Canllawiau ynglŷn â chymhwyso Treth Trafodiadau Tir mewn perthynas ag partneriaethau.
Cynnwys
Rhowch adborth i ni ar y canllawiau hyn
Er mwyn ein helpu i wella'r canllawiau hyn, rhowch adborth i ni (mae’n cymryd 30 eiliad).
DTTT/5070 Darpariaethau cyffredinol
Partneriaethau
(paragraff 3)
At ddibenion y Dreth Trafodiadau Tir, mae partneriaeth yn golygu:
- partneriaeth o fewn Deddf Partneriaeth 1890
- partneriaeth gyfyngedig a gofrestrwyd o dan Ddeddf Partneriaethau Cyfyngedig 1907
- partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig a ffurfiwyd o dan Ddeddf Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig 2000, neu
- ffyrm neu endid sy’n debyg i unrhyw un o’r uchod ond sydd wedi cael ei ffurfio o dan gyfreithiau gwlad neu diriogaeth y tu allan i’r DU
DTTT/5080 Trin buddiannau trethadwy fel pe baent yn cael eu dal gan y partneriaid
At ddibenion y Dreth Trafodiadau Tir, caiff buddiant trethadwy sy’n cael ei ddal gan bartneriaeth ei drin fel petai’n cael ei ddal gan neu ar ran y partneriaid a chaiff unrhyw drafodiad tir a wneir at ddibenion partneriaeth ei drin fel petai’n cael ei wneud gan neu ar ran y partneriaid ac nid y bartneriaeth; felly'r partneriaid fydd gwerthwr neu brynwr y buddiant trethadwy.
Mae’r darpariaethau hyn yn berthnasol wrth gyfrifo'r Dreth Trafodiadau Tir ar gyfer y bartneriaeth hyd yn oed os ystyrir bod y bartneriaeth yn berson cyfreithiol, neu’n gorff corfforaethol, o dan gyfraith y wlad neu’r diriogaeth y’i ffurfir oddi tani. Un eithriad ydy rhyddhad grŵp pan ellir trin partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig fel corff corfforaethol at ddibenion sefydlu strwythur grŵp.
DTTT/5090 Nid yw caffael buddiant mewn partneriaeth yn drethadwy ac eithrio pan ddarperir yn arbennig ar gyfer hynny
(paragraff 5)
Nid ydy caffael buddiant mewn partneriaeth sy’n dal buddiannau trethadwy mewn tir yn drafodiad tir ac eithrio pan fydd trosglwyddo’r buddiant hwnnw yn y bartneriaeth yn digwydd o ganlyniad i:
- drosglwyddo buddiant mewn partneriaeth yn unol â threfniadau cynharach, neu
- drosglwyddo buddiant mewn partneriaeth buddsoddi mewn eiddo
Mae caffael o'r fath yn daladwy o dan ddarpariaethau’r Atodlen hon yn unig.
DTTT/5100 Parhad partneriaeth
(paragraff 6)
Caiff partneriaeth ei thrin fel yr un bartneriaeth hyd yn oed os bydd yr aelodau yn newid ar yr amod bod person a oedd yn aelod cyn y newid yn dal yn aelod ar ôl y newid.
Er enghraifft, os bydd partneriaeth yn cynnwys y partneriaid A, B ac C ac mae’r partneriaid B ac C yn gadael, yna daw’r bartneriaeth i ben. Os bydd partner D yn ymuno yn nes ymlaen ag A mewn partneriaeth, yna mae partneriaeth newydd wedi cael ei chreu.
Fodd bynnag, byddai’r bartneriaeth yn parhau petai D yn ymuno â phartneriaeth ABC o dan yr un cytundeb ac ar yr un pryd ag roedd B ac C yn gadael gan fod mwy nag un partner bob tro ac roedd partner yn aelod cyn y newid ac mae’n dal yn aelod ar ôl y newid.
DTTT/5110 Nid yw partneriaeth i’w hystyried yn gynllun ymddiriedolaeth unedau
(paragraff 7)
Nid yw partneriaeth i’w hystyried yn gynllun ymddiriedolaeth unedau nac yn gwmni buddsoddi penagored.
DTTT/5120 Trafodiadau cyffredin gan bartneriaeth
Caiff ‘trafodiad cyffredin gan bartneriaeth’, yn amodol ar y rheolau sy’n ymwneud â chyfrifoldeb partneriaid, partneriaid cynrychiadol, ac atebolrwydd cyd ac unigol y partneriaid cyfrifol ei drethu yn yr un ffordd ag unrhyw drafodiad arall.
Pan fydd partneriaeth yn prynu neu’n gwerthu buddiant trethadwy mewn eiddo ac nad yw’n rhwym wrth y rheolau arbennig a restrir isod mae’n ‘drafodiad cyffredin gan bartneriaeth’:
- Trafodiadau sy’n ymwneud â throsglwyddiadau i bartneriaeth gan bartner neu bersonau penodol eraill
- Trafodiadau sy’n ymwneud â throsglwyddiadau o bartneriaeth i bartner neu bersonau penodol eraill
- Trafodiadau sy’n ymwneud â throsglwyddiadau rhwng dwy bartneriaeth
- Trafodiadau sy’n ymwneud â throsglwyddiadau sy’n ymwneud â phartneriaeth a ffurfir yn llwyr gan gyrff corfforaethol
- Trafodiadau sy’n ymwneud â throsglwyddiadau i neu o bartneriaeth lle mae’r gydnabyddiaeth drethadwy yn cynnwys rhent
- Trafodiadau sy’n ymwneud â throsglwyddiadau buddiant mewn partneriaethau buddsoddi mewn eiddo, a thrafodiadau sy’n ymwneud â hynny
- Rhai trafodiadau sy’n ymwneud â phartneriaethau lle mae esemptiadau a rhyddhad yn berthnasol
Mae’r termau sy'n cael eu defnyddio yn y rheolau arbennig hyn yn cael eu hegluro isod.
Cyfrifoldeb partneriaid
(paragraff 9)
O ran unrhyw beth y mae’n ofynnol ei wneud neu’r awdurdodir ei wneud gan y prynwr o dan y trafodiad, neu mewn cysylltiad ag ef, rhaid i’r holl bartneriaid cyfrifol ei wneud neu raid ei wneud mewn cysylltiad â hwy i gyd.
Y partneriaid cyfrifol mewn perthynas â thrafodiad yw’r rheini sy’n aelodau o’r bartneriaeth ar yr adeg y daeth y trafodiad tir i rym, ac unrhyw bartner sy’n ymuno â’r bartneriaeth ar ôl dyddiad dod i rym y trafodiad.
Am resymau ymarferol mae modd i bartner cynrychiadol gynrychioli partneriaeth.
Partneriaid cynrychiadol
(paragraff 10)
Caiff partneriaeth enwebu partner neu bartneriaid cynrychiadol i weithredu ar ran y partneriaid cyfrifol, gan gynnwys llofnodi neu gadarnhau bod ffurflen wedi’i llenwi ac yn gywir.
Rhaid i fwyafrif o’r partneriaid fod wedi enwebu partner cynrychiadol ac, er mwyn i hynny ddod i rym, rhaid rhoi’r enwebiad (ac unrhyw ddirymiad o’r enwebiad) i Awdurdod Cyllid Cymru.
Rhwymedigaeth partneriaid cyfrifol ar y cyd ac yn unigol
(paragraff 11)
Mae gan yr holl bartneriaid cyfrifol atebolrwydd cyd ac unigol am dalu’r Dreth Trafodiadau Tir (gan gynnwys adennill unrhyw Dreth Trafodiadau Tir a gafodd ei had-dalu ac roedd yr ad-daliad yn ormodol), unrhyw gosbau sy’n deillio o ffeilio’n hwyr neu wybodaeth anghywir neu unrhyw log a godir.
Fodd bynnag, nid yw partner cyfrifol yn atebol ar y cyd ac yn unigol am unrhyw dreth neu log sy’n codi o’r dreth honno am drafodiad oni bai fod y partner yn bartner ar ddyddiad dod i rym y trafodiad. Mewn perthynas ag unrhyw gosbau nid ydy partner cyfrifol yn atebol am unrhyw gosb, neu unrhyw log sy’n codi ar y gosb honno, oni bai eu bod yn bartner ar y diwrnod y rhoddwyd y gosb, neu’n bartner pan ddigwyddodd y weithred neu'r anweithred a arweiniodd at y gosb.
