Neidio i'r prif gynnwy

Data ar ddamweiniau ac anafiadau beicwyr modur, beicwyr pedal a cherddwyr, a cheir dadansoddiadau yn ôl nodweddion demograffig ar gyfer 2020.

Prif bwyntiau

Image
Mae’r siart hon yn dangos canrannau’r bobl sydd wedi eu hanafu yn ôl difrifoldeb eu hanafiadau, fel y’u cofnodwyd ar gyfer 2020. Cafodd 3,692 o bobl eu hanafu ar y ffyrdd yn 2020. O’r rhain, roedd 2% wedi cael eu lladd, 20% wedi eu hanafu’n ddifrifol, a 78% wedi dioddef mân anafiadau.
  • Yn 2020, cofnododd heddluoedd Cymru fod 3,692 o bobl wedi cael eu hanafu neu eu lladd ar y ffyrdd; mae hwn yn ostyngiad o 36% o'i gymharu â 2019.
  • Cafodd 819 o'r bobl hynny eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol, gostyngiad o 31% o'i gymharu â 2019.
  • Cafodd 2,873 ohonynt fân anafiadau, 38% yn is na'r ffigwr ar gyfer 2019.
  • Roedd 72% o’r bobl a gafodd eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol yn 2020 yn ddynion.
  • Roedd gostyngiad o 37% yn nifer y plant (dan 16 oed) a anafwyd neu a laddwyd, a gostyngiad o 32% yn nifer y bobl ifanc (16 i 24 oed) a anafwyd neu a laddwyd, o'i gymharu â 2019.
  • Mae pobl ifanc 16 i 24 oed yn fwy tebygol o gael eu hanafu neu eu lladd mewn damweiniau ar y ffyrdd. Maent yn cyfrif am 11% o'r boblogaeth ond 22% o'r holl bobl sy’n cael eu hanafu neu eu lladd.
  • Wrth addasu ar gyfer pellter a deithiwyd, roedd beicwyr modur a beicwyr pedal yn fwy tebygol o gael eu hanafu neu eu lladd na defnyddwyr ceir.

Adroddiadau

Anafusion ffyrdd adroddwyd amdanynt, 2020 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 986 KB

PDF
Saesneg yn unig
986 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.