Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Heddiw (22 Gorffennaf), mae Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi wedi cyhoeddi’r set gyntaf erioed o ystadegau alldro ar gyfer cyfraddau treth incwm Cymru (dolen allanol), gan nodi cam pwysig arall yn y broses o ddatganoli trethi i Gymru.
Mae’r alldro ar gyfer 2019-20, sef ychydig dros £2 biliwn, yn debyg iawn i’r rhagolygon. Mae hyn yn rhoi sicrwydd bod y ffynonellau gwybodaeth a methodolegau’r rhagolygon a ddefnyddiwyd yn gadarn ac yn ddibynadwy.
Gan mai 2019-20 oedd y flwyddyn gyntaf, a honno’n flwyddyn bontio, ni fydd yr ystadegau alldro dros dro hyn yn cael effaith uniongyrchol ar y cyllid sydd ar gael i Lywodraeth Cymru. Fodd bynnag, byddant yn gosod y llinell sylfaen ar gyfer rhagolygon a ddefnyddir yng nghyllidebau Llywodraeth Cymru yn y dyfodol. Bydd y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn cynnal y rhagolwg nesaf o gyfraddau treth incwm Cymru yn yr hydref. Bydd y rhagolwg hwnnw’n ystyried yr ystadegau hyn ac yn cael ei ddefnyddio yng Nghyllideb 2022-23 Llywodraeth Cymru.
Mae’r cyhoeddiad hefyd yn cynnwys gwybodaeth am dderbyniadau ar gyfer 2020-21 o system Gwybodaeth Amser Real CThEM, sydd hefyd heb eu cyhoeddi o’r blaen. Mae’n dangos bod refeniw treth incwm yng Nghymru wedi dal yn dda o gymharu â gweddill y DU dros y flwyddyn ddiwethaf.
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.