Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd dinasyddion yr UE yng Nghymru yn parhau i allu cael cymorth cyfrinachol am ddim ar gyfer eu ceisiadau i’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE hyd at 31 Rhagfyr 2021.
Roedd y Cynllun hwn gan y Swyddfa Gartref yn cynnig y cyfle i ddinasyddion yr UE, dinasyddion o Ardal Economaidd Ewropeaidd nad yw yn yr UE a dinasyddion o’r Swistir, ynghyd ag aelodau o’u teuluoedd sy’n gymwys, ddiogelu eu statws preswylio ers i’r DU ymadael â’r Undeb Ewropeaidd.
Daeth y Cynllun i ben ddiwedd mis Mehefin 2021, ond mae’r Swyddfa gartref yn dal i dderbyn ceisiadau hwyr os oes sail resymol.
Daw’r cyhoeddiad wrth i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt, ymuno â’r llywodraethau datganoledig eraill i lofnodi llythyr sy’n galw ar Lywodraeth y DU i gynnig i ddinasyddion yr EU dystiolaeth bapur o’u statws preswylydd sefydlog neu breswylydd cyn-sefydlog.
Ar hyn o bryd, dim ond yn ddigidol y caiff statws ei gadarnhau. Mae’r gwledydd datganoledig wedi dod ynghyd i annog Llywodraeth y DU i gynnig dogfen bapur sy’n cadarnhau Statws Preswylydd Sefydlog neu Breswylydd Cyn-Sefydlog, yn ogystal â’r dystiolaeth ddigidol bresennol.
Maent yn dweud y byddai hyn yn gam ychwanegol i roi sicrwydd, helpu i atal gwahaniaethu, a chynorthwyo cyflogwyr a darparwyr gwasanaethau eraill.
Mae’r cyhoeddiad heddiw [dydd Mawrth 31 Awst] yn cadarnhau y bydd dinasyddion yr UE yn parhau i allu cael cymorth am ddim gan y cwmni cyfreithiol arbenigol Newfields Law hyd at ddiwedd 2021.
Mae hyn ar ben y cymorth cyfrinachol gan Cyngor Ar Bopeth Cymru a’r elusen Settled, y mae Llywodraeth Cymru wedi’i hariannu ers 2019.
Roedd y Swyddfa Gartref yn wreiddiol yn rhag-weld y byddai angen i tua 70,000 o wladolion yr UE sy’n byw yng Nghymru wneud cais i’r Cynllun, ond roedd data Awdurdodau Lleol yn amcangyfrif y byddai’n nes at 95,000 o ddinasyddion yr UE, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir.
Mae ystadegau diweddaraf y Swyddfa Gartref yn dangos bod 96,800 o geisiadau wedi’u gwneud gan y rhai sy’n byw yng Nghymru, hyd at 30 Mehefin 2021.
Dywedodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt:
Mae Cymru wedi ymrwymo o hyd i sicrhau bod dinasyddion yr UE, yr ydym yn eu mawr werthfawrogi, yn gallu sicrhau’r statws angenrheidiol i aros yn y DU yn gyfreithlon.
Rwy’n falch ein bod yn gallu parhau i ddarparu ystod o gymorth cyfrinachol am ddim i roi sicrwydd i ddinasyddion yr UE yng Nghymru fod croeso iddynt yma a’n bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i wneud yn siŵr y gallant aros, heb orfod pryderu.
Dywedodd Newfields Law:
Rydym yn falch iawn o barhau i roi cymorth i’r rhai sy’n byw yng Nghymru sydd angen gwneud cais i’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE.
Byddem yn annog unrhyw un sydd angen cymorth i ddod ymlaen cyn gynted â phosibl fel y gallwn sicrhau’ch hawl i aros yn y DU.
Mae cyngor i ddinasyddion yr UE yng Nghymru ar gael yn llyw.cymru/paratoi-cymru/dinasyddion-yr-ue