Os ydych yn berchen, yn gapten neu yn llogi llong bysgota, bydd angen trwydded llong bysgota arnoch.
Cynnwys
Beth yw trwydded llong bysgota
Mae trwydded llong bysgota yn nodi'r amodau y mae'n rhaid i berchennog/capten/person sy’n llogi eu dilyn wrth bysgota. Mae'n awdurdodi:
- yr ardaloedd môr lle gall llong weithredu
- y rhywogaethau o bysgod y gellir eu targedu a'u cadw ar y bwrdd
Mae'n galluogi Gweinyddiaethau Pysgodfeydd y DU i reoleiddio pysgota. Rydym yn rhoi trwyddedau llongau pysgota ar ran Gweinidogion. Rhoddir y trwyddedau i longau sydd wedi'u cofrestru ym mhorthladdoedd Cymru.
Rhennir trwyddedau yn gategori hyd:
- llongau o dan 10m
- llongau dros 10m
O fewn y grwpiau hyd mae gwahanol gategorïau o drwyddedau. Mae'r rhain yn nodi pa stociau o bysgod y gallwch eu dal.
Amrywiadau i'ch trwydded
Mae amrywiadau i drwyddedau yn digwydd i adlewyrchu newidiadau yn ystod oes trwydded, o ran:
- terfynau cwotâu, a
- cau neu agor ardaloedd môr ar gyfer y gwahanol bysgodfeydd
Trwyddedau llongau pysgota: mae amrywiadau yn manylu ar yr amrywiadau presennol i drwyddedau Cymru.
Trwyddedau llongau pysgota: amrywiadau
Mae Trwyddedau llongau pysgota: amrywiadau yn manylu ar yr amrywiadau presennol i drwyddedau Cymru.