Cyfarfod y Cabinet: 5 Gorffennaf 2021
Cofnodion cyfarfod o'r Cabinet ar 5 Gorffennaf 2021.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
- Lesley Griffiths AS (Cadeirydd)
- Rebecca Evans AS
- Vaughan Gething AS
- Jane Hutt AS
- Eluned Morgan AS
- Jeremy Miles AS
- Mick Antoniw AS
- Dawn Bowden AS
- Hannah Blythyn AS
- Julie Morgan AS
- Lynne Neagle AS
- Lee Waters AS
Ymddiheuriadau
- Y Gwir Anrh. Mark Drakeford AS
- Julie James AS
Swyddogion
- Shan Morgan, yr Ysgrifennydd Parhaol
- Des Clifford, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Swyddfa’r Prif Weinidog
- Will Whiteley, Dirprwy Gyfarwyddwr, Is-adran y Cabinet
- Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
- Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig
- Madeline Brindley, Cynghorydd Arbennig
- Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig
- Daniel Butler, Cynghorydd Arbennig
- Ian Butler, Cynghorydd Arbennig
- Kate Edmunds, Cynghorydd Arbennig
- Sara Faye, Cynghorydd Arbennig
- Clare Jenkins, Cynghorydd Arbennig
- Andrew Johnson, Cynghorydd Arbennig
- Mitch Theaker, Cynghorydd Arbennig
- Tom Woodward, Cynghorydd Arbennig
- Christopher W Morgan, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
- Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
- Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus
- Andrew Goodall, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd
- Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Cydgysylltu Argyfwng COVID-19
- Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol
- Catrin Sully, Swyddfa'r Cabinet
- Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr Trysorlys Cymru
- Frank Atherton, y Prif Swyddog Meddygol
- Rob Ord, y Prif Gynghorydd Gwyddonol ar Iechyd
- Fliss Bennee, Cyd-gadeirydd TAC
- Tom Smithson, Dirprwy Gyfarwyddwr, Ailgychwyn
- Liz Lalley, Dirprwy Gyfarwyddwr, Adfer
- Bill MacDonald, Adfer yn sgil COVID-19
- Helen Lentle, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol
- Dylan Hughes, y Prif Gwnsler Deddfwriaethol
- Piers Bisson, Cyfarwyddwr, Pontio Ewropeaidd, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
- Christopher Warner, Dirprwy Gyfarwyddwr Materion Cyfansoddiadol
- Ed Sherriff, Dirprwy Gyfarwyddwr, Pontio Ewropeaidd
- Gemma Nye, Swyddfa'r Prif Swyddog Meddygol
Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd wrth y Cabinet fod y Prif Weinidog wedi gofyn iddi gadeirio'r Cabinet oherwydd profedigaeth deuluol.
Cofnodion y cyfarfod blaenorol
1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 28 Mehefin.
Busnes y Senedd
2.1 Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd wrth y Cabinet fod nifer o newidiadau i fusnes y Senedd. Byddai'r Gweinidog yn ymateb i Gwestiynau'r Prif Weinidog a byddai'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad yn cyflwyno'r Datganiad Deddfwriaethol. Yn ogystal, byddai Gweinidog y Gymraeg ac Addysg yn gwneud datganiad ar 'Ddiwygio'r Cwricwlwm, y camau nesaf’.
2.2 Nid oedd unrhyw bleidleisiau wedi’u trefnu ar gyfer dydd Mawrth ac roedd disgwyl i'r pleidleisio ddydd Mercher ddigwydd tua 5:45pm.
Cynllun Rheoli’r Coronafeirws: Mesurau Llinell Sylfaen
3.1 Cyflwynodd y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd yr eitem, a oedd yn gofyn i'r Cabinet gytuno ar fesurau y dylid eu datblygu, gyda phartneriaid, i ffurfio Lefel Rhybudd llinell sylfaen newydd. Byddai hon yn is na Lefel Rhybudd 1 yn y Cynllun Rheoli’r Coronafeirws cyffredinol. Roedd y Gweinidogion eisoes wedi trafod cynigion i symud oddi wrth gyfyngiadau ar nifer y bobl sy'n ymgynnull at ddull lle byddai terfynau’n cael eu gosod ar sail asesiad risg o leoliadau penodol, a chadw’r drefn Profi Olrhain Diogelu a dyletswyddau cyfreithiol ategol. Byddai angen cadarnhau'r penderfyniadau hyn yn awr ynghyd â'r mesurau eraill a oedd wedi’u hamlinellu yn y papur ategol.
