Daeth yr ymgynghoriad i ben 8 Hydref 2021.
Ymgynghoriad gwreiddiol
Gofyn i ddarparwyr rhyngwyd a seilwaith band eang am wybodaeth.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Rydyn ni’n gofyn i’r holl ddarparwyr rhyngrwyd a seilwaith band eang cydnabyddedig am fanylion eu cynlluniau yng Nghymru.
Rydyn ni am wybod ble maen nhw wedi buddsoddi mewn seilwaith band eang eisoes ac am eu cynlluniau buddsoddi ar gyfer y 3 blynedd nesaf. Rydyn ni’n gofyn am fanylion ar lefel eiddo, o ran eu cwmpas a’u cynlluniau ar gyfer:
- mynediad at fand eang y genhedlaeth nesaf (NGA): sy’n gallu lawrlwytho ar gyflymder o o leiaf 30Mbps
- band eang gigabit: sy’n gallu lawrlwytho ar gyflymder o o leiaf 1,000Mbps
Bydd hyn yn ein helpu i fapio pa eiddo yng Nghymru sy’n derbyn NGA neu fand eang gigabit, a pha rai sydd ddim, neu ble mae’r cynlluniau i allu eu derbyn yn y 3 blynedd nesaf.
Caiff adolygiad cyhoeddus ei gynnal ar ôl yr adolygiad hwn o’r farchnad agored.