Ddydd Gwener 20 Awst, bydd tîm o bobl greadigol, gan gynnwys partneriaid o Gymru, yn lansio 'Fix Up The City', y profiad realiti estynedig (AR) dinesig cyntaf erioed yn seiliedig ar y ddeuawd eiconig Wallace a Gromit, yng Nghaerdydd, San Francisco a Bryste.
Mae'r antur estynedig newydd wedi'i chreu gan Aardman, stiwdio animeiddio sydd wedi ennill sawl gwobr, a Fictioneers: sy'n gydweithrediad rhwng partneriaid gan gynnwys Gemau Tiny Rebel o Gasnewydd, Potato (rhan o rwydwaith AKQA), a Sugar Creative.
Mae'r gweithgaredd, a ariennir gan UK Research and Innovation (UKRI), yn dilyn lansiad llwyddiannus Fictioneers o The Big Fix Up yn gynharach eleni. Cafodd y prosiect gefnogaeth hefyd gan Lywodraeth Cymru drwy Cymru Greadigol. Mae Cymru Greadigol yn un o asiantaethau mewnol Llywodraeth Cymru sy'n cefnogi datblygiad y diwydiant creadigol sy'n tyfu'n gyflym yng Nghymru, sy'n canolbwyntio ar ddatblygu a hyrwyddo twf ar draws y sectorau sgrin, digidol, cerddoriaeth a chyhoeddi.
Meddai Cyfarwyddwr Creadigol Gemau Tiny Rebel (cyd-sylfaenydd Fictioneers), Lee Cummings:
"Rydym mor gyffrous i lansio Fix Up The City yr haf hwn. Mae'n brofiad sy'n rhoi'r dinasoedd hyn ar flaen y gad o ran profiadau realiti estynedig ar raddfa dinas. Mae'r prosiect hwn wedi ein galluogi i gyflawni ein huchelgais a'n galluoedd llawn a ddefnyddiwyd wrth ddatblygu The Big Fix Up..."
Dywedodd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon Llywodraeth Cymru, Dawn Bowden:
"Mae hon yn fenter mor gyffrous - ac rwy'n falch iawn o weld prosiect arloesol a chreadigol hefyd yn rhoi hwb economaidd i'r ddinas. Mae bod ochr yn ochr â Bryste a San Francisco yn rhoi Cymru greadigol ar y map. Edrychwn ymlaen at weld pobl yn mwynhau anturiaethau Wallace a Gromit dros yr haf."
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury:
"Mae sector digidol a chreadigol Caerdydd yn un o'i gryfderau, ac mae Bae Caerdydd yn un o brif gyrchfannau twristiaeth y ddinas, gan ei wneud yn lleoliad perffaith ar gyfer yr hyn sy'n addo i fod yn brofiad gwych i ymwelwyr o bob rhan o'r rhanbarth, a thu hwnt.
"Bydd y dechnoleg realiti estynedig y tu ôl i'r antur rhyngweithiol hwn yn trawsnewid yr ardal yn stori deuluol, llawn troeon trwstan, fydd yn denu ymwelwyr, ac yn hwb i economi'r ddinas wrth i ni barhau i wella o effaith y pandemig. Mae tîm o safon uchel yn gweithio ar y prosiect hwn, a rydym yn falch iawn o gael ein dewis ochr yn ochr â Bryste a San Francisco, fel un o ddim ond tair dinas ledled y byd i gynnal y digwyddiad unigryw hwn."
Mae Fix Up The City, gyda Wallace a Gromit, yn defnyddio pŵer AR a sganio digidol manwl gywir i drawsnewid dinasoedd Bryste a Chaerdydd, y DU, a San Francisco, yn llwyfan rhithwir. Mae profiad Caerdydd yn digwydd o amgylch Cei'r Fôr-Forwyn ac ym Mae Caerdydd.
Bydd y gêm, a fydd yn cymryd tua awr i'w chwblhau, yn cynnwys profiadau AR hwyliog, ar raddfa fawr mewn ffordd nas gwelwyd erioed o'r blaen. Rhyngweithio â roced enwog Wallace, gwylio Gromit yn gadael yn ei awyren eiconig - a hyd yn oed ymladd robot glanhau anferth!
Ar gael ar ffonau clyfar iOS ac Android yn y DU, mae'r ap 'Fix Up the City' ar gael i'w lawrlwytho o 20 Awst ac am ddim am gyfnod cyfyngedig.
Gallwch wylio'r darn o ffilm ac i gael rhagor o wybodaeth am brofiad Caerdydd ewch i: Wallace and Gromit: The Big Fix Up.