Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae'n bleser gennyf roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am ein cynlluniau strategol ar gyfer trawsnewid mynediad i ofal brys a gofal mewn argyfwng, a'n disgwyliadau o ran Byrddau Iechyd, Ymddiriedolaethau'r GIG a Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol.
Yn unol ag ymrwymiadau'r Rhaglen Lywodraethu i ddarparu gofal iechyd effeithiol, cynaliadwy o ansawdd uchel sy'n canolbwyntio ar atal, integreiddio a mynediad, rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau gofal brys a gofal mewn argyfwng yn y lle iawn, y tro cyntaf.
Mae'r pandemig wedi cael effaith ddofn ar gymdeithas ac ar y GIG yng Nghymru. Bydd COVID-19 gyda ni am beth amser i ddod, felly mae'n rhaid i ni ddysgu byw a gweithio ochr yn ochr ag ef hyd y gellir rhagweld. Mae'r pandemig hefyd wedi arwain at gyfleoedd i wella'r ffordd rydym yn gweithio, gyda mwy o ddefnydd o dechnoleg a chydweithredu cryfach.
Rydym am i'r system adeiladu ar y datblygiadau hyn a galluogi pobl ag anghenion gofal brys neu ofal mewn argyfwng i gael y driniaeth gywir ar yr adeg gywir, yn y lle iawn. Gallai hyn fod drwy fferyllfa gymunedol; ymgynghoriad fideo â meddyg teulu – model sydd wedi profi'n effeithiol ac a fydd yn cael ei wella / ei fabwysiadu ymhellach; cael mynediad i uned mân anafiadau; gwefan GIG 111 Cymru ar gyfer gwirwyr symptomau a chyngor ar-lein; neu ddeialu 111 am gyngor dros y ffôn. Rydym yn gofyn i bobl sy'n credu bod ganddynt angen gofal brys i'n helpu ni, i’ch helpu chi drwy feddwl am ddefnyddio’r gwasanaethau hyn cyn mynd i Adran Achosion Brys neu ddeialu 999.
Rydym wedi datblygu 'chwe nod ar gyfer gofal brys a gofal mewn argyfwng’ fel disgwyliadau ar gyfer y system iechyd a gofal cymdeithasol, ac i alluogi cyflawni ymrwymiadau ein Rhaglen Lywodraethu. Dylai cyflawni pob un o'r 'chwe nod' yn gyson ac yn ddibynadwy drwy gydweithio system gyfan rhwng Byrddau Iechyd, Ymddiriedolaethau'r GIG a Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol, a phartneriaid ar draws gwasanaethau cyhoeddus a'r trydydd sector, alluogi'r profiad gorau posibl i gleifion a staff, a gwell canlyniadau clinigol a gwerth.
6 nod ar gyfer gofal brys a gofal mewn argyfwng:
- Cydgysylltu, cynllunio a chymorth ar gyfer grwpiau sydd â risg uwch o fod angen gofal brys neu ofal mewn argyfwng
- Cyfeirio at y lle iawn y tro cyntaf
- Dewisiadau eraill sy’n ddiogel yn glinigol yn lle mynd i’r ysbyty
- Ymateb cyflym os oes argyfwng corfforol neu argyfwng iechyd meddwl
- Rhoi’r gofal gorau posibl i’r claf ar ôl ei dderbyn i’r ysbyty
- Dull ‘gartref yn gyntaf’ a lleihau’r risg o orfod mynd yn ôl i’r ysbyty
Byddwn yn cyhoeddi llawlyfr polisi 'chwe nod' yn y tymor newydd a fydd yn cynnwys datganiadau ansawdd sy’n cyd-fynd â phob un o'r 'chwe nod’. Bydd y datganiadau ansawdd yn disgrifio'n fanwl y canlyniadau a'r safonau y dylai unigolion eu disgwyl pan fydd arnynt angen gofal brys neu ofal mewn argyfwng.
Bydd hyn yn cynnwys disgwyliad gan Fyrddau Iechyd, Ymddiriedolaethau'r GIG a Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol i roi mwy o bwyslais ar gefnogi byw'n annibynnol a lles er mwyn atal uwchgyfeirio i ofal sylfaenol brys, ambiwlans, Adran Achosion Brys a gwasanaethau ysbyty.
Bydd hefyd yn disgrifio sut y byddwn yn galluogi cyflawni'r chwe nod drwy raglenni cenedlaethol wedi'u targedu, cyllid ychwanegol, a galluogwyr fel newid digidol; hyfforddi a datblygu'r gweithlu; mesur ar gyfer gwella; a newid ymddygiad, cyfathrebu a marchnata.
