Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Nod rhaglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur (LPfN) oedd treialu ymyriadau bychain sy’n cynorthwyo byd natur. Prif ffocws LPfN yw ymgysylltu gyda chymunedau ac annog cyfranogiad yn yr ymdrechion i greu lleoedd ar gyfer natur, gan gyfrannu yn ei dro at gadwraeth a chynaliadwyedd bioamrywiaeth ynghyd â’r buddion cymdeithasol a lles sy’n gysylltiedig â natur. Nod yr ymyrraeth yw bod yn rhywbeth bach a lleol, er yn amlwg, er mwyn ceisio sicrhau bod pobl yn gweld yr effaith gadarnhaol ar amrywiaeth a helaethrwydd 'byd natur ar eu stepen drws'.

Mae rhaglen LPfN yn ceisio annog ac ariannu grwpiau cymunedol i ymgysylltu gyda gwaith tyfu ar raddfa fach mewn mannau yn eu cymunedau. Mae'r dull yn cynrychioli ffordd gymharol newydd o ariannu a gweithio. Bwriad y rhaglen oedd bod yn brosiect arddangos, gan beilota gwahanol ddulliau. Rhesymeg y rhaglen yw os bydd pobl yn gallu ymgysylltu gyda natur yn yr ardaloedd lle maen nhw’n byw, gweithio ac yn defnyddio gwasanaethau, maen nhw’n fwy tebygol o’i werthfawrogi. Os bydd pobl yn gwerthfawrogi natur, byddant yn fwy tebygol o gefnogi camau gweithredu, mentrau a gwariant i gefnogi ymdrechion i wyrdroi dirywiad ac i wella natur. At hynny, credir y bydd mwy o fuddion anuniongyrchol yn cael eu sicrhau trwy ymgysylltu gyda natur, megis gwella lles corfforol a meddyliol.

Mae’r rhaglen hefyd yn gweithio tuag at y mesurau cymedrol a amlinellwyd gan y Prif Weinidog trwy dargedu ardaloedd trefol ac ar gyrion trefi ac ardaloedd cyhoeddus nad ydynt yn cynnig mynediad i natur. Mae’r rhaglen yn ceisio targedu cymunedau difreintiedig a dan anfantais yn arbennig.

Cyhoeddwyd cronfa gyfalaf o £5m i sefydlu Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yn y gyllideb ddrafft ar 12 Rhagfyr 2019. Defnyddiodd y rhaglen gyllid ychwanegol yn ystod y flwyddyn a chynyddwyd y gyllideb i £6.9m. 

Gweithredir y rhaglen trwy gyfrwng tri rheolwr cynllun. Mae CGGC yn gweinyddu grantiau (£2.7m at ei gilydd) i 25 o Bartneriaethau Natur Lleol (LNPs) i ddarparu cynlluniau lleol er mwyn adfer a gwella byd natur. Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol (NLHF) yn cynnig grantiau cyfalaf (£2.3m at ei gilydd) o £10–50,000 ar gyfer ymyriadau mwy pwrpasol ac wedi'u teilwra. Mae Keep Wales Tidy (KWT) yn cynnig pecynnau cychwyn a datblygu rhagdaledig o asedau cyfalaf i gymunedau (£1.8m at ei gilydd) er mwyn galluogi grwpiau cymunedol i sefydlu Gerddi Glöynnod Byw, Gerddi Ffrwythau a Gerddi Bywyd Gwyllt. Cafodd Pecynnau Datblygu mwy uchelgeisiol hefyd eu trefnu a’u darparu gan KWT.

Cynlluniwyd y tri chynllun i gyrraedd grwpiau gwahanol ac mae'n ymddangos eu bod yn cyflawni canlyniadau ychydig yn wahanol. Gyda'i gilydd, mae ganddynt y potensial i sicrhau newid o sawl maint, ac mewn perthynas ag amrediad o gymunedau ac unigolion, yn ogystal ag annog cynaliadwyedd ac ymgysylltu estynedig.

