Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Heddiw, byddaf yn cyhoeddi y wybodaeth ddiweddaraf ar y Raglen Frechu COVID-19, ac yn y tymor newydd bydd y diweddariadau hyn yn cael eu rhyddhau bob pythefnos.
Er bod dros 4.5 miliwn o frechiadau COVID-19 wedi cael eu rhoi yng Nghymru, mae pobl nad ydynt wedi cael eu dos cyntaf o hyd. Gyda'r cynnydd mewn achosion o COVID-19, yn enwedig mewn oedolion 18–29 oed lle mae'r nifer sy'n manteisio ar y brechlyn ar ei isaf, hoffwn ein hatgoffa i gyd mai'r brechlyn yw’r hamddiffyniad gorau posibl rhag y coronafeirws. Rydym am ei gwneud mor hawdd â phosibl i bobl gael eu brechu gyda chanolfannau mewn sawl rhan o Gymru ar agor ar gyfer apwyntiadau galw i mewn. Mae taflenni a gwybodaeth i gleifion ar gael cyn derbyn y brechlyn fel y gallwch wneud penderfyniad gwybodus. Gall gweithwyr gofal iechyd proffesiynol mewn canolfannau brechu helpu gydag unrhyw gwestiynau. Anogwch bobl i ddod a chael eu brechu cyn i’r ymgyrch i roi dos atgyfnerthu ddechrau yn yr hydref.
I'r rhai sydd eisoes wedi dod i gael eu brechu, hoffwn ddiolch ichi am chwarae eich rhan wrth ein cadw ni i gyd yn ddiogel. Hoffwn ddiolch hefyd i bawb sy'n gysylltiedig â’r rhaglen am eu gwaith anhygoel sy'n gwneud y cynnydd hwn yn bosibl.
Mae'r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau. Os bydd aelodau'n dymuno imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau am y mater hwn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.