Cyfarfod y Cabinet: 21 Mehefin 2021
Cofnodion cyfarfod o'r Cabinet ar 21 Mehefin 2021.
Bydd PDF o'r ddogfen hon wedi'i lawrlwytho'n fuan
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
- Y Gwir Anrh. Mark Drakeford MS
- Rebecca Evans MS
- Vaughan Gething MS
- Lesley Griffiths MS
- Jane Hutt MS
- Julie James MS
- Eluned Morgan MS
- Jeremy Miles MS
- Mick Antoniw MS
- Dawn Bowden MS
- Hannah Blythyn MS
- Julie Morgan MS
- Lynne Neagle MS
- Lee Waters MS
Swyddogion
- Shan Morgan, Yr Ysgrifennydd Parhaol
- Des Clifford, Cyfarwyddwr Cyffredinol Swyddfa’r Prif Weinidog
- Will Whiteley, Dirprwy Gyfarwyddwr Is-adran y Cabinet
- Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
- Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig
- Madeleine Brindley, Cynghorydd Arbennig
- Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig
- Daniel Butler, Cynghorydd Arbennig
- Ian Butler, Cynghorydd Arbennig
- Kate Edmunds, Cynghorydd Arbennig
- Sara Faye, Cynghorydd Arbennig
- Clare Jenkins, Cynghorydd Arbennig
- Andrew Johnson, Cynghorydd Arbennig
- Mitch Theaker, Cynghorydd Arbennig
- Tom Woodward, Cynghorydd Arbennig
- Christopher W Morgan, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
- Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
- Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus
- Andrew Goodall, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd
- Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Cydgysylltu’r Argyfwng COVID-19
- Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol
- Catrin Sully, Swyddfa’r Cabinet
Eitem 1: Cofnodion y cyfarfod blaenorol
1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Mehefin
Eitem 2: Busnes y Senedd
2.1 Rhoddodd y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd wybod i’r Cabinet y bu nifer o newidiadau i fusnes y Cyfarfodydd Llawn ers i’r grid gael ei anfon i Weinidogion yn wreiddiol. Roedd datganiad llafar ar y coronafeirws wedi cael ei ychwanegu at yr agenda ddydd Mawrth, a fyddai’n arwain at doriad ychwanegol yn y trafodion, cyn y datganiad ar Gymwysterau. Ar hyn o bryd nid oedd unrhyw bleidleisio wedi cael ei drefnu ar gyfer dydd Mawrth, ond roedd amser pleidleisio wedi cael ei drefnu ar gyfer tua 5:45pm ddydd Mercher.