Cyngor Cynghorol Cymru ar Arloesi: adroddiad ymgysylltu â'r sector preifat
Crynhoi adborth y sector cyhoeddus ar adroddiadau arloesedd Amplyfi a Phrifysgol Caerdydd.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Y Cyd-destun
Yn ddiweddar comisiynodd Llywodraeth Cymru ddau ddarn o ymchwil drwy Gyngor Ymgynghorol Arloesi Cymru (IACW): un ar y tirlun arloesi yng Nghymru, yn y gorffennol, y presennol a'r dyfodol, a gynhaliwyd gan dîm o Brifysgol Caerdydd; un ar gymaryddion arloesi rhyngwladol, gan dîm o Amplyfi. Daeth yr ymchwil hwn i ben ddiwedd mis Mawrth 2021, ac yna cyflwynodd IACW gyfres o argymhellion i Lywodraeth Cymru. Mae'r argymhellion hyn, ynghyd â fersiynau llawn y ddau adroddiad ymchwil, ar gael ar dudalennau gwe'r IACW.
Mae'r Tîm Arloesi o fewn Llywodraeth Cymru bellach mewn cyfnod o ymgysylltu â rhanddeiliaid, i glywed barn ar yr ymchwil, ac i lywio penderfyniadau a strategaethau yn y dyfodol. Bydd cyfanswm o dair sesiwn ymgysylltu â rhanddeiliaid ffurfiol: un yn fewnol o fewn Llywodraeth Cymru, un ar gyfer y sector cyhoeddus, ac un ar gyfer y sector preifat.
Y digwyddiad
Gwnaethom hysbysebu digwyddiad y sector preifat drwy'r cylchlythyr Arloesi a Twitter. Cafodd yr holl gyfranogwyr gyfle i ddarllen yr adroddiadau a'r argymhellion cyn y sesiwn. Gwnaeth bron i 50 o bobl gymryd rhan yn y digwyddiad.
Agenda
- Croeso gan y Tîm Arloesi
- Cyflwyniad i'r ymchwil gan IACW
- Cyflwyniad gan dîm Prifysgol Caerdydd
- Cyflwyniad gan dîm Amplyfi
- Trafodaeth gyffredinol
Cwestiynau allweddol
Gofynnodd y Tîm Arloesi bedwar cwestiwn allweddol i gyfranogwyr ymlaen llaw, er mwyn dechrau'r drafodaeth:
- A oes gennych ymdeimlad clir o flaenoriaethau a pholisïau Llywodraeth Cymru ym maes arloesi?
- Ydych chi'n meddwl bod rhwydweithiau arloesi cryf yng Nghymru?
- Os oeddech chi eisiau cael gafael ar gyllid neu gymorth arloesi, a fyddech chi'n gwybod ble i edrych?
- Fyddech chi'n croesawu Corff Arloesi Cenedlaethol i Gymru? Beth fyddai swyddogaeth y Corff hwn yn eich barn chi?
Themâu allweddol o'r drafodaeth
Llunio Strategaeth Arloesi newydd; dull integredig: Cafwyd trafodaeth hir ynglŷn â chynnwys a diwyg strategaeth arloesi newydd. Awgrymodd cyfranogwyr y dylai ddilyn ymagwedd gyfannol a chysylltiedig; y dylai gynnwys mwy o ymgysylltu â'r sector preifat o'r gwaelod i fyny, gan ddechrau gyda BBaChau; y dylai sbarduno diwylliant arloesi newydd yng Nghymru; y dylai ymwneud â thirwedd polisi arloesi Llywodraeth y DU sy'n newid yn gyflym.
Cydweithio ar draws sectorau: Cododd sawl cyfranogwr bwyntiau ynghylch gwell cydweithredu rhwng y sectorau cyhoeddus a phreifat, efallai gyda rôl i Lywodraeth Cymru fel galluogwr neu hwylusydd. O ran adeiladu clystyrau, yr oedd llawer yn eu gweld fel llwybr defnyddiol ymlaen, byddai angen gwell cydweithio rhwng prifysgolion a chorfforaethau.
Arloesi cymdeithasol: Roedd ymdeimlad cryf bod angen i arloesi fod yn rhan o gyd-destun ehangach newid cymdeithasol ac economaidd yng Nghymru. Roedd galw am strategaeth newydd i fynd i'r afael â heriau cymdeithasol mwy fel y newid yn yr hinsawdd a sero net, gofal iechyd, symudedd cymdeithasol a sgiliau, ac ati, ac arloesi i osod agenda llesiant.
Neges symlach: Thema gref a ddaeth i'r amlwg o'r drafodaeth oedd yr angen i symleiddio a chysoni: neges Llywodraeth Cymru, y mathau o gymorth sydd ar gael, cymorth ar gyfer ceisiadau a chynigion, a monitro prosiectau. Roedd galw hefyd am gymorth mwy penodol i osgoi’r problemau cychwynnol ar gyfer manteisio ar ymchwil arloesi yn y diwydiant.
Caffael: O ran caffael yn y sector cyhoeddus, roedd cytundeb cyffredinol bod hyn yn sbardun pwysig ar gyfer arloesi, a bod byrddau iechyd prifysgolion y GIG yn gyrff hanfodol yn y maes hwn.
Cryfderau: Roedd ymdeimlad cyffredinol bod angen i Gymru fod yn gliriach ynglŷn â ble mae ei chryfderau, ac yn fwy beiddgar wrth siarad am y rhain yn genedlaethol ac yn rhyngwladol er mwyn bod yn gystadleuol.
Ysgrifennu ceisiadau o safon: Galwodd sawl cyfranogwr am strategaethau gwell i wella ysgrifennu ceisiadau ar raddfa fawr a chefnogi ceisiadau am gyllid i Lywodraeth Cymru a ffynonellau allanol.
Adborth
Os oes gennych unrhyw adborth ar yr ymchwil, neu ar ymgysylltu â rhanddeiliaid hyd yma, anfonwch e-bost at InnovationStrategy@gov.cymru i gyfrannu at y drafodaeth.