Mae’r Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans, wedi ymweld â gardd hanesyddol yn Sir Gaerfyrddin i weld sut mae prosiect wedi defnyddio cyllid o’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi i ddatblygu’r safle a gwella bioamrywiaeth.
Mae Cynllun Cymunedau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a’i reoli gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru. Mae’n cefnogi prosiectau amgylcheddol a chymunedol sy’n gweithio i leihau effeithiau negyddol gwaredu gwastraff, a hynny mewn ardaloedd sydd o fewn pum milltir i safle tirlenwi neu orsaf trosglwyddo gwastraff.
Gyda chymorth ei thîm o wirfoddolwyr, mae Ymddiriedolaeth Drws i'r Dyffryn wedi defnyddio grant Llywodraeth Cymru i ddatblygu Parc a Gerddi’r Esgob yn Abergwili drwy droi lawntiau’n ddolydd a chael gwared ar rywogaethau anfrodorol.
Dywedodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, Rebecca Evans:
Mae wedi bod yn bleser gweld prosiectau fel Parc a Gerddi’r Esgob yn elwa’n uniongyrchol ar drethi sydd wedi cael eu codi a’u gwario yng Nghymru.
Rydyn ni wedi bod yn galw am ddatganoli mwy o bwerau trethu i Gymru, ac rydyn ni’n awyddus i weld y broses ei hun yn cael ei diwygio. Byddai datganoli mwy o bwerau trethu yn caniatáu inni ddatblygu system fwy strategol ar gyfer trethi canolog a lleol. Byddai hynny’n sicrhau ein bod yn gallu ymateb i anghenion a blaenoriaethau pobl a busnesau Cymru mewn modd mwy effeithiol.
Mae’r cyllid sy’n cael ei godi o gasglu’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi wedi gwneud byd o wahaniaeth i’r prosiectau pwysig hyn sy’n dod â budd i’r gymuned ac yn gwella bioamrywiaeth, gan ein helpu i gyflawni ein cynllun i sicrhau bod Cymru yn wlad wyrddach, decach, a mwy ffyniannus.
Ychwanegodd Louise Austin, Rheolwr Parc yr Esgob:
Roedd yn bleser mawr croesawu’r Gweinidog i’r Parc a dangos iddi’r hyn sy’n cael ei gyflawni o ganlyniad i gael y grant.
Aeth Piers Lunt, ein Prif Arddwr â hi ar daith i ddangos iddi sut mae e’n gweithio, gyda chymorth ein tîm o wirfoddolwyr, i adfer y parc hanesyddol, gan sicrhau bod bioamrywiaeth ar ei gorau a bod natur yn cael ei warchod o ganlyniad i’r hyn sy’n cael ei wneud.
Ar draws y lawntiau, roedd y Gweinidog yn gallu gweld canlyniadau dulliau mwy traddodiadol o reoli dolydd sy’n cynyddu nifer y blodau gwyllt, ac yn y coetir rydyn ni wedi clirio rhywogaethau goresgynnol fel prennau llawryf er mwyn ei gwneud yn haws i fwy o blanhigion brodorol dyfu yno, gan gynnwys clychau’r gog a blodau’r gwynt. Cafodd y Gweinidog gyfle hefyd i gwrdd â rhai o’n gwirfoddolwyr a oedd wrthi’n plannu rhywogaethau brodorol o goed.
Mae’r cyllid hwn wedi bod yn hanfodol i’n helpu i barhau â’n cynllun rheoli ecolegol uchelgeisiol ar gyfer y safle. Rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio gyda Llywodraeth Cymru yn y dyfodol.
Dywedodd Catherine Miller, Pennaeth Grantiau a’r Amgylchedd, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru:
Mae’r prosiect ym Mharc yr Esgob yn enghraifft wych o sut mae Cynllun Cymunedau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn helpu i dynnu cymunedau at ei gilydd i wella eu hamgylchedd lleol, drwy greu a chynnal mannau i bawb eu mwynhau.
Mae’r grant wedi golygu bod gwaith cadwraeth hanfodol wedi cael ei wneud ochr yn ochr â gwelliannau eraill i’r strwythurau yn y parc. Mae’n dda gweld y cyllid yn gwneud cymaint o wahaniaeth mewn modd a fydd yn cael ei fwynhau am lawer o flynyddoedd i ddod.
Gallai prosiectau sy’n gweithio i wella eu hamgylchedd lleol mewn ardaloedd o fewn pum milltir i safle tirlenwi neu safle trosglwyddo gwastraff fod yn gymwys i gael grant rhwng £5,000 a £50,000, gydag un prosiect yn cael hyd at £250,000 bob blwyddyn.
Mae proses ymgeisio bresennol Cynllun Cymunedau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn cau ar 31 Awst 2021.