Bydd £25m o gyllid cenedlaethol cylchol yn helpu Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau'r GIG i gyflawni'r 'chwe nod’. Bydd rhywfaint o'r arian ychwanegol hwn yn cefnogi'r gwaith o ddatblygu tri model gofal ochr yn ochr ag ystod o gamau gweithredu eraill:
- Model 'Meddwl 111 yn Gyntaf’ cenedlaethol - i gyfeirio drwy 111 bobl sy'n credu bod angen iddynt gael mynediad at wasanaethau gofal brys neu ofal mewn argyfwng i'r lle iawn, y tro cyntaf. Bydd hyn yn cynnwys darpariaeth ar-lein well, ceisio rheoli'r galw yn well yn y gymuned neu drefnu slotiau amser i bobl yn y lle gorau ar gyfer eu hanghenion.
- ‘Canolfannau Gofal Sylfaenol Brys' – i asesu neu drin pobl ag anghenion gofal sylfaenol brys yn ddiogel, yn gyflym ac yn effeithiol heb fod angen apwyntiad neu fynd i Adran Achosion Brys, gan alluogi staff yn y gwasanaethau hynny i ganolbwyntio ar bobl ag anghenion gofal cymhleth neu frys yn y drefn honno; a
- Gwasanaethau 'Gofal Brys ar yr Un Diwrnod' i gefnogi pobl sydd angen asesiad wyneb yn wyneb, diagnosteg a / neu driniaeth i ddychwelyd adref ar yr un diwrnod lle mae'n glinigol ddiogel gwneud hynny.
Dylai darparu'r modelau hyn yn ddibynadwy a darparu gofal diogel yn y lle iawn, y tro cyntaf, helpu i leihau'r pwysau ar staff y Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol a'r Adran Achosion Brys. O ystyried heriau parhaus y pandemig a'r posibilrwydd o aeaf anodd, dylai Byrddau Iechyd ystyried hyn yn flaenoriaeth.
Bydd yr arian hwn yn ategu’r cyllid o £6m a neilltuwyd ar gyfer Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol yn 2021/2022 i ddarparu model ‘rhyddhau i adfer’ yn gyson ac yna asesu llwybrau fel rhan o ddull gweithredu ‘Gartref yn Gyntaf’ er mwyn sicrhau'r canlyniadau a'r profiad gorau posibl i bobl sydd wedi cael eu derbyn i'r ysbyty ac y mae arnynt angen rhywfaint o gymorth ychwanegol ar ôl iddynt ddychwelyd i'w cymunedau lleol. Dylai darparu'r llwybrau hyn yn gyson ac yn ddibynadwy cyn ac yn ystod cyfnod y gaeaf fod yn flaenoriaeth i’r Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol.
Byddwn hefyd yn sefydlu rhaglen genedlaethol newydd yn y portffolio gofal brys a gofal mewn argyfwng i gefnogi Byrddau Iechyd a Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol i gyflawni 'nodau pump a chwech’. Mae'r nodau hyn yn canolbwyntio ar roi’r gofal gorau posibl i’r claf o'r adeg y caiff ei dderbyn i’r ysbyty a galluogi pobl i ddychwelyd adref o'r ysbyty pan fyddant yn barod. Byddwn yn ceisio dysgu gwersi o'n dull gweithredu llwyddiannus ar gyfer cyflwyno brechiadau COVID-19 er mwyn sicrhau darpariaeth gyson mewn rhaglen a arweinir gan Uned Gyflawni GIG Cymru mewn cydweithrediad â phartneriaid.
O ystyried y pwysau parhaus a chynyddol ar y system gofal brys a gofal mewn argyfwng a'r risg gysylltiedig o niwed i gleifion a staff, mae'n hanfodol bod Byrddau Iechyd, Ymddiriedolaethau'r GIG a Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol yn blaenoriaethu ac yn cyflymu'r broses o gyflawni'r 'chwe nod' a'r camau gweithredu allweddol rwyf wedi'u disgrifio.
Mae'n hanfodol bod pob Bwrdd Iechyd, Ymddiriedolaeth GIG a Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yn gwneud cynnydd cyflym ar y cyd dros gyfnod yr haf. Bydd hyn o fudd i'r system iechyd a gofal cymdeithasol ac ansawdd y gofal a ddarperir wrth i ni nesáu at y gaeaf.
Byddaf yn rhoi diweddariad i’r Aelodau ar gynnydd y gwaith hwn a'n dull gweithredu ehangach ar gyfer y gaeaf yn dilyn toriad yr haf.
Caiff y datganiad hwn ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau. Os bydd yr aelodau'n dymuno i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ar hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.