbeth y byddwn yn parhau i’w wneud yn y dyfodol.
Ar hyn o bryd, wrth i’r cyfyngiadau lacio, mae Theatr Clwyd yn gweithredu polisi gweithio hyblyg 3:2, lle gall staff yng Ngogledd Cymru ddewis gweithio tridiau o’u cartref a dau ddiwrnod yn y theatr, neu i’r gwrthwyneb. Yr her sydd ganddynt nawr yw creu’r fframwaith a’r canllawiau cywir i sicrhau bod gweithio o bell yn gweithredu’n llwyddiannus yn y tymor hir.
Ychwanegodd Liam:
“Yn aml iawn, mae pobl sy’n gweithio yn y celfyddydau yn euog o beidio â chymryd seibiant o’u gwaith oherwydd bod gwaith yn llafur cariad. Mae gweithio o bell yn mynd i gynnig cyfle iddynt greu gwell cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith – ac os ydyn ni’n gwneud pethau’n iawn, mae hynny’n gorfod bod yn beth da.