Mae sefydliadau ymchwil Cymru yn llwyddo i gael canlyniadau llawer gwell na’r disgwyl yn ôl eu maint, yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd heddiw.
Heddiw cyhoeddir 'Asesiad o sail ymchwil Cymru yn seiliedig ar berfformiad’, sy'n edrych ar y gwaith ymchwil a wnaed gan brifysgolion, partneriaethau a sefydliadau eraill Cymru rhwng 2010 a 2018.
Comisiynwyd yr adolygiad gan yr Athro Peter Halligan, Prif Gynghorydd Gwyddonol Cymru, ac fe'i cynhaliwyd gan Elsevier, cwmni dadansoddi gwybodaeth rhyngwladol.
Mae'r adroddiad yn dangos bod Cymru dros yr 20 mlynedd diwethaf wedi cynyddu swmp, ansawdd a chyrhaeddiad rhyngwladol ei sylfaen ymchwil a dod yn un o wledydd mwyaf effeithlon y DU o ran trosi lefelau cymharol fach o gyllid yn waith ymchwil uchel ei barch ac arloesol.
Er mai dim ond 0.1% o ymchwilwyr y byd a 0.05% o’r cyllid ymchwil a datblygu byd-eang sydd gan Gymru, mae'n llwyddo i gynhyrchu 0.3% o erthyglau ymchwil y byd; 0.5% o’r dyfyniadau a 0.5% o'r erthyglau a ddyfynnir amlaf.
Dyma rai o ganfyddiadau allweddol eraill yr adroddiad:
- mae cyfran Cymru o'r 5% o gyhoeddiadau a ddyfynnir amlaf ddwywaith y cyfartaledd byd-eang
- mae effaith ymchwil Cymru o ran dyfyniadau 80% yn uwch na'r cyfartaledd byd-eang a 13% yn uwch na chyfartaledd y DU
- er gwaethaf sylfaen ymchwil gymharol fach, mae Cymru'n effeithlon iawn o ran allbwn yn erbyn gwariant
- cynyddodd y cydweithio rhwng corfforaethau a sefydliadau academaidd yng Nghymru o un rhan o bump rhwng 2010 a 2018
- mae gan Gymru 3.4% o holl ymchwilwyr y DU, ond maent yn cynhyrchu 4% o waith ymchwil y DU
- cynhyrchwyd dros hanner allbwn ymchwil Cymru drwy gydweithrediad rhyngwladol
Mae enghreifftiau diweddar o waith ymchwil arloesol yng Nghymru yn cynnwys Prifysgol Bangor yn sefydlu rhwydwaith ledled y DU i brofi am COVID-19 mewn gwastraff dŵr.
Gyda chymorth cyllid Llywodraeth Cymru, helpodd y rhwydwaith epidemioleg newydd i lywio penderfyniadau iechyd y cyhoedd yn ystod y pandemig; cynyddodd barodrwydd ar gyfer pandemig yn y dyfodol a thynnodd sylw at y rôl bwysig a chwaraeir gan y diwydiant gwastraff dŵr ym maes iechyd y cyhoedd.
Enghraifft arall yw Rhaglen Ymchwil Canolfan Adeiladu Gweithredol Prifysgol Abertawe, sy'n dwyn 10 prifysgol flaenllaw ledled y DU ynghyd i ddatrys nifer o heriau’n ymwneud â datgarboneiddio – gan gynnwys gwella rhwydweithiau ynni a thechnoleg storio thermol, a chasglu data defnyddiol o dros fil o gartrefi "gwyrdd".
Dywedodd Jeremy Miles, y Gweinidog Addysg a'r Gymraeg:
"Dyma enghraifft arall eto o sector yng Nghymru yn rhagori ar ei faint, gyda'n sefydliadau ymchwil, prifysgolion a phartneriaethau yn cynhyrchu gwaith ymchwil o bwys rhyngwladol.
"Yn ystod y pandemig, rydym wedi gweld gwerth aruthrol gwaith ymchwil gwyddonol da – ac mae'n arbennig o galonogol nodi mai’r gwyddorau naturiol a gwyddor feddygol ac iechyd yw ein meysydd pwnc mwyaf cynhyrchiol, sy'n cyfrif am 54% a 39% yn eu trefn o holl allbwn gwaith ymchwil Cymru.
"Er bod y dull gweithredu effeithlon y mae ein sector ymchwil wedi'i ddefnyddio a'i lwyddiannau yn haeddu canmoliaeth, mae'r sector yn parhau i wynebu heriau yn sgil ymadael â’r Undeb Ewropeaidd, wrth i’r rhesel yn y Deyrnas Unedig godi a chyfyngu ar y cyllid sydd ar gael, a chystadleuaeth amdano ddwysáu."
Dywedodd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi, sydd â chyfrifoldeb ar lefel y Cabinet dros wyddoniaeth ac ymchwil yn Llywodraeth Cymru:
"Rwy'n croesawu'r adroddiad hwn, sy'n dangos bod ein hymchwilwyr ymhlith y rhai mwyaf effeithlon ac effeithiol, ymysg gwledydd bach, o ran trosi lefelau cymharol isel o incwm ymchwil yn waith ymchwil cyhoeddedig uchel ei barch, sy'n dod â manteision sylweddol, yn economaidd, cymdeithasol, diwylliannol ac o ran iechyd, i bobl a chymunedau yng Nghymru.
"Mae'r dystiolaeth ddiweddaraf hon yn dangos yn eglur bod gan Gymru botensial mawr ar gyfer y dyfodol i ddal ati i gynyddu arloesedd a chydweithio ar ragor o waith ymchwil. Mae ganddi hefyd y potensial i ddatblygu perthnasoedd byd-eang a chreu cyfleoedd newydd i fewnfuddsoddi, a fydd yn ein helpu i gyflawni ein huchelgais o greu swyddi newydd o ansawdd uchel yn niwydiannau’r dyfodol.
"Fodd bynnag, mae angen i ni fod yn ymwybodol o'r heriau a’r ansicrwydd sy’n wynebu’r sector ymchwil. Er i Lywodraeth Cymru fuddsoddi bron i £400 miliwn o arian yr Undeb Ewropeaidd mewn ymchwil ac arloesi ers 2014, mae cynlluniau Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar gyfer cyllid newydd yn lle’r arian hwnnw yn rhoi'r sector o dan anfantais sylweddol yn y blynyddoedd i ddod. Mae angen iddynt newid eu trywydd ar frys fel bod gan bob sector yng Nghymru fynediad teg i'r cyllid hwn, a fydd yn galluogi ein sefydliadau i barhau i gynhyrchu ymchwil sy'n cael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl nid yn unig yma yng Nghymru, ond ledled y byd."
Mae'r adroddiad llawn ar gael i'w weld yma: Asesiad o sail ymchwil Cymru yn seiliedig ar berfformiad