Cyngor Cynghorol Cymru ar Arloesi: adroddiad ymgysylltu llywodraeth Cymru
Yn crynhoi adborth Llywodraeth Cymru ar adroddiadau arloesedd Amplyfi a Phrifysgol Caerdydd.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyd-destun
Yn ddiweddar comisiynodd Llywodraeth Cymru ddau ddarn o ymchwil drwy Gyngor Cynghorol Cymru ar Arloesi (IACW): un ar y tirlun arloesi yng Nghymru, yn y gorffennol, y presennol a'r dyfodol, a gynhaliwyd gan dîm o Brifysgol Caerdydd; un ar gymaryddion arloesi rhyngwladol, gan dîm o Amplyfi. Daeth yr ymchwil hon i ben ddiwedd mis Mawrth 2021, ac yna cyflwynodd IACW gyfres o argymhellion i Lywodraeth Cymru. Mae'r argymhellion hyn, ynghyd â fersiynau llawn y ddau adroddiad ymchwil, ar gael ar dudalennau gwe'r IACW.
Mae'r Tîm Arloesi yn Llywodraeth Cymru wrthi bellach yn trafod â rhanddeiliaid, i glywed barn ar yr ymchwil, ac i lywio penderfyniadau a strategaethau yn y dyfodol. Bydd cyfanswm o dair sesiwn ffurfiol i drafod â rhanddeiliaid: un wedi'i hanelu'n fewnol o fewn Llywodraeth Cymru, un ar gyfer y sector cyhoeddus, ac un ar gyfer y sector preifat.
Y digwyddiad
Cynhaliwyd digwyddiad mewnol Llywodraeth Cymru ar 5 Mai, ac roeddem yn cynnwys tua 70 o gydweithwyr o sawl adran wahanol. Cafodd yr holl gyfranogwyr gyfle i ddarllen yr adroddiadau a'r argymhellion cyn y sesiwn.
Roedd y cyfranogwyr yn cynnwys cynrychiolwyr o’r adrannau a ganlyn:
- Yr Economi, Sgiliau ac Adnoddau Naturiol:
- Busnes a Rhanbarthau
- Newid Hinsawdd, Ynni a Chynllunio
- Seilwaith yr Economi
- Sgiliau, Addysg Uwch a Dysgu Gydol Oes
- Swyddfa Gwyddoniaeth Llywodraeth Cymru
- Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:
- Y Gyfarwyddiaeth Technoleg a Thrawsnewid
- Swyddfa’r Prif Weinidog:
- Cysylltiadau Rhyngwladol a Masnach
- Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru
- Grŵp yr Ysgrifennydd Parhaol:
- Y Gyfarwyddiaeth Adfer ac Ailddechrau yn sgil Covid-19
Agenda
- Croeso gan y Tîm Arloesi
- Cyflwyniad i’r ymchwil gan IACW
- Cyflwyniad gan Dîm Prifysgol Caerdydd
- Cyflwyniad gan Dîm Amplyfi
- Trafodaeth Gyffredinol
Cwestiynau allweddol
Gofynnodd y Tîm Arloesi bum cwestiwn i’r cyfranogwyr ymlaen llaw, i ddechrau’r drafodaeth:
- Ydych chi'n teimlo bod yr ymchwil hon yn cyflwyno'r achos dros Strategaeth Arloesi newydd?
- Beth yw eich ymateb i'r alwad am un Strategaeth Arloesi unedig gan Lywodraeth Cymru?
- Ydych chi'n credu bod angen rhyw fath o Gorff Arloesi Cenedlaethol yng Nghymru?
- A oes unrhyw feysydd allweddol y credwch fod yr adroddiadau wedi'u methu?
- A oes unrhyw bwyntiau yn yr ymchwil yr ydych yn cytuno/anghytuno'n gryf â hwy?
Themâu allweddol i’w trafod
Dull integredig: Roedd awydd cryf am strategaeth arloesi integredig gan Lywodraeth Cymru, gan groesi ffiniau gwahanol adrannau, a bwydo i mewn i sawl maes polisi. Gobeithio y byddai hyn wedyn yn arwain at weledigaeth gyfunol a chydlynol gan y llywodraeth ar gyfer dyfodol arloesi yng Nghymru.
Ecosystem arloesi: Mae angen i arloesedd, ymchwil a sgiliau ddod yn flaenoriaethau Llywodraeth Cymru, gan ganolbwyntio ar chwalu seilos, ac ar adeiladu ecosystem arloesi.
Buddsoddiad cymdeithasol: Roedd awydd i gysylltu buddsoddiad mewn arloesi â swyddi a chanlyniadau economaidd – i ddangos yn glir bod system arloesi gref yn arwain at gymdeithas gryfach.
Buddsoddiad cymdeithasol: Roedd awydd i gysylltu buddsoddiad mewn arloesi â swyddi a chanlyniadau economaidd – i ddangos yn glir bod system arloesi gref yn arwain at gymdeithas gryfach.
Caffael: Cododd sawl cyfranogwr bwyntiau ynghylch ysgogi caffael yn y sector cyhoeddus i gefnogi ymchwil, datblygu ac arloesi. Roedd cwestiynau ynghylch sut i godi ymwybyddiaeth o risg yn hytrach na osgoi risg yn y sector cyhoeddus.
Cymhellion ac ysgrifennu ceisiadau o ansawdd: Cafwyd trafodaeth ynghylch sut i gymell a gwobrwyo arloesedd, a sut i wella ansawdd a chyfradd llwyddiant ysgrifennu ceisiadau a cheisiadau am gyllid.
Arloesi cymdeithasol: Pwysleisiodd darnau ymchwil Caerdydd ac Amplyfi arloesedd cymdeithasol a chynaliadwyedd. Roedd y cyfranogwyr yn falch o weld cyfeiriadau at Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig, ac i feithrin cysylltiadau rhwng y rhain a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.
Adborth
Os oes gennych unrhyw adborth ar yr ymchwil, neu ar ymgysylltu â rhanddeiliaid hyd yma, anfonwch e-bost InnovationStrategy@llyw.cymru i gyfrannu at y drafodaeth.