Mae pobl yn cael eu hannog i fynegi barn am newidiadau posibl i drethi lleol y gallai awdurdodau lleol eu defnyddio i ddelio ag effaith niferoedd mawr o ail gartrefi a llety gwyliau masnachol mewn rhannau o Gymru.
Mae ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y dreth gyngor ac ardrethi annomestig yn rhan o haf o weithredu a gafodd ei lansio gan y Gweinidog Newid Hinsawdd Julie James fis diwethaf i fynd i’r afael ag effaith ail gartrefi ar rai o gymunedau Cymru.
Er y gall perchnogion ail gartrefi a phobl sy’n aros mewn llety gwyliau wneud cyfraniad pwysig at ein heconomïau lleol, rydym am sicrhau bod pob perchennog tŷ a busnes yn gwneud cyfraniad teg at y cymunedau lle maen nhw’n berchen ar eiddo neu’n gosod eiddo.
Bydd yr ymgynghoriad yn ceisio barn am y lefel uchaf y gall awdurdodau lleol osod cyfradd uwch y dreth gyngor arni ar gyfer ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor. Bydd hefyd yn holi barn pobl am y meini prawf sy’n cael eu defnyddio er mwyn i eiddo gael ei ddiffinio fel llety hunanddarpar annomestig.
Cymru yw’r unig wlad o hyd yn y DU sydd wedi rhoi pŵer i awdurdodau lleol godi cyfradd uwch o 100% ar gyfer y dreth gyngor ar ail gartrefi a chartrefi gwag hirdymor (sef y rhai sydd wedi bod yn wag ers dros flwyddyn).
Gellir defnyddio’r incwm ychwanegol hwn i roi sylw i faterion sy’n effeithio ar gyflenwad tai fforddiadwy neu i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus a chyfleusterau eraill megis trafnidiaeth gyhoeddus.
Bydd yr ymgynghoriad hefyd yn gofyn am farn pobl am sut y caiff eiddo ei ddynodi’n fusnes hunanddarpar a’i restru ar gyfer ardrethi annomestig.
Ar hyn o bryd, mae pob eiddo busnes bach sydd wedi’i feddiannu ac sydd o dan werth ardrethol penodol, gan gynnwys unedau hunanddarpar, yn gymwys ar gyfer Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach, yn amodol ar gyfyngiad o ddau eiddo fesul busnes fesul awdurdod lleol.
Bydd yr ymgynghoriad hwn yn ystyried y meini prawf ar gyfer diffinio eiddo fel llety hunanddarpar annomestig ac a oes angen trothwyon gwahanol.
Dywedodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol Rebecca Evans:
Rydym yn awyddus i glywed gan bobl sy’n byw mewn cymunedau sy’n teimlo effaith y materion hyn yn ogystal â pherchnogion ail gartrefi a llety gwyliau, cynrychiolwyr y diwydiant hunanddarpar a thwristiaeth, ac awdurdodau lleol.
Rydym yn rhag-weld y byddwn yn cael ystod eang o ymatebion. Bydd pob un o’r ymatebion hyn yn llywio ein polisïau yn y dyfodol o ran newidiadau posibl i drethi lleol er mwyn sicrhau system decach i bawb.
Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd Julie James:
Rydym yn trysori ein henw da yng Nghymru fel cymdeithas ddwyieithog, groesawgar y mae gan dwristiaeth a pherchnogion ail gartrefi presennol gyfraniad i’w wneud ati.
Serch hynny, rydym hefyd yn cydnabod yr effaith y gall niferoedd mawr o ail gartrefi a llety gwyliau hunanddarpar ei chael ar y farchnad dai a’r farchnad rentu leol ac ar gynaliadwyedd cymunedau lleol. Mewn rhai ardaloedd, fe allen nhw beryglu cynaliadwyedd y Gymraeg fel iaith gymunedol.
Dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg:
Mae sicrhau bod pobl leol yn gallu byw yn y cymunedau lle cawsant eu magu, a sicrhau iechyd a bywiogrwydd y Gymraeg fel iaith gymunedol sy’n mynd o nerth i nerth yn brif flaenoriaethau i Lywodraeth Cymru.