DTTT/5130 Diffiniadau
Eiddo partneriaeth
(paragraff 45(1))
Mae eiddo partneriaeth yn fuddiant neu’n hawl
- sy’n cael ei ddal gan neu ar ran partneriaeth, neu gan aelodau partneriaeth,
- at ddibenion busnes y bartneriaeth
Rhaid bodloni’r ddau brawf yma er mwyn i fuddiant trethadwy fod yn eiddo partneriaeth. Mae pob un yn gwestiwn o ffaith. Yn aml bydd trefniant rhwng y partneriaid a fydd yn golygu bod y sefyllfa yn hollol glir.
Yn ymarferol, mae modd penderfynu a ydy buddiant trethadwy yn eiddo partneriaeth ai peidio drwy gyfeirio at a ydyw’n eiddo partneriaeth yn rhinwedd adran 20 o Ddeddf Partneriaeth 1890. Bydd buddiant trethadwy sydd wedi'i gaffael, boed hynny drwy brynu neu fel arall, sydd ar gyfrif y ffyrm neu at ddibenion ac yn ystod busnes y bartneriaeth, yn eiddo partneriaeth at ddibenion y Dreth Trafodiadau Tir.
Nid yw’r ffaith bod busnes yn parhau mewn eiddo sy’n berchen i un neu fwy o’r partneriaid yn golygu bod buddiant trethadwy'r partner hwnnw yn eiddo partneriaeth. Pan fydd buddiant trethadwy yn berchen i’r holl bartneriaid mae a ydyw’n eiddo partneriaeth yn dibynnu ar y sail y mae’n cael ei ddal gan y cyd-berchnogion.
Mae’n annhebygol bod buddiant trethadwy lle mae’r buddiant ecwitïol yn amodol ar ddatganiad pendant o gyd-denantiaeth wrth gaffael yn cyfrif fel eiddo partneriaeth oni bai fod tystiolaeth glir o newid yn y bwriad gan y cyd-berchnogion i ddod â’r buddiant trethadwy i mewn fel ased i fusnes y bartneriaeth.
Cyfranddaliad partneriaeth
(paragraff 45(2))
Mae unrhyw gyfeiriad at gyfranddaliad person yn y bartneriaeth ar unrhyw adeg yn gyfeiriad at y gyfran y mae gan y person hawl iddi ar yr adeg honno wrth rannu elw incwm y bartneriaeth.
Trosglwyddo buddiant trethadwy
(paragraff 46)
Mae trosglwyddo buddiant trethadwy yn cynnwys:
- creu buddiant trethadwy
- amrywio buddiant trethadwy, ac
- ildio neu ollwng buddiant trethadwy
Trosglwyddo buddiant trethadwy i bartneriaeth
(paragraff 47)
Mae trosglwyddo buddiant trethadwy i bartneriaeth yn golygu unrhyw drosglwyddiad pan ddaw’r buddiant trethadwy yn eiddo i'r bartneriaeth.
Fel y nodir uchod (‘trosglwyddo buddiant trethadwy’), gall eiddo ddod yn eiddo partneriaeth heb orfod cael ei drosglwyddo i bartneriaeth.
Trosglwyddo buddiant trethadwy o bartneriaeth
(paragraff 49)
Mae trosglwyddo buddiant trethadwy o bartneriaeth yn golygu unrhyw drosglwyddiad pan:
- fydd buddiant trethadwy a oedd yn eiddo’r bartneriaeth yn peidio â bod yn eiddo’r bartneriaeth, neu
- pan fydd buddiant trethadwy yn cael ei roi neu ei greu o eiddo’r bartneriaeth ac nad eiddo’r bartneriaeth yw’r buddiant
Fel y nodir uchod (‘trosglwyddo buddiant trethadwy’), gall eiddo roi'r gorau i fod yn eiddo partneriaeth heb orfod cael ei drosglwyddo allan o bartneriaeth.
Trosglwyddo buddiant mewn partneriaeth
(paragraff 48)
Pan fydd person yn caffael cyfranddaliad partneriaeth neu pan fydd cyfranddaliad partneriaeth person yn cynyddu trosglwyddir buddiant yn y bartneriaeth (i’r partner hwnnw ac oddi wrth y partneriaid eraill).
Lesoedd gwerth marchnadol
(paragraff 50)
Penderfynir ar werth marchnadol les a roddwyd ar gyfer y sefyllfaoedd canlynol:
- trosglwyddo buddiant trethadwy i bartneriaeth, neu
- trosglwyddo buddiant trethadwy o bartneriaeth
Wrth bennu gwerth marchnadol y les, mae rhwymedigaeth ar ran y tenant o dan y les i’w hystyried os yw (ond dim ond os yw) yn rhwymedigaeth na fyddai fel rheol yn cyfrif fel cydnabyddiaeth drethadwy, neu mae’n rhwymedigaeth i wneud taliad i berson.
Personau cysylltiedig
(paragraff 51)
Mewn perthynas â thrafodion partneriaeth, mae i bersonau cysylltiedig yr un ystyr ag ar gyfer adran 1122 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010, ac eithrio bod is-adran 7 (partneriaid sy’n gysylltiedig â gilydd) wedi’i hepgor.
Ar ben hynny, mewn perthynas ag adnabod y perchennog perthnasol a'r partner cyfatebol ar gyfer trosglwyddiadau i bartneriaeth a throsglwyddiadau o bartneriaeth mae adran 1122 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 yn berthnasol gan hepgor is-adran (6)(c) i (e) (rheolau sy’n ymwneud ag ymddiriedolwr sy’n gysylltiedig ag ymddiriedolaeth ar gyfer setliad).
DTTT/5140 Trafodiadau sy’n ymwneud â throsglwyddiadau i bartneriaeth
Trosglwyddo buddiant trethadwy i bartneriaeth: cyffredinol
(paragraff 13)
Mae’r rheolau a nodir yn yr adran hon yn berthnasol pan fydd buddiant trethadwy yn cael ei drosglwyddo i bartneriaeth gan:
- bartner
- person a ddaw yn bartner o ganlyniad i’r trosglwyddiad neu yn gyfnewid am hynny, neu
- berson sy’n gysylltiedig â naill ai’r partner neu’r person a ddaw yn bartner
Mae’r rheolau'n berthnasol pa un a yw’r trosglwyddiad mewn cysylltiad â ffurfio partneriaeth neu’n drosglwyddiad i bartneriaeth bresennol.
Gan fod y person sy’n gwneud y trosglwyddiad i’r bartneriaeth yn bartner (neu’n mynd i fod yn bartner), neu’n berson sy’n gysylltiedig â’r partner, mae’r gydnabyddiaeth ar gyfer y trafodiad tir yn seiliedig ar werth marchnadol testun y trosglwyddiad.
Gan fod y partner sy’n trosglwyddo’r buddiant trethadwy yn yr eiddo i’r bartneriaeth eisoes yn berchen ar destun y trosglwyddiad i bob pwrpas, yn ôl y rheolau dim ond y gyfran honno o’r buddiant trethadwy yn yr eiddo a fydd yn gweld newid o ran perchnogaethau economaidd effeithiol sy’n cael ei thrin fel cydnabyddiaeth drethadwy.
Mae’r rheolau hefyd yn berthnasol i unrhyw ddewis a wneir gan bartneriaeth buddsoddi mewn eiddo i ddatgymhwyso’r rheolau hyn.
Mae fformiwla’n cael ei defnyddio i bennu’r gydnabyddiaeth drethadwy mewn trosglwyddiad tir sy’n ymwneud â throsglwyddo buddiant trethadwy i bartneriaeth.
Dyma’r fformiwla ar gyfer cyfrifo’r gydnabyddiaeth drethadwy:
GM x (100–SCI)%
Ystyr GM yw gwerth marchnadol.
Ystyr SCI yw swm y cyfrannau is.
Mae swm y cyfrannau is yn adlewyrchu’r buddiant yn y testun a oedd yn eiddo i’r trosglwyddwr cyn ac ar ôl y trosglwyddiad, ac mae’n cael ei fynegi fel canran o’r berchnogaeth sy’n cael ei chadw – neu’n cael ei thrin fel petai’n cael ei chadw – gan y trosglwyddwr. Yn unol â'r diffiniadau ar gyfer yr Atodlen, mae'r cyfranddaliad partneriaeth yn seiliedig ar y gyfran y mae gan y person hawl iddi ar yr adeg honno wrth rannu elw incwm y bartneriaeth.