Mae'r gwerthusiad hwn yn ceisio asesu'r cynnydd a sicrhawyd wrth i'r rhaglen hon gynnig budd i fyd natur 'ar eich stepen drws' o bersbectif rheolwyr cynllun a chyfranogwyr erbyn diwedd y cyfnod gweithredol ym mis Mawrth 2021. Yn fwy penodol, roedd y gwerthusiad yn ceisio archwilio’r cwestiynau ymchwil canlynol:

  • A yw’r rhaglen wedi helpu i greu ‘byd natur ar eich stepen drws’ mewn ardaloedd trefol a lled drefol? Ac os felly, sut?
  • Sut mae’r rhaglen wedi effeithio ar yr unigolion a’r grwpiau a fu’n rhan ohoni?
  • Pa mor gynaliadwy yw ymgysylltiad y grwpiau gyda natur yn yr ardal leol?

Defnyddiwyd ystod o ddulliau gan gynnwys:

  • adolygu data monitor
  • cyfweliadau lled-strwythuredig gyda 13 o gydlynwyr LNP
  • pum prosiect sydd wedi derbyn Grantiau Cyfalaf Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol
  • arolwg ar-lein gydag ymgeiswyr ar gyfer pecynnau rhagdaledig KWT
  • grŵp ffocws gydag ymgeiswyr ar gyfer pecynnau KWT
  • cyfweliadau lled-strwythuredig gyda phum aelod o bersonél rheoli a darparu
  • chyfweliadau lled strwythuredig gyda 12 o randdeiliaid a nodwyd mewn partneriaeth gyda staff rheoli’r rhaglen

Darparwyd y rhaglen arddangos ar yr un pryd â’r pandemig coronafeirws a’r cyfnod clo cysylltiedig, gofynion cadw pellter cymdeithasol a mesurau iechyd cyhoeddus ehangach a weithredwyd gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. O ganlyniad, oherwydd oedi wrth ddarparu’r rhaglen, a bod y gwerthusiad hwn wedi’i gynnal ar gam cynnar yn y rhaglen, nid yw’n bosibl hyd yma i weld effeithiau’r rhaglen yn llawn. Teimlwyd hefyd gan fwyafrif yr ymatebwyr na fydd nifer o effeithiau cymunedol y lleoedd yn weladwy nac yn fesuradwy tan o leiaf Gwanwyn 2021.

Canfyddiadau

Mae'r data yn awgrymu'n gryf bod y tri chynllun neu y bydd y tri chynllun, er eu bod wedi cael    eu hoedi o ganlyniad i effaith y pandemig, wedi creu neu y byddant yn creu lleoedd newydd 'natur ar eich stepen drws'. Mae prosiectau LNP a Grantiau Cyfalaf yn debygol o arwain at greu lleoedd newydd sydd wedi’u hymgorffori o fewn cynlluniau cynaliadwyedd ehangach i sicrhau bod y lleoedd hyn yn hygyrch ac yn cael eu cynnal at y dyfodol.

Fodd bynnag, mae ymgysylltiad, ac felly’r effaith ar y gymuned wedi bod yn gyfyngedig oherwydd y pandemig. Er hynny, roedd cydlynwyr a rheolwyr prosiect yn optimistaidd yn eu disgwyliadau o’r effaith y byddai’r lleoedd newydd yn ei chael er mwyn galluogi mynediad ac ymgysylltiad gyda natur ar gyfer cymunedau.

Mae cydlynwyr LNP a chynlluniau Grantiau Cyfalaf yn diffinio ardaloedd amddifadedd gwledig ac ar gyrion trefi mewn modd mwy eang, ac yn rhoi ystyriaeth i’r grwpiau a fydd yn cael mynediad ac yn elwa o’r safleoedd, nid y lleoliad daearyddol yn unig. Dylid cynnal y canfyddiad eang yma o ardaloedd trefol ac ar gyrion trefi er mwyn galluogi cynlluniau i fanteisio ar gryfder allweddol eu dyluniad, sef eu hyblygrwydd a’u hymatebolrwydd i amgylchiadau a chyd-destunau lleol.