3.2 Gwahoddwyd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i roi adborth o'r cyfarfod yn gynharach y diwrnod hwnnw gyda Changhellor Dugiaeth Caerhirfryn a chynrychiolwyr o'r gwledydd datganoledig eraill am gynlluniau Llywodraeth y DU i godi cyfyngiadau yn Lloegr.
3.3 Adroddwyd bod y data a gyflwynwyd yn y cyfarfod yn dangos bod y cyfraddau heintio yn Lloegr yn dyblu bob wyth diwrnod yn fras a bod y cyfraddau derbyn i'r ysbyty yn dyblu bob 12 diwrnod. Gallai achosion newydd fod hyd at 50,000 y dydd cyn bo hir.
3.4 Er gwaethaf hyn, roedd Gweinidogion y DU yn benderfynol o fwrw ymlaen i 'ailagor cymdeithas' yn Lloegr ar 19 Gorffennaf. Byddai hyn yn golygu na fyddai unrhyw gyfyngiadau ar gyswllt cymdeithasol, byddai’r rheol un fetr a mwy yn cael ei dileu, ac eithrio mewn lleoliadau cyfyngedig, ac ni fyddai gofyniad cyfreithiol i wisgo gorchuddion wyneb, er y byddai hyn yn dal i gael ei argymell drwy ganllawiau mewn rhai sefyllfaoedd.
3.5 Byddai clybiau nos yn cael ailagor a byddai'r terfynau capasiti ar fusnesau yn cael eu codi, yn ogystal â’r rhai ar gyfer pobl sy’n mynychu priodasau, angladdau a digwyddiadau. Byddai’r canllawiau ar weithio gartref a’r cyfyngiadau ar niferoedd sy'n ymweld â chartrefi gofal hefyd yn dod i ben. Byddai'r system Profi ac Olrhain yn parhau i fod ar waith yn ogystal â'r gofyniad i hunanynysu, er na fyddai hyn yn berthnasol i bobl sy’n dod i gysylltiad ag achosion positif os ydynt wedi’u brechu'n llawn neu os ydynt o dan 18 oed. Yn ogystal, byddai'r gofyniad i dreulio cyfnod mewn cwarantin wrth ddychwelyd o wledydd 'rhestr oren' yn cael ei ddileu ar gyfer pobl sydd wedi’u brechu’n llawn.
3.6 Cyfeiriodd y Gweinidog at y papur ar fesurau llinell sylfaen a dywedodd bod y cyngor diweddar gan y Grŵp Cyngor Technegol fel pe bai'n dangos bod y cysylltiad rhwng haint a salwch difrifol wedi gwanhau'n sylweddol, ac felly bod newid posibl yng nghydbwysedd y niwed. Byddai angen ystyried y cyngor hwn ymhellach yng ngoleuni'r data diweddar o Loegr a'i ddefnyddio i lywio'r adolygiad nesaf o'r rheoliadau, a oedd wedi'i drefnu ar gyfer yr wythnos ganlynol.
3.7 Atgoffwyd y Gweinidogion mai diben y cyfyngiadau sy'n ymwneud â COVID-19 yw atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder a lledaeniad haint neu halogiad. Rhaid bod bygythiad i iechyd y cyhoedd a rhaid i'r cyfyngiadau fod yn gymesur o ran yr hyn y maent yn ceisio ei gyflawni.
3.8 Yn ogystal â'r argymhellion ar gadw pellter cymdeithasol a Phrofi Olrhain Diogelu, a fyddai'n gofyn am waith pellach, gofynnwyd i’r Gweinidogion gytuno y dylai'r canllawiau barhau i annog pobl i weithio gartref lle y bo'n bosibl, a byddai angen i gyflogwyr hwyluso hynny. Yn ogystal, roedd yn bwysig tanlinellu pwysigrwydd aros gartref os ydych yn sâl.