Dyma enghraifft syml: os bydd un partner yn trosglwyddo buddiant trethadwy y mae’n berchen ar 100% ohono i bartneriaeth sy’n cynnwys pedwar partner – a phob un ohonynt â chyfranddaliad cyfartal yn elw incwm y bartneriaeth – dim ond ar y 75% y bydd y bartneriaeth yn talu’r Dreth Trafodiadau Tir er mwyn adlewyrchu buddiant y partner sy’n trosglwyddo, sef 25%. Y rheswm am hynny yw oherwydd bod y partner sy’n trosglwyddo yn berchen ar y gyfran honno o’r buddiant trethadwy yn yr eiddo cyn ac ar ôl y trafodiad, ond mae gan y tri phartner arall fuddiant o 25% yr un yn y buddiant trethadwy yn yr eiddo erbyn hyn, ac nid oedd ganddynt unrhyw fuddiant o gwbl ynddo cyn y trafodiad.
Swm y cyfrannau is (‘SCI’)
(paragraff 14)
Mae proses pum cam ar gyfer pennu swm y cyfrannau is (‘SCI’):
Cam 1 – nodi’r perchennog neu’r perchnogion perthnasol.
Cam 2 – ar gyfer pob perchennog perthnasol, nodi’r partner cyfatebol neu’r partneriaid cyfatebol. Os nad oes unrhyw bartner cyfatebol, swm y cyfrannau is yw sero.
Cam 3 – ar gyfer pob perchennog perthnasol, canfod y gyfran o’r buddiant trethadwy yr oedd gan bob perchennog perthnasol hawl iddi yn union cyn y trafodiad, yn seiliedig ar y gyfran o elw incwm y bartneriaeth Yna dosrannu’r gyfran honno rhwng unrhyw un neu ragor o bartneriaid cyfatebol y perchennog perthnasol.
Cam 4 – ar gyfer pob partner cyfatebol, canfod cyfran is naill ai:
•y gyfran o’r buddiant sydd i’w phriodoli i’r partner; neu
•cyfranddaliad y partner yn y bartneriaeth yn union ar ôl y trafodiad.
Cam 5 – adio’r cyfrannau is sydd wedi’u nodi yng ngham 4 ar gyfer pob partner cyfatebol.
Y canlyniad yw swm y cyfrannau is.
Perchennog perthnasol
(paragraff 15)
Mae person yn berchennog perthnasol (cam 1 y broses o gyfrifo SCI):
- os oedd ganddo, yn union cyn y trafodiad, hawl i gyfran o’r buddiant trethadwy, ac
- os yw, yn union ar ôl y trafodiad, yn bartner yn y bartneriaeth neu’n gysylltiedig â phartner
At ddibenion pennu swm cyfrannau is, bydd unrhyw berson sy’n gyd-denant yn cael ei drin fel tenant ar y cyd, gyda phob tenant yn dal cyfranddaliadau anrhanedig cyfartal yn yr eiddo.
Partner cyfatebol
(paragraff 16)
Mae person yn bartner cyfatebol (cam 2 y broses o gyfrifo SCI) mewn perthynas â pherchennog perthnasol os yw’r person, yn union ar ôl y trafodiad tir:
- yw’r person yn bartner, ac
- mai’r person yw’r perchennog perthnasol, neu os yw’n unigolyn sy’n gysylltiedig â’r perchennog perthnasol
Cyfran o fuddiant trethadwy sydd i’w phriodoli i bartner cyfatebol
(paragraff 17)
Dyma’r gyfran o’r buddiant trethadwy sydd i’w phriodoli i bartner cyfatebol (cam 4 y broses o gyfrifo SCI):
- os yw’r partner yn bartner cyfatebol mewn perthynas ag un perchennog perthnasol yn unig, y gyfran (os o gwbl) o’r buddiant trethadwy yw’r hyn sy’n cael ei ddosrannu i’r partner hwnnw (o dan gam 3 uchod) mewn perthynas â’r perchennog hwnnw
- os yw’r partner yn bartner cyfatebol mewn perthynas â mwy nag un perchennog perthnasol, y gyfran yw swm y cyfrannau (os o gwbl) o’r buddiant trethadwy a ddosrannwyd i’r partner hwnnw (o dan gam 3 uchod) mewn perthynas â phob un o'r perchnogion hyn
DTTT/5150 Trosglwyddo buddiant partneriaeth yn unol â threfniadau osgoi talu trethi
(paragraff 18)
Lle ceir:
- trosglwyddiad o fuddiant trethadwy i bartneriaeth, gan gynnwys partneriaethau buddsoddi mewn eiddo (‘y trosglwyddiad tir’)
- y mae’r rheolau SCI yn berthnasol iddo, ac
- mae trosglwyddiad o fuddiant yn y bartneriaeth wedi hynny (‘y trosglwyddiad partneriaeth’), ac
- mae'r trosglwyddiad o’r buddiant partneriaeth yn cael ei wneud gan berson sy’n gwneud y trosglwyddiad tir mewn cysylltiad â’r partner yn trosglwyddo buddiant trethadwy i’r bartneriaeth, neu berson a fydd yn dod yn bartner yn gyfnewid am drosglwyddo buddiant trethadwy yn gyfnewid am fuddiant partneriaeth, neu berson sydd â chysylltiad o’r fath i bartner neu berson a fydd yn dod yn bartner, ac
- mae’r trosglwyddiad yn cael ei wneud yn unol â’r trefniadau sy’n drefniadau osgoi talu trethi neu’n rhan o drefniadau o’r fath, a oedd yn bodoli ar adeg y trosglwyddiad, a
- heblaw o ganlyniad i’r rheolau arbennig hyn, nid yw’r trosglwyddiad o’r buddiant partneriaeth yn y bartneriaeth yn drafodiad trethadwy
Pan fo’r amodau hyn yn berthnasol, ystyrir bod trosglwyddo'r buddiant yn y bartneriaeth (‘y trosglwyddiad partneriaeth’) yn drafodiad tir a’r trafodiad tir hwnnw yn drafodiad trethadwy, gyda’r partneriaid yn cael eu trin fel y prynwyr.
Cymerir bod y gydnabyddiaeth drethadwy yn hafal i’r gyfran o werth marchnadol, ar ddyddiad y trafodiad, y buddiant a drosglwyddir gan y trosglwyddiad tir. Y gyfran honno:
- lle nad yw’r person sy’n gwneud y trosglwyddiad yn bartner yn union ar ôl y trosglwyddiad partneriaeth, yw cyfranddaliad partneriaeth y person hwnnw yn union cyn y trosglwyddiad
- lle roedd y person yn bartner yn union cyn y trosglwyddiad partneriaeth, yw'r gwahaniaeth rhwng cyfranddaliad y person cyn ac ar ôl y trosglwyddiad
Pan fo’r amodau’n berthnasol, ystyrir y trosglwyddiad partneriaeth a’r trosglwyddiad tir yn drafodiadau cysylltiedig, a chânt eu trethu’n unol â’r rheolau trafodiadau cysylltiedig.
At ddibenion y rheolau hyn y partneriaid cyfrifol yw’r rheini a oedd yn bartneriaid yn union cyn y trafodiad ac yn dal yn bartneriaid ar ôl y trafodiad, ac unrhyw berson sy’n dod yn bartner o ganlyniad i’r trosglwyddiad neu mewn cysylltiad â’r trosglwyddiad.
Diffinnir “trefniadau osgoi talu trethi” yn unol â’r ystyr a roddir yn adran 31 DTTT.
DTTT/5160 Tynnu arian ac ati o bartneriaeth ar ôl trosglwyddo buddiant trethadwy
(paragraff 19)
Mae’r rheolau hyn yn berthnasol:
- pan drosglwyddir buddiant trethadwy i bartneriaeth (‘y trosglwyddiad tir’)
- i'r graddau mae rheolau SCI y Dreth Trafodiadau Tir yn berthnasol
- yn ystod y cyfnod 3 blynedd rhwng dyddiad dod i rym y trosglwyddiad tir a phan fydd digwyddiad cymwys yn digwydd
- pan fo’r digwyddiad cymwys yn drefniant osgoi talu trethi, neu’n rhan ohono, ac
- ar adeg y digwyddiad cymwys, nid yw partneriaeth buddsoddi mewn eiddo wedi gwneud dewis i ddatgymhwyso’r rheolau SCI.
Mae’r canlynol yn ddigwyddiadau cymwys:
- Person perthnasol yn tynnu arian neu gyfwerth ariannol nad yw’n elw incwm o'r bartneriaeth:
- cyfalaf o gyfrif cyfalaf y person perthnasol hwnnw,
- lleihau buddiant y person perthnasol yn y bartneriaeth,
- y person perthnasol yn rhoi’r gorau i fod yn bartner,
- Lle mae person perthnasol wedi gwneud benthyciad i bartneriaeth, ad-dalu’r benthyciad cyfan neu ran ohono, a
- Lle mae person perthnasol wedi gwneud benthyciad i bartneriaeth, y person perthnasol yn tynnu arian neu gyfwerth ariannol nad yw’n elw incwm o’r bartneriaeth.