Mae’r pecynnau KWT wedi effeithio’n gadarnhaol ar unigolion a grwpiau sydd wedi ymgysylltu gyda’r gwaith a’r lleoedd. Nod y pecynnau oedd ymgysylltu grwpiau gyda phrosiectau natur, yn enwedig grwpiau newydd. Mae blwyddyn gyntaf y rhaglen wedi rhoi tystiolaeth o’r cysyniad hwn, gydag ystod o grwpiau, gan gynnwys grwpiau newydd, yn ymgysylltu gyda’r pecynnau. Yn fwy cyffredinol, mae’n ymddangos bod y cynllun yn chwarae rôl werthfawr o ran annog ymgysylltiad gyda natur ac annog y grwpiau i ddatblygu eu gweithgareddau gyda naill ai pecyn datblygu neu drwy ymgeisio ar gyfer cynllun Grantiau Cyfalaf Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Fe wnaeth yr ymatebwyr hefyd gadarnhau rhesymeg y rhaglen trwy adrodd gwelliant o ran lles corfforol a meddyliol o ganlyniad i’r gweithgareddau. Nododd yr unigolion hyn awydd i barhau gyda’u hymgysylltiad gyda phrosiectau natur ac i gefnogi rhaglenni natur eraill yn lleol ac yn genedlaethol.

Ystyriwyd hefyd bod y swyddogion prosiect ar gyfer y pecynnau KWT yn asedau gwerthfawr i’r cynllun, gyda’u hymweliadau safle’n cynnwys rhannu arfer da a gwybodaeth gyda gwirfoddolwyr a grwpiau. Mae’n bosibl y bydd yr elfen hon yn rhan allweddol o ddatblygu sgiliau a gwybodaeth gwirfoddolwyr natur sy’n aml yn gwirfoddoli am y tro cyntaf. Mae swyddogion prosiect hefyd yn debygol o fod yn ffynhonnell mewnwelediad i’r grwpiau ac i’r unigolion sy’n cymryd rhan yn y prosiect yn ogystal â’r cymunedau sy’n cael eu targedu. O ganlyniad, maent yn cynrychioli ffynhonnell allweddol o wybodaeth a phrofiad.

Fodd bynnag, nid yw’r lleoedd a grëwyd mewn ardaloedd trefol ac ar gyrion trefi’n unig. Mae caniatâd awtomatig am 200 o becynnau KWT ar gyfer cynghorau Tref a Chymuned, gyda nifer ohonynt mewn ardaloedd gwledig, wedi cyfyngu ar y gallu i ganolbwyntio’n benodol ar ardaloedd trefol neu ar gyrion trefi’n unig. At hynny, nid oedd y data a oedd ar gael yn galluogi llunio unrhyw farn o ran ansawdd y lleoedd natur, a ph’un a oedd y pecynnau neu unrhyw gynllun yn gwella lleoedd natur, ac i ba raddau.

Mae’r cynlluniau LNP a Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol wedi ymgorffori eu cynlluniau cynaliadwyedd i’w dyluniadau a’u cynlluniau. At hynny, mae’r Awdurdodau Lleol a’r cynghorau Tref a Chymuned (yn enwedig o ran deiliaid Grantiau Cyfalaf) yn cynnig adnodd i gefnogi mwy o ymgysylltiad gyda’r lleoedd hynny. Cafwyd tystiolaeth hefyd o ddeiliaid pecynnau KWT yn mynegi diddordeb mewn datblygu eu lleoedd mewn modd mwy pwrpasol, ac i wneud hynny trwy geisio cael mynediad at y cynllun Grantiau Cyfalaf.

