Bydd yn rhoi gwybodaeth am ddefnydd siaradwyr Cymraeg o’r iaith ar gyfer Gorffennaf 2019 i Fawrth 2020.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Arolwg defnydd iaith
Mae’r dadansoddiad yn adrodd ynghylch pa mor aml y mae siaradwyr Cymraeg yn siarad yr iaith, eu gallu yn yr iaith a phryd y bu iddynt ddechrau dysgu siarad yr iaith. Mae hefyd yn cynnwys data ar gyfer y dangosydd cenedlaethol am y defnydd o’r Gymraeg.
Mae'r adroddiad hwn yn cyflwyno canlyniadau cychwynnol Arolwg Defnydd Iaith 2019-20. Daeth yr arolwg i ben yn gynharach nag a gynlluniwyd yn sgil pandemig y coronafeirws (COVID-19). Mae rhagor o wybodaeth am oblygiadau hyn, a’r cyfyngiadau ar y data o’r herwydd (gan gynnwys diffyg amcangyfrifon ar lefel awdurdod lleol), yn yr adran gwybodaeth ansawdd a methodoleg.
Rydym yn bwriadu cyhoeddi gweddill canfyddiadau’r arolwg mewn bwletinau ystadegol ar wahân, yn ôl thema, gan gyfuno data Arolwg Cenedlaethol Cymru 2019-20 lle bo’n berthnasol.
Adroddiadau
Data
Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol
Gallu'r boblogaeth yn y Gymraeg (Arolwg defnydd iaith, Gorffennaf 2019 i Fawrth 2020) , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 11 KB
Gallu siaradwyr Cymraeg yn y Gymraeg (Arolwg defnydd iaith, Gorffennaf 2019 i Fawrth 2020) , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 58 KB
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: dataiaithgymraeg@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.