Ystyrir ‘digwyddiad cymwys’ yn drafodiad tir ac felly mae’n drafodiad trethadwy hefyd. Ystyrir mai’r prynwyr o dan y trafodiad hwnnw yw’r partneriaid.
Y gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y 3 digwyddiad cymwys a restrir uchod yw gwerth yr arian neu gyfwerth ariannol a dynnwyd o’r bartneriaeth.
Y gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y pedwerydd digwyddiad cymwys yw swm sy’n hafal i’r arian a ad-dalwyd.
Y gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y pumed digwyddiad cymwys yw gwerth yr arian neu gyfwerth ariannol heb fod yn fwy na swm y benthyciad a wnaed.
Ar ben hynny, ni all y gydnabyddiaeth drethadwy a bennir o dan y rheolau hyn fod yn fwy na gwerth marchnadol (ar ddyddiad dod i rym y trosglwyddiad tir) y buddiant trethadwy a drosglwyddir (llai unrhyw swm a oedd yn drethadwy yn flaenorol).
Mae’r ‘person perthnasol’:
- yn bartner sy’n trosglwyddo buddiant trethadwy i’r bartneriaeth
- yn berson sy’n trosglwyddo buddiant trethadwy i bartneriaeth yn gyfnewid am gyfranddaliad yn y bartneriaeth
- yn berson sy’n gysylltiedig â’r partner cyfredol neu bartner newydd
Pan fo’r darpariaethau hyn yn berthnasol ac mae’r un digwyddiad yn golygu bod tâl o dan y rheolau sy’n ymwneud â throsglwyddo buddiant mewn partneriaeth buddsoddi mewn eiddo hefyd yn berthnasol, bydd swm y dreth sy'n daladwy (os o gwbl) mewn cysylltiad â’r digwyddiad cymwys yn llai (ond nid i fod yn llai na dim), fel y bo’n berthnasol, swm y dreth sy'n daladwy o ganlyniad i drosglwyddo buddiant mewn partneriaeth buddsoddi mewn eiddo.
Diffinnir “trefniadau osgoi talu trethi” yn unol â’r ystyr a roddir yn adran 31 DTTT.
DTTT/5170 Trafodiadau sy’n ymwneud â throsglwyddiadau o bartneriaeth
Trosglwyddo buddiant trethadwy o bartneriaeth: cyffredinol
(paragraff 21)
Os trosglwyddir buddiant trethadwy o bartneriaeth:
- i berson sy’n un o’r partneriaid neu a fu’n un o’r partneriaid, neu
- i berson sy’n gysylltiedig â pherson o’r fath
bydd y rheolau yn y rhan hon yn berthnasol.
Gan fod y person sy’n gwneud y trosglwyddiad o’r bartneriaeth yn bartner (neu’n rhoi’r gorau i fod yn bartner), neu’n berson sy’n gysylltiedig â’r person, mae’r gydnabyddiaeth ar gyfer y trafodiad tir yn seiliedig ar werth marchnadol testun y trosglwyddiad. Mae’r rheol ar gyfer cyfrifo cydnabyddiaeth drethadwy o dan y rheolau ar gyfer partneriaeth yn disodli’r rheol gwerth marchnadol tybiedig, lle mae’r prynwr yn gwmni sy’n gysylltiedig â’r gwerthwr, ayb.
Gan fod y person y trosglwyddir yr eiddo iddo eisoes yn berchen ar fuddiant yn nhestun y trosglwyddiad i bob pwrpas, a hynny drwy ei fuddiant partneriaeth, yn ôl y rheolau dim ond y gyfran honno o’r eiddo a fydd yn gweld newid o ran perchnogaeth economaidd effeithiol sy’n cael ei thrin fel cydnabyddiaeth drethadwy.
Mae’r darpariaethau hyn hefyd yn ddarostyngedig i’r rheolau ym Mharagraff 29, sy’n berthnasol i drosglwyddo buddiant trethadwy o bartneriaeth i bartneriaeth, a Pharagraff 30, sy’n berthnasol i bartneriaeth lle mae’r holl bartneriaid yn gyrff corfforaethol.
Mae’r rheolau hefyd yn berthnasol i unrhyw ddewis a wneir gan bartneriaeth buddsoddi mewn eiddo i ddatgymhwyso’r rheolau hyn.
Mae fformiwla’n cael ei defnyddio i bennu’r gydnabyddiaeth drethadwy mewn trosglwyddiad tir sy’n ymwneud â throsglwyddo buddiant trethadwy o bartneriaeth.
Dyma’r fformiwla ar gyfer cyfrifo’r gydnabyddiaeth drethadwy:
GM x (100–SCI)%
Ystyr GM yw gwerth marchnadol.
Ystyr SCI yw swm y cyfrannau is.
Mae swm y cyfrannau is yn adlewyrchu’r buddiant yn y testun a oedd yn eiddo i’r trosglwyddai cyn ac ar ôl y trosglwyddiad, ac mae’n cael ei fynegi fel canran o’r testun a oedd yn eiddo i'r trosglwyddai cyn ac ar ôl y trosglwyddiad. Yn unol â'r diffiniadau ar gyfer yr Atodlen, mae'r cyfranddaliad partneriaeth yn seiliedig ar y gyfran y mae gan y person hawl iddi ar yr adeg honno wrth rannu elw incwm y bartneriaeth.
Dyma enghraifft syml: os bydd partneriaeth yn trosglwyddo buddiant trethadwy sy’n eiddo’n gyfan gwbl i’r bartneriaeth sy’n cynnwys pedwar partner, sydd oll â chyfranddaliad cyfartal yn y bartneriaeth, i un o’r partneriaid, dim ond ar 75% y bydd y partner hwnnw yn talu’r Dreth Trafodiadau Tir, i adlewyrchu’r ffaith fod y trosglwyddai yn dal 25% o fuddiant drwy ei fuddiant yn y bartneriaeth. Roedd y trosglwyddai, i bob pwrpas, yn berchen ar y cyfranddaliad hwnnw cyn ac ar ôl y trafodiad, ond nawr mae gan y tri phartner arall 25% o fuddiant yr un gan nad yw’r eiddo yn berchen i’r bartneriaeth erbyn hyn.
Yn yr achos bod y bartneriaeth yn cael ei diddymu neu’n dod i ben fel arall, caiff y bartneriaeth ei thrin, at ddibenion y Dreth Trafodiadau Tir, fel bod yn parhau nes i’r eiddo gael ei ddosbarthu.
Swm y cyfrannau is (‘SCI’)
(paragraff 22)
Mae proses pum cam ar gyfer pennu swm y cyfrannau is (‘SCI’):
Cam 1 – nodi’r perchennog neu’r perchnogion perthnasol.
Cam 2 – ar gyfer pob perchennog perthnasol, nodi’r partner neu bartneriaid cyfatebol. Os nad oes unrhyw bartner cyfatebol, swm y cyfrannau is yw sero.
Cam 3 – ar gyfer pob perchennog perthnasol, canfod y gyfran o’r buddiant trethadwy yr oedd gan bob perchennog hawl iddi yn union ar ôl y trafodiad. Yna dosrannu’r gyfran honno rhwng unrhyw un neu ragor o bartneriaid cyfatebol y perchennog perthnasol.
Cam 4 – ar gyfer pob partner cyfatebol, canfod cyfran is naill ai:
- y gyfran o’r buddiant sydd i’w phriodoli i’r partner, neu
- y cyfranddaliad yn y bartneriaeth sydd i’w briodoli i’r partner.
Cam 5 – adio’r cyfrannau is sydd wedi’u nodi yng ngham 4 ar gyfer pob partner cyfatebol.
Y canlyniad yw swm y cyfrannau is.
Perchennog perthnasol
(paragraff 23)
Mae person yn berchennog perthnasol (cam 1 y broses o gyfrifo SCI):
- os oedd ganddo, yn union ar ôl y trafodiad, hawl i gyfran o’r buddiant trethadwy, ac
- os yw, yn union cyn y trafodiad, yn bartner yn y bartneriaeth neu’n gysylltiedig â phartner.
At ddibenion pennu swm cyfrannau is, bydd unrhyw berson sy’n gyd-denant yn cael ei drin fel tenant ar y cyd, gyda phob tenant yn dal cyfranddaliadau anrhanedig cyfartal yn yr eiddo.