3.9 Cynigiwyd y dylid cael gofyniad cyfreithiol parhaus i wisgo gorchuddion wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus ac, o bosibl, mewn rhai lleoliadau cyhoeddus o dan do, yn enwedig lle y gallai fod yn anodd cadw pellter cymdeithasol. O ran mesurau rhesymol sy'n gysylltiedig ag asesiadau risg mewn gweithleoedd, safleoedd manwerthu a lletygarwch a gwasanaethau cyhoeddus, roedd angen gwneud rhagor o waith gyda'r gwahanol sectorau i sicrhau bod y gweithlu wedi'i ddiogelu'n ddigonol.
3.10 Byddai angen datblygu canllawiau hefyd ynghylch sicrhau bod pellter corfforol yn cael ei gadw, lle y bo'n bosibl, bod safleoedd yn cael eu hawyru’n ddigonol a bod pobl yn cael eu hannog i wneud dewisiadau cyfrifol i osgoi gorlenwi. Dylid nodi pwysigrwydd hylendid anadlol a hylendid dwylo yn glir.
3.11 Croesawodd y Cabinet y papur ond mynegodd bryder ei bod yn ymddangos bod Llywodraeth y DU yn bwrw ymlaen â chodi'r cyfyngiadau yn Lloegr yn llawn er bod y cyfraddau heintio'n cynyddu. Cytunwyd y dylai'r broses o wneud penderfyniadau yng Nghymru gael ei llywio gan y cyngor gwyddonol bob amser, ac y dylid egluro hyn yn y negeseuon cyhoeddus.
3.12 O ran y mesurau llinell sylfaen arfaethedig, cadarnhaodd y Cabinet yr argymhellion yn ymwneud â'r set derfynol o gyfyngiadau.
3.13 Derbyniodd y Cabinet yr argymhellion yn ymwneud â gweithio gartref.
3.14 Cytunodd y Gweinidogion y dylai'r gofynion cyfreithiol i wisgo gorchuddion wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus barhau i fod ar waith ac y dylai'r negeseuon fod yn glir nad dewis personol oedd y cyfyngiad hwn ond ei fod yn amddiffyn pobl eraill, gan gynnwys y gweithlu. Gallai'r cyfyngiadau hyn barhau hefyd ar gyfer lletygarwch a manwerthu.
3.15 Cymeradwyodd y Cabinet y papur.
Comisiwn Cyfansoddiadol
4.1 Cyflwynodd y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad y papur, a oedd yn gwahodd y Cabinet i gytuno ar y dull cyffredinol o sefydlu'r Comisiwn Cyfansoddiadol, gan gynnwys ffurfio panel arbenigol.
4.2 Cyd-destun yr addewid i sefydlu Comisiwn Cyfansoddiadol oedd y sefyllfa gyfansoddiadol sy'n esblygu yn y DU, lle mae Llywodraeth y DU yn ymddwyn yn gynyddol awdurdodol tuag at y Llywodraethau Datganoledig, fel y gwelwyd yn achos y pwerau cymorth ariannol yn Neddf Marchnad Fewnol y DU. Roedd galwadau hefyd am ail refferendwm ar annibyniaeth yn yr Alban ac ansicrwydd parhaus ynghylch sefydlogrwydd Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon, gyda thensiynau cynyddol o ran gweithredu Protocol Gogledd Iwerddon.
4.3 Roedd hyn yn brawf o ddadl gyson y Llywodraeth bod angen diwygio cyfansoddiadol ac roedd hyn wedi'i nodi'n glir yn y fersiwn newydd o 'Diwygio ein Undeb’ a oedd wedi’i chyhoeddi.
4.4 Byddai angen i'r Comisiwn arwain ar y gwaith o ymgysylltu â'r cyhoedd i godi ymwybyddiaeth a helpu i greu consensws cyhoeddus ehangach, gan geisio barn ar y materion hynny a oedd bwysicaf i bobl Cymru, yn enwedig o ran y ffordd yr oedd Cyfansoddiad y DU yn gweithredu a'r goblygiadau i wasanaethau. Byddai angen hefyd i gonsensws gael ei greu gyda’r gymdeithas sifig ar sut y dylid diwygio'r cyfansoddiad i adeiladu Cymru gryfach o fewn Teyrnas Unedig lwyddiannus.
4.5 Gan y byddai angen i'r Comisiwn wynebu tuag allan, cynigiwyd y dylai gael ei gefnogi gan banel arbenigol i wneud gwaith ymchwil a dadansoddi i greu sylfaen dystiolaeth gredadwy.
4.6 Cymeradwyodd y Cabinet y papur.