Ystyriwyd bod rhaglen Grantiau Cyfalaf Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yn hynod effeithiol o ran cefnogi cynlluniau ehangach ar gyfer adfer ardaloedd penodol mewn ffyrdd penodol iawn ac wedi’u teilwra. Mewn egwyddor, roedd y grantiau hefyd yn gallu gweithredu fel modd o ddatblygu lleoedd a oedd wedi elwa o’r pecynnau rhagdaledig gan KWT, er hyd yn hyn, dim ond ymholiadau sydd wedi cael eu gwneud. Mae’r potensial yma’n cynrychioli ffordd o gefnogi cynaliadwyedd ymgysylltiad grwpiau gyda natur.

Fodd bynnag, er y cyswllt gyda thimoedd rheoli’r cynllun a chydlynwyr LNP, nid yw’n glir pa effaith y mae’r pandemig wedi’i gael ar grwpiau gwirfoddol a’u gallu i ymgysylltu ar ôl y pandemig. Dylai asesu’r capasiti hwn a chefnogi ymgysylltiad fod yn ystyriaeth allweddol o ran rheoli’r rhaglen dros y flwyddyn sydd i ddod.

Ceir tystiolaeth sylweddol bod y gronfa arddangos wedi annog proses ddysgu adeiladol. Mae tystiolaeth o gylchoedd gwerthuso mewnol effeithiol drwy gydol y rhaglen. Ynghyd â phrofiad ymarferol sylweddol o ddarparu o fewn cyd-destun heriol tu hwnt, mae’n ymddangos bod y timoedd rheoli a darparu mewn lle da i wella a mireinio’r rhaglen yn ystod 2021-22.

Mae'r pandemig wedi effeithio ar bob cynllun mewn ffordd arwyddocaol. Mae'r   effaith ar gaffael ac argaeledd deunydd i'w ddosbarthu, offer a deunyddiau, yn ogystal â'r gwaith sydd wedi cronni ac sy'n oedi ymgysylltiad contractwyr ar rai safleoedd, wedi oedi'r gwaith. Yn achos cynllun KWT, mae swyddogion prosiect wedi cynorthwyo'r gwaith cyflawni, a bu'n rhaid i gynlluniau eraill oedi gwaith dilynol.

Y peth sydd wedi cael yr effaith fwyaf, fodd bynnag, yw'r cyfyngiad sylweddol ar weithgarwch gwirfoddoli ac ymgysylltu unigol neu gymunedol ar draws pob cynllun a safle. Credir y gallai categorïau cyfranogwyr 18-44 a 75+ oed fod wedi wynebu rhwystrau sylweddol wrth gymryd rhan oherwydd eu bod yn gwarchod ac yn agored i niwed neu oherwydd cyfrifoldebau gofal plant a gofalu.

O ystyried nodau craidd y rhaglen, rhaid deall yr effaith y gwelwyd             tystiolaeth ohoni yn yr adroddiad hwn o fewn y cyd-destun hwn, ac mae'n debygol iawn y byddai effaith ehangach ac ar raddfa fwy wedi bod yn bosibl efallai pe na      bai'r cyfnodau clo wedi cyfyngu ar y gweithgarwch ymgysylltu gyda'r lleoedd i'r graddau ag y maent wedi gwneud hynny. Fodd bynnag, credir fod yr holl gynlluniau wedi elwa o gynnydd mewn galw i gael mynediad ar fwy o leoedd ar gyfer natur. Mae’n bosibl y bydd sgil effaith y cyfnod clo’n arwain at gyfle unigryw i ymgysylltu pobl gyda natur, bioamrywiaeth, a gwirfoddoli amgylcheddol a chadwraeth.

Manylion cyswllt

Dyfan Powel (Wavehill)
Anna Burgess (Wavehill)
Andy Parkinson (Wavehill)

Safbwyntiau'r ymchwilydd a fynegir yn yr adroddiad hwn, ac nid rhai Llywodraeth Cymru o reidrwydd.

Am wybodaeth bellach, cysylltwch â:
Isabella Malet-Lambert
E-bost: ymchwildyfodolcynaliadwy@llyw.cymru

Rhif ymchwil gymdeithasol: 56/2021
ISBN digidol: 978-1-80195-830-1

Image
GSR logo