Partner cyfatebol
(paragraff 24)
Mae person yn bartner cyfatebol (cam 2 y broses o gyfrifo SCI) mewn cysylltiad â pherchennog perthnasol os oedd y person, yn union cyn y trafodiad tir:
- yn bartner, ac
- mai’r person oedd y perchennog perthnasol, neu os yw’n unigolyn a oedd yn gysylltiedig â’r perchennog perthnasol.
Felly, os nad y person yw’r perchennog perthnasol a’i fod yn gorff corfforaethol, neu os nad yw’n unigolyn fel arall, nid yw’n bartner cyfatebol.
Fodd bynnag, os yw’r person hwnnw’n gwmni a’i fod yn dal yr eiddo fel ymddiriedolwr a’i fod yn gysylltiedig â’r perchennog perthnasol dim ond oherwydd adran 1122(6) Deddf Treth Gorfforaeth 2010, gellir trin y cwmni hwnnw fel unigolyn at y dibenion hyn ac felly mae’n gallu bod yn bartner cyfatebol.
Cyfran o fuddiant trethadwy sydd i’w phriodoli i bartner cyfatebol
(paragraff 25)
Dyma’r gyfran o’r buddiant trethadwy sydd i’w phriodoli i bartner cyfatebol (cam 4 y broses o gyfrifo SCI):
- os yw’r partner yn bartner cyfatebol mewn perthynas ag un perchennog perthnasol yn unig, y gyfran (os o gwbl) o’r buddiant trethadwy yw’r hyn sy’n cael ei ddosrannu i’r partner hwnnw (o dan gam 3 uchod) mewn perthynas â’r perchennog hwnnw
- os yw’r partner yn bartner cyfatebol mewn perthynas â mwy nag un perchennog perthnasol, y gyfran yw swm y cyfrannau (os o gwbl) o’r buddiant trethadwy a ddosrannwyd i’r partner hwnnw (o dan gam 3 uchod) mewn perthynas â phob un o'r perchnogion hyn.
DTTT/5180 Cyfranddaliad yn y bartneriaeth sydd i’w briodoli i bartner cyfatebol: dyddiad dod i rym y trosglwyddiad cyn 20 Hydref 2003
(paragraff 26)
Er mwyn canfod y gyfran is o dan gam 4 cyfrifo’r buddiant trethadwy perthnasol a drosglwyddwyd i’r bartneriaeth mewn trafodiad a ddigwyddodd cyn 20 Hydref 2003 – swm y cyfrannau is (‘SCI’) – rhaid defnyddio’r rheolau arbennig hyn. Bydd buddiant trethadwy perthnasol a ddaeth yn eiddo partneriaeth cyn 20 Hydref 2003 yn fuddiant trethadwy a oedd yn ddarostyngedig i’r rheolau treth stamp (sylwer nad yw’r Dreth Stamp yr un fath â threth dir y dreth stamp).
O ran buddiant trethadwy o’r fath, mae’r cyfranddaliad partneriaeth sydd i'w briodoli i bartner cyfatebol yn cael ei ganfod gan ddefnyddio’r 3 cham canlynol.
Cam 1 – canfod cyfranddaliad y partner ar y dyddiad perthnasol
Y dyddiad perthnasol yw:
- os oedd y partner yn bartner ar 19 Hydref 2003, ei gyfranddaliad partneriaeth ar y dyddiad hwnnw
- os daeth y partner yn bartner ar ôl y dyddiad hwnnw, ei gyfranddaliad partneriaeth ar y dyddiad hwnnw
Y cyfranddaliad partneriaeth yw cyfranddaliad y partner yn elw incwm y bartneriaeth.
Cam 2 – ychwanegu unrhyw gynnydd dilynol yng nghyfranddaliad partneriaeth y partner
Ychwanegu unrhyw gynnydd yng nghyfranddaliad partneriaeth y partner a ddigwyddodd:
- yn y cyfnod sy’n dechrau ar y diwrnod ar ôl y dyddiad perthnasol ac sy’n dod i ben yn union cyn y trafodiad y mae'r cyfrifiad SCI yn berthnasol iddo, a
- daeth y cynnydd yn y cyfranddaliad partneriaeth i rym drwy offeryn a gafodd ei stampio â threth stamp ad valorem
Cam 3 – tynnu unrhyw ostyngiad dilynol yng nghyfranddaliad partneriaeth y partner
Tynnu unrhyw ostyngiadau yng nghyfranddaliad partneriaeth y partner a ddigwyddodd yn y cyfnod yn dechrau ar y diwrnod ar ôl y dyddiad perthnasol ac yn dod i ben yn union cyn y trafodiad y mae’r cyfrifiad SCI yn berthnasol iddo.
Canlyniad y 3 cham hyn yw'r cyfranddaliad partneriaeth sydd i’w briodoli i’r partner.
Os rhoddodd y partner y gorau i fod yn bartner cyn 19 Hydref 2003, y cyfranddaliad partneriaeth sydd i’w briodoli i’r partner hwnnw yw sero.
Buddiant trethadwy perthnasol yw:
- y buddiant trethadwy sy’n rhoi’r gorau i fod yn eiddo partneriaeth ac y mae’r cyfrifiad SCI yn cael ei wneud arno, neu
- os mai creu buddiant trethadwy y mae’r trafodiad y mae’r cyfrifiad SCI yn cael ei wneud arno, y buddiant trethadwy y mae’r buddiant yn cael ei greu ohono
DTTT/5190 Cyfranddaliad yn y bartneriaeth sydd i’w briodoli i bartner cyfatebol: dyddiad dod i rym y trosglwyddiad ar 20 Hydref 2003 neu wedi hynny
(paragraff 26)
Er mwyn canfod y gyfran is o dan gam 4 cyfrifo’r buddiant trethadwy perthnasol a drosglwyddwyd i’r bartneriaeth mewn trafodiad a ddigwyddodd ar 20 Hydref 2003 neu wedi hynny – swm y cyfrannau is (‘SCI’) – rhaid defnyddio’r rheolau arbennig hyn.
Buddiant trethadwy perthnasol yw:
- y buddiant trethadwy sy’n rhoi’r gorau i fod yn eiddo partneriaeth ac y mae’r cyfrifiad SCI yn cael ei wneud arno, neu
- os mai creu buddiant trethadwy y mae’r trafodiad y mae’r cyfrifiad SCI yn cael ei wneud arno, y buddiant trethadwy y mae’r buddiant yn cael ei greu ohono
Os yw’r paragraff hwn yn berthnasol, ac nid yw’r un o’r ddau amod canlynol yn perthnasol, y cyfranddaliad partneriaeth sydd i’w briodoli yw sero. Dyma'r amodau perthnasol:
- bod yr offeryn a oedd yn dod â’r trosglwyddiad i rym wedi ei stampio â threth stamp ad valorem, neu
- bod unrhyw Dreth Trafodiadau Tir neu, lle bo’n berthnasol, treth dir y dreth stamp, sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r trosglwyddiad, wedi cael ei thalu
O ran buddiant trethadwy o’r fath, ac os yw un o’r amodau yng nghyswllt talu treth stamp ayb yn berthnasol, caiff y cyfranddaliad partneriaeth sydd i’w briodoli i bartner cyfatebol ei ganfod drwy ddefnyddio’r 3 cham canlynol.
Cam 1 – canfod cyfranddaliad y partner ar y dyddiad perthnasol
Y dyddiad perthnasol yw:
- os oedd y partner yn bartner ar ddyddiad dod i rym y trosglwyddiad o’r buddiant trethadwy perthnasol i’r bartneriaeth, y dyddiad hwnnw
- os daeth y partner yn bartner ar ôl y dyddiad hwnnw, ei gyfranddaliad partneriaeth ar y dyddiad hwnnw
Y cyfranddaliad partneriaeth yw cyfranddaliad y partner yn elw incwm y bartneriaeth.
Cam 2 – ychwanegu unrhyw gynnydd dilynol yng nghyfranddaliad partneriaeth y partner
Ychwanegu unrhyw gynnydd yng nghyfranddaliad partneriaeth y partner a ddigwyddodd:
- yn y cyfnod sy’n dechrau ar y diwrnod ar ôl y dyddiad perthnasol ac sy’n dod i ben yn union cyn y trafodiad y mae'r cyfrifiad SCI yn berthnasol iddo, a
- os digwyddodd y cynnydd ar neu cyn 22 Gorffennaf 2004, daeth y cynnydd yn y cyfranddaliad partneriaeth i rym drwy offeryn a gafodd ei stampio â threth stamp ad valorem, neu
- os digwyddodd y cynnydd ar ôl 22 Gorffennaf 2004, bod unrhyw Dreth Trafodiadau Tir neu, lle bo’n berthnasol, treth dir y dreth stamp, mewn cysylltiad â’r trosglwyddiad, wedi cael ei thalu
Cafodd Rhan 3 o Atodlen 15 Deddf Cyllid 2003 ei disodli gan Atodlen 41 Deddf Cyllid 2004 ar 23 Gorffennaf 2004.
