Mae 13 o brosiectau cymunedol ledled Cymru wedi derbyn cyfran o dros £1.5m o gyllid gan Lywodraeth Cymru.
Mae'r Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol yn ariannu amwynderau poblogaidd i wella eu cynaliadwyedd, gan ddarparu cyfleoedd i bobl leol fel rhan o'u bywydau o ddydd i ddydd.
Y diweddaraf i gael hyd at £250,000 yw:
- Green Squirrel CIC, Caerdydd - £154,000 i wella mynediad ac adnewyddu eu canolfan gymunedol, gan gynnwys creu gardd gymunedol
- Partneriaeth Ogwen, Gwynedd - £225,000 i drawsnewid hen ysgol yn Ganolfan Ragoriaeth mewn Arloesedd a Chynaliadwyedd
- Tabernacl Bethesda, Gwynedd - £250,000 i fedru defnyddio’r adeiladau allanol fel mannau hyblyg ar gyfer cerddoriaeth, dawns a'r celfyddydau
- Glandŵr Cymru, Sir Fynwy - £225,000 i sicrhau mynediad diogel a hygyrch i bawb at lwybr y gamlas a’r cyfleuster cymunedol
- Canolfan Focsio a Gweithgareddau Cymunedol Bulldogs, Castell-nedd Port Talbot - £204,000 i wella eu cyfleusterau ac adeiladu ystafelloedd therapi ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl i gyn-filwyr
- Neuadd Bentref Glangrwyne, Powys - £200,000 i greu canolfan gymunedol ar gyfer dwy gymuned gyfagos: Llangenni a Glangrwyne
- The Include Hub, Abertawe - £148,000 i helpu i brynu eu hadeilad presennol sydd wedi bod yn cael ei ddefnyddio gan y gymuned ers blynyddoedd lawer, fel lle diogel i grwpiau lleol fel ffoaduriaid a cheiswyr lloches, pobl ifanc ddigartref, grwpiau rhyng-ffydd a chyn-droseddwyr
- Clwb Chwaraeon Ponthir a'r Cylch, Torfaen - £41,000 ar gyfer system ddraenio newydd ar gyfer cae chwarae a ddefnyddir gan dros 250 o bobl rhwng 5 a 65 oed
Y diweddaraf i gael swm llai (hyd at £25,000) yw:
- Clwb Rygbi Cil-y-coed, Sir Fynwy - £8,000 tuag at adnewyddu eu hystafelloedd ymolchi a'u cyfleusterau newid babanod
- Ymddiriedolaeth Anne Matthews, Powys - £25,000 i wneud gwaith atgyweirio i'w hadeilad, gan gynnwys to newydd
- Capel Stryd y Bont Hir, Powys - £25,000 i drwsio gwaith carreg, trwsio waliau a ffensys allanol, ac ailwampio eu system ddraenio
- Cyfeillion Talycopa, Abertawe - £25,000 i ddatrys problemau llifogydd hanesyddol cae pêl-droed Trallwn
- Llyfrgell Gymunedol Gwenfô, Bro Morgannwg - £14,000 tuag at ddisodli'r adeilad presennol gydag uned newydd i gynnwys caffi ac ystafell ddigidol
Dywedodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt:
Nawr, yn fwy nag erioed, mae ein cymunedau a'r cyfleusterau gwych ynddynt yn ganolfannau ar gyfer dwyn pobl ynghyd er mwyn ailadeiladu Cymru yn gryfach ac yn deg i bawb.
Er gwaethaf yr heriau eithriadol rydyn ni wedi'u hwynebu yn ystod y 18 mis diwethaf, mae ysbryd cymunedol a gwydnwch pobl Cymru wedi dod i'r amlwg. Bydd y cyllid Cyfleusterau Cymunedol sy’n cael ei gyhoeddi heddiw yn parhau i helpu i ddod â'n grwpiau lleol at ei gilydd drwy gefnogi prosiectau lleol.
Wrth siarad am yr hyn y bydd yr arian yn ei olygu iddynt, dywedodd Ceri Stilwell, Prif Weithredwr Canolfan Bulldogs yng Nghastell-nedd Port Talbot:
Rydyn ni wrth ein boddau ein bod ni wedi derbyn y cyllid hwn a fydd yn ein galluogi i ymestyn a diweddaru ein Canolfan Ddatblygu ym Mhort Talbot. Bydd hefyd yn ein galluogi i barhau i gefnogi'r gymuned mewn byd sy'n newid yn gyson drwy roi mwy o le i ni gynnig ein sesiynau sy'n cefnogi plant a phobl ifanc, yn ogystal â darparu lle diogel i gyn-filwyr barhau i dderbyn cymorth.
Gyda'n gilydd rydyn ni'n gryfach - mwy na chlwb bocsio.
Ymwelodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford â Partneriaeth Ogwen yng Ngwynedd yr wythnos diwethaf. Wrth siarad am y prosiect, dywedodd y Prif Swyddog, Meleri Davies:
Mae Partneriaeth Ogwen yn fenter gymdeithasol sy’n canolbwyntio ar y gymuned, yr economi a chynaliadwyedd, a bydd Canolfan Cefnfaes yn cael ei datblygu gyda'r tair thema hyn mewn cof.
Bydd y llety bync a'r unedau busnes yn dod â budd economaidd i'r ardal a bydd gan y ganolfan hefyd ystafell gymunedol amlbwrpas. Rydyn ni eisoes wedi cynllunio gofod i wneuthurwyr a chaffi trwsio ac fe fyddwn yn gweithio gyda phartneriaid lleol ar opsiynau ynni cynaliadwy ar gyfer yr adeilad gyda dau bwynt gwefru trydan i'w gosod cyn bo hir.
Mae cyllid Cyfleusterau Cymunedol yn garreg filltir bwysig i'r prosiect wrth i ni godi'r arian cyfalaf i adnewyddu'r adnodd cymunedol pwysig hwn.
Mae'r Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol yn gwahodd ceisiadau newydd drwy'r flwyddyn.