Cam 3 – tynnu unrhyw ostyngiad dilynol yng nghyfranddaliad partneriaeth y partner
Tynnu unrhyw ostyngiadau yng nghyfranddaliad partneriaeth y partner a ddigwyddodd yn y cyfnod yn dechrau ar y diwrnod ar ôl y dyddiad perthnasol ac yn dod i ben yn union cyn y trafodiad y mae’r cyfrifiad SCI yn berthnasol iddo.
Canlyniad y 3 cham hyn yw'r cyfranddaliad partneriaeth sydd i’w briodoli i’r partner.
Os rhoddodd y partner y gorau i fod yn bartner cyn dyddiad dod i rym y trosglwyddiad o'r buddiant trethadwy perthnasol i’r bartneriaeth, y cyfranddaliad partneriaeth sydd i’w briodoli i’r partner hwnnw yw sero.
DTTT/5200 Trafodiadau Partneriaeth Eraill
Trosglwyddo buddiant trethadwy o bartneriaeth i bartneriaeth
(paragraff 29)
Lle ceir trosglwyddiad o fuddiant trethadwy o bartneriaeth i bartneriaeth arall, ac mae’r trosglwyddiad yn un lle byddai'r rheolau sy’n ymwneud â swm y cyfrannau is (‘SCI’) ar gyfer trosglwyddiad i bartneriaeth a throsglwyddiad o bartneriaeth, heblaw am yr adran hon, yn berthnasol, yna mae’r rheolau canlynol yn sicrhau nad yw'r ddwy set o reolau yn berthnasol gyda’i gilydd.
Rhaid i’r trethdalwr gyfrifo’r gydnabyddiaeth drethadwy o dan y rheolau ar gyfer trosglwyddiad i bartneriaeth a throsglwyddiad o bartneriaeth, yna cyfrifo’r dreth ar yr uchaf o’r ddau swm cydnabyddiaeth drethadwy. Os nad oes partneriaid cyffredin rhwng y ddwy bartneriaeth, bydd yr SCI yn sero a bydd y trafodiad yn ‘drafodiad cyffredin gan bartneriaeth’.
Os yw’r gydnabyddiaeth a roddir yn rhent yn gyfan gwbl neu’n rhannol, yna ar gyfer trosglwyddiad o bartneriaeth i bartneriaeth lle mae partneriaid cyffredin, nid yw'r rheolau sy’n ymwneud â lesoedd a thrafodiadau partneriaeth yn berthnasol yn unig fel y nodir yn y rheolau hynny.
Yn hytrach, y dreth sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r gydnabyddiaeth sy’n cynnwys rhent yw’r uchaf o’r canlynol:
- beth fyddai'r dreth daladwy pe bai’r rheolau sy’n ymwneud â lesoedd a thrafodiadau partneriaeth yn berthnasol mewn cysylltiad â thrafodiad y mae’r rheolau ar gyfer trosglwyddiad i bartneriaeth yn berthnasol iddo, a
- beth fyddai'r dreth daladwy pe bai’r rheolau sy’n ymwneud â lesoedd a thrafodiadau partneriaeth yn berthnasol mewn cysylltiad â thrafodiad y mae’r rheolau ar gyfer trosglwyddiad o bartneriaeth yn berthnasol iddo
Mae’r rheolau les a rhent perthnasol sy’n darparu ar gyfer y band cyfradd sero ar gyfer ‘cydnabyddiaeth ar wahân i rent’ sydd i’w datgymhwyso pan fydd y gydnabyddiaeth sy’n cynnwys rhent yn uwch na’r swm perthnasol hefyd yn berthnasol mewn cysylltiad â throsglwyddiadau o bartneriaeth i bartneriaeth.
Trosglwyddo buddiant trethadwy o bartneriaeth a ffurfir yn llwyr gan gyrff corfforaethol
(paragraff 30)
Lle ceir trosglwyddiad o fuddiant trethadwy o bartneriaeth lle mae pob partner yn gorff corfforaethol i un o’r partneriaid hynny neu i berson sy’n gysylltiedig â’r partner hwnnw, ac mae swm y cyfrannau is yn 75% neu fwy, y gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trosglwyddiad tir yw gwerth marchnadol y buddiant sy’n cael ei drosglwyddo.
Os yw unrhyw ran o’r gydnabyddiaeth drethadwy yn cynnwys rhent, yna’r gydnabyddiaeth drethadwy yw Gwerth Presennol Net y rhent dros gyfnod y les yn ogystal â gwerth marchnadol y les.
Efallai y gellir hawlio rhyddhad grŵp. Fodd bynnag, os nad yw pob partner yn rhan o’r un grŵp ac nad yw’r person y caiff y buddiant ei drosglwyddo iddo yn yr un grŵp hwnnw, ni ellir hawlio rhyddhad grŵp.
Lesoedd: Trosglwyddo buddiant trethadwy i bartneriaeth neu ohono: cydnabyddiaeth drethadwy sy’n cynnwys rhent
(paragraff 31)
Lle mae partneriaeth:
- yn cael les gan bartner neu berson sy’n dod yn bartner o ganlyniad i roi’r les hwnnw neu mewn cysylltiad â hynny, neu
- yn rhoi les i bartner, neu berson sydd wedi bod yn bartner,
caiff y rheolau sy’n ymwneud â throsglwyddo i bartneriaeth a throsglwyddo o bartneriaeth eu haddasu (gweler paragraff 31 Atodlen 7 DTTT).
Mae’r Dreth Trafodiadau Tir yn cael ei chodi ar:
- cyfran o Werth Presennol Net y rhent sy’n daladwy dros gyfnod y les, a
- cyfran o unrhyw gydnabyddiaeth ar wahân i rent a gwerth marchnadol y les.
Caiff Gwerth Presennol Net y rhent dros gyfnod y les ei bennu yn unol â'r rheolau arferol sy’n berthnasol i lesoedd. O'r swm hwn, caiff y gyfran drethadwy berthnasol ei phennu yn unol â’r canlynol:
(100 – SCI)%
lle mai ‘SCI’ yw swm y cyfrannau is.
Pan fo cydnabyddiaeth ar wahân i rent (er enghraifft premiwm), caiff y gydnabyddiaeth drethadwy ei phennu yn yr un ffordd â chaffael unrhyw fuddiant trethadwy arall mewn tir, sy’n hafal i:
GM x (100-SCI)%
lle mai GM yw'r gwerth marchnadol ac SCI yw swm y cyfrannau is.
Pan fo les yn cael ei throsglwyddo neu ei rhoi gan bartneriaeth, ac mae pob partner yn gorff corff corfforaethol i gorff corff corfforaethol arall sydd yn bartner neu wedi bod yn bartner, a bod yr SCI yn 75% neu fwy, yna ystyrir mai’r gydnabyddiaeth drethadwy yw gwerth marchnadol y buddiant sy’n cael ei drosglwyddo ac, os bodlonir pob amod perthnasol, gellir hawlio rhyddhad grŵp hefyd).
DTTT/5210 Trosglwyddiadau sy’n cynnwys partneriaethau buddsoddi mewn eiddo
Ystyr partneriaeth buddsoddi mewn eiddo
(paragraff 33)
Mae partneriaeth buddsoddi mewn eiddo yn bartneriaeth lle mai buddsoddi mewn buddiannau trethadwy neu ddelio ynddynt yw ei phrif neu ei hunig weithgarwch. Caiff partneriaeth ei thrin fel partneriaeth buddsoddi mewn eiddo hyd yn oed pan fydd hefyd yn adnewyddu, adeiladu ayb yr adeiladau mae wedi buddsoddi ynddynt (‘gweithrediadau adeiladu’ yn ôl y diffiniad yn adran 74 Deddf Cyllid 2004). Wrth bennu a yw partneriaeth yn bartneriaeth buddsoddi mewn eiddo, rhaid ystyried hefyd y defnydd a wneir o eiddo y tu allan i Gymru, lle byddai’r eiddo hwnnw yn fuddiant trethadwy pe bai yng Nghymru. Ni fydd partneriaeth buddsoddi mewn eiddo yn cynnwys, er enghraifft, partneriaeth ffermio, nac adeiladwr tai lle mai ei brif neu ei unig weithgarwch yw adeiladu a gwerthu eiddo i drydydd partïon (hyd yn oed lle cedwir eiddo a’u rhentu allan weithiau oherwydd nad oes modd dod o hyd i brynwr) gan fod y rhan fwyaf o’i elw yn deillio o adeiladu tai, nid delio mewn tir. Bydd pennu ai prif neu unig weithgarwch partneriaeth yw buddsoddi mewn buddiannau trethadwy neu ddelio ynddynt yn gwestiwn o ffaith.
Trosglwyddo buddiant mewn partneriaeth buddsoddi mewn eiddo
(paragraff 34)
Os trosglwyddir buddiant mewn partneriaeth buddsoddi mewn eiddo a bod yr ‘eiddo partneriaeth perthnasol’ yn cynnwys buddiant trethadwy, caiff y trosglwyddiad o’r buddiant hwnnw ei drin fel trafodiad tir ac felly fel buddiant trethadwy at ddibenion y rhan hon o’r atodlen hon. Y prynwr yn y trafodiad tir hwnnw yw’r person sy’n dod yn bartner, neu’n cynyddu ei gyfranddaliad partneriaeth, o ganlyniad i'r trafodiad.
Ni phennir y gydnabyddiaeth drethadwy yn unol ag unrhyw ddarpariaethau eraill. Mae’n swm sy’n hafal i gyfran o werth marchnadol yr eiddo partneriaeth perthnasol. Caiff y gyfran ei chanfod drwy un o'r ddwy ffordd ganlynol:
- os nad yw’r person sy’n caffael buddiant yn y bartneriaeth yn bartner cyn y trosglwyddiad, eu cyfranddaliad partneriaeth yn union ar ôl y trosglwyddiad, neu
- os yw’r person sy’n caffael buddiant yn y bartneriaeth yn bartner cyn y trosglwyddiad, y gwahaniaeth rhwng y cyfranddaliad partneriaeth cyn ac ar ôl y trosglwyddiad
Caiff trosglwyddo buddiant mewn partneriaeth buddsoddi mewn eiddo ei drin fel buddiant trethadwy at ddibenion tynnu rhyddhad grŵp.
Mae dau fath o drosglwyddo buddiant mewn partneriaeth buddsoddi mewn eiddo, trosglwyddiad Math A neu drosglwyddiad Math B.
Trosglwyddiad Math A
Ystyr trosglwyddiad Math A yw:
- trosglwyddiad lle mae buddiant cyfan partner neu ran ohono yn cael ei gaffael gan bartner arall, neu berson arall, ac mae arian neu gyfwerth ariannol yn cael ei roi gan y partner neu’r person sy’n caffael y buddiant, neu
- trosglwyddiad lle mae person yn dod yn bartner, ac mae buddiant partner presennol yn cael ei leihau (neu mae’r partner yn gadael y bartneriaeth) ac mae arian neu gyfwerth ariannol yn cael ei dynnu gan y partner presennol (ar wahân i arian neu gyfwerth ariannol oedd ar gael i’r bartneriaeth cyn y trosglwyddiad).
Ystyr ‘eiddo partneriaeth perthnasol’ ar gyfer trosglwyddiad Math A yw’r holl fuddiannau trethadwy y mae partneriaeth yn eu dal yn union ar ôl y trosglwyddiad, ar wahân i:
- unrhyw fuddiant trethadwy a drosglwyddir i’r bartneriaeth fel rhan o’r trafodiad
- lesoedd rhent marchnadol, ac
- unrhyw fuddiant trethadwy na ellir ei briodoli’n economaidd i’r buddiant yn y bartneriaeth a drosglwyddir
Trosglwyddiad Math B
Ystyr trosglwyddiad Math B yw unrhyw drosglwyddiad o fuddiant partneriaeth mewn partneriaeth buddsoddi mewn eiddo nad yw’n drosglwyddiad Math A.
Ystyr ‘eiddo partneriaeth perthnasol’ ar gyfer trosglwyddiad Math B yw’r holl fuddiannau trethadwy y mae partneriaeth yn eu dal yn union ar ôl y trosglwyddiad, ar wahân i:
- unrhyw fuddiant trethadwy a drosglwyddir i’r bartneriaeth fel rhan o’r trafodiad
- lesoedd rhent marchnadol
- unrhyw fuddiant trethadwy na ellir ei briodoli’n economaidd i’r buddiant yn y bartneriaeth a drosglwyddir
- unrhyw fuddiant trethadwy a drosglwyddwyd i’r bartneriaeth ar 22 Gorffennaf 2004 neu cyn hynny
- unrhyw fuddiant trethadwy lle mae dewis wedi’i wneud i ddatgymhwyso’r rheolau sy’n ymwneud â throsglwyddo buddiant trethadwy i bartneriaeth, ac
- unrhyw fuddiant trethadwy arall lle na wnaethpwyd y trosglwyddiad i'r bartneriaeth gan bartner, gan rywun a ddaeth yn bartner o ganlyniad i'r trosglwyddiad na gan berson sy’n gysylltiedig â phartner, ac yr oedd y rheolau ar gyfer swm y cyfrannau is yn berthnasol iddo
Eithrio lesoedd rhent marchnadol
(paragraff 35)
Nid yw les sy’n cael ei ddal fel eiddo partneriaeth yn union ar ôl trosglwyddo buddiant yn y bartneriaeth yn eiddo partneriaeth perthnasol ar gyfer Trosglwyddiad Math A na Math B os bodlonir y 4 amod canlynol:
- amod 1 yw:
- nad oes unrhyw gydnabyddiaeth drethadwy ar wahân i rent wedi ei rhoi mewn cysylltiad â rhoi’r les, ac
- nad oes unrhyw drefniadau yn eu lle ar adeg y trosglwyddiad ar gyfer rhoi unrhyw gydnabyddiaeth drethadwy, ar wahân i rent, mewn cysylltiad â rhoi’r les.
- amod 2 yw bod y rhent sy’n daladwy o dan y les fel y’i rhoddwyd yn ‘rhent marchnadol' ar adeg rhoi’r les.
- amod 3 yw:
- bod cyfnod y les yn 5 mlynedd neu lai, neu
- os yw cyfnod y les yn hwy na 5 mlynedd:
- bod y les yn darparu y bydd y rhent sy’n daladwy oddi tani yn cael ei adolygu o leiaf unwaith ym mhob 5 mlynedd o’r cyfnod; ac
- ei bod yn ofynnol i’r rhent sy’n daladwy o dan y les o ganlyniad i adolygiad fod yn rhent marchnadol ar y dyddiad adolygu
- amod 4 yw na chafwyd unrhyw newid i’r les ers iddi gael ei rhoi a fyddai’n golygu bod y rhent sy’n daladwy o dan y les yn llai na rhent marchnadol
'Rhent marchnadol’ les yw’r rhent y gellid disgwyl yn rhesymol i’r les ei ddenu ar y farchnad agored ar yr adeg honno.
'Dyddiad adolygu’ yw'r dyddiad y mae’r rhent a bennir o ganlyniad i adolygiad rhent yn daladwy ohono.
DTTT/5220 Partneriaeth buddsoddi mewn eiddo yn dewis datgymhwyso’r rheolau sy’n ymwneud â throsglwyddo buddiant trethadwy i bartneriaeth
Os ceir trosglwyddiad o fuddiant trethadwy i bartneriaeth buddsoddi mewn eiddo, gall y prynwr ddewis datgymhwyso’r rheolau sy’n ymwneud â throsglwyddo buddiant trethadwy i bartneriaeth.
Pan wneir dewis o’r fath:
- caiff y rheolau sy’n ymwneud â throsglwyddo buddiant trethadwy o bartneriaeth eu datgymhwyso hefyd (ac felly nid yw paragraffau 18 ac 19 yn berthnasol chwaith);
- ystyrir mai’r gydnabyddiaeth drethadwy yw gwerth marchnadol y buddiant trethadwy, a
- caiff y trafodiad ei drin fel trafodiad cyffredin gan bartneriaeth
Rhaid i ddewis o dan y paragraff hwn gael ei gynnwys ar y ffurflen Treth Trafodiadau Tir a ddychwelir mewn cysylltiad â’r trafodiad, neu mewn diwygiad i’r ffurflen honno. Os caiff y ffurflen ei dychwelyd ar-lein, rhaid anfon y dewis ar yr un pryd, a hynny i:
Awdurdod Cyllid Cymru
Blwch Postio 108
Merthyr Tudful
CF47 7DL (os anfonir drwy’r post)
neu gellir ei gyflwyno drwy ffurflen Cysylltu â Ni yr Awdurdod Cyllid.
Rhaid i'r dewis nodi enw’r trethdalwr, cyfeiriad yr eiddo dan sylw a chyfeirnod y ffurflen sy’n berthnasol i’r broses o gaffael yr eiddo gan y bartneriaeth buddsoddi mewn eiddo.
Mae’r dewis yn un di-alw’n-ôl, ac ni chaniateir diwygio’r ffurflen dreth er mwyn tynnu’r dewis yn ôl.
Ar y llaw arall, mae’n bosibl diwygio’r ffurflen y gwneir dewis ynddi. Lle gwneir dewis mewn cysylltiad â thrafodiad (a elwir yn ‘brif drafodiad’) mewn diwygiad i ffurflen:
- mae’r dewis yn dod i rym fel pe bai wedi cael ei wneud ar ddyddiad dychwelwyd y ffurflen, ac
- caniateir diwygio unrhyw ffurflen mewn cysylltiad â ‘thrafodiad yr effeithir arno’ (o fewn y cyfnod a ganiateir ar gyfer diwygio’r ffurflen dreth honno, er mwyn adlewyrchu’r dewis hwnnw.
Ystyr ‘trafodiad yr effeithir arno’ mewn cysylltiad â’r prif drafodiad yw trafodiad partneriaeth buddsoddi mewn eiddo sydd â dyddiad dod i rym ar y dyddiad mae’r prif drafodiad yn dod i rym, neu wedi hynny.
Buddiannau partneriaethau: cymhwyso darpariaethau ynghylch cyfnewid
(paragraff 37)
Lle mae’r rheolau cyfnewid yn berthnasol i gaffael buddiant mewn partneriaeth buddsoddi mewn eiddo gan mai’r gydnabyddiaeth ar gyfer ymrwymo i’r trafodiad hwnnw yw ymrwymo i drafodiad tir, caiff y buddiant yn y bartneriaeth buddsoddi mewn eiddo ei drin fel ei fod yn brif fuddiant mewn tir (os yw’r eiddo partneriaeth perthnasol yn cynnwys prif fuddiant mewn tir). Mae’r rheol hon yn golygu bod y rheolau cyfnewid yn gallu bod yn berthnasol i’r cyfnewidiad (gan fod yn rhaid i’r buddiannau sy’n cael eu cyfnewid fod yn brif fuddiannau). Fodd bynnag, nid yw’r rheolau sy’n ymwneud â darnddosbarthu neu rannu buddiant trethadwy yn berthnasol.
Mae gan yr ‘eiddo partneriaeth perthnasol’ yr un ystyr ag sydd ganddo ar gyfer trosglwyddiad Math A neu Fath B.
DTTT/5230 Cymhwyso Esemptiadau a Rhyddhadau
Nid yw’r esemptiad rhag treth lle nad oes cydnabyddiaeth drethadwy yn berthnasol i’r canlynol:
- trosglwyddiadau sy’n cynnwys trosglwyddo buddiant trethadwy i bartneriaeth
- trosglwyddiadau sy’n cynnwys trosglwyddo buddiant trethadwy o bartneriaeth)
- trosglwyddo buddiannau partneriaeth yn unol â threfniadau osgoi talu trethu, neu
- drosglwyddo buddiant mewn partneriaeth buddsoddi mewn eiddo.
Yn amodol ar y rheolau penodol sy’n ymwneud â chymhwyso rhyddhad grŵp a rhyddhad elusennau, mae unrhyw ddarpariaeth arall sy’n rhoi esemptiad neu ryddhad rhag y Dreth Trafodiadau Tir yn berthnasol i drafodiadau partneriaeth.
Cymhwyso rhyddhad grŵp
(paragraff 40)
Mae rhyddhad grŵp ar gael mewn trafodiadau sy’n cynnwys partneriaethau lle bodlonir yr amodau ar gyfer y rhyddhad hwnnw.
Mae rheolau penodol yn berthnasol lle:
- mae’r trafodiad yn un lle trosglwyddir buddiant trethadwy i bartneriaeth gan bartner, gan berson sy’n dod yn bartner o ganlyniad i’r trosglwyddiad, neu gan berson cysylltiedig, ac
- mae’r trafodiad yn drafodiad trethadwy gan ei fod yn unol â threfniadau osgoi talu trethi
Pan fydd y sefyllfa hon yn codi, dylid darllen y rheolau ar gyfer tynnu rhyddhad grŵp gyda nifer o gyfnewidiadau (gweler y ddolen i baragraff 40 Atodlen 7 DTTT).
Prif ofyniad rhyddhad grŵp yw a yw’r cwmnïau dan sylw mewn strwythur grŵp, ac mae hyn yn dibynnu ar statws y cwmnïau dan sylw: rhaid iddynt fod yn gyrff corfforaethol ac, i sefydlu strwythur grŵp, rhaid iddynt fod wedi cyhoeddi cyfalaf cyfrannau. Fodd bynnag, dylid nodi bod partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig yn gorff corff corfforaethol ac felly gall fod yn rhiant i grŵp o gwmnïau. Ond ni all fod yn is-gwmni neu’n chwaer-gwmni gan nad yw wedi cyhoeddi cyfalaf cyfrannau. Ar ben hynny, ni ellir trosglwyddo eiddo i’r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig ac elwa ar hawliad rhyddhad grŵp.
Mae rhyddhad grŵp yn cael ei dynnu'n ôl lle mae partner corff corfforaethol a oedd yn bartner ar y dyddiad dod i rym y caffael, sy'n cael ei rhyddhau rhag talu treth oherwydd hawliad rhyddhad grŵp gan y partner, yn peidio â bod yn aelod o'r un grŵp â'r gwerthwr cyn diwedd y cyfnod o dair blynedd sy'n dechrau ar ddyddiad dod i rym y trafodiad, neu yn unol â threfniadau a wnaed cyn diwedd y cyfnod hwnnw, neu mewn cysylltiad â’r trefniadau hynny. Dylid ystyried cyfeiriadau at y ‘prynwr’ yn y rheolau ar gyfer rhyddhad grŵp yn gyfeiriadau at y partner perthnasol.
Lle caiff rhyddhad grŵp ei dynnu’n ôl yn rhannol, mae swm y dreth daladwy yn gyfran briodol ac ystyried pwnc y trafodiad perthnasol, ac yr hyn mae’r bartneriaeth yn ei ddal, neu’r hyn sy’n cael ei ddal ar ran y bartneriaeth, ar yr adeg berthnasol, a’r gyfran y mae gan y partner perthnasol hawl iddi yn elw incwm y bartneriaeth ar yr adeg berthnasol.
Swm y cyfrannau is: cwmnïau cysylltiedig
(paragraff 41)
Wrth gyfrifo swm y cyfrannau is ar gyfer trafodiad sy'n cynnwys trosglwyddo i bartneriaeth, a hynny gan bartner, gan berson sy’n dod yn bartner o ganlyniad i’r trosglwyddiad, neu gan berson cysylltiedig, a byddai cwmni (cwmni cysylltiedig) yn bartner cyfatebol i berchennog perthnasol (ond ar gyfer y rheol, mae'n berthnasol i unigolion yn unig) a bod y ddau gwmni yn yr un grŵp, dylid darllen y rheolau rhyddhad grŵp gyda nifer o gyfnewidiadau (gweler y ddolen i baragraff 4 Atodlen 7 DTTT). Mae'r rheol yn caniatáu i'r tâl treth, mewn cysylltiad â'r trafodiad, gael ei ostwng i'r swm a fyddai wedi bod yn daladwy pe bai'r cwmni cysylltiedig yn bartner cyfatebol i'r perchennog gwreiddiol at ddibenion cyfrifo swm y cyfrannau is ('SCI').
Trin partneriaethau at ddibenion rhyddhad grŵp
Mae statws partneriaeth ar gyfer rhyddhad grŵp yn dibynnu ar natur y bartneriaeth honno.
Mae statws partneriaeth yn berthnasol i hawliadau rhyddhad grŵp, er bod rhwymedigaeth i’r Dreth Trafodiadau Tir yn disgyn fel arall ar y partneriaid, yn hytrach nag ar y bartneriaeth fel endid ar wahân. Mae trosglwyddo buddiant trethadwy i bartneriaeth neu ohono yn golygu bod y bartneriaeth ei hun yn cael ei ‘hanwybyddu’, a’r partneriaid yw’r rheini sydd â rhwymedigaeth i'r Dreth Trafodiadau Tir.
Wrth edrych ar drosglwyddiadau i gwmnïau grŵp neu ohonynt lle mae partneriaeth yn strwythur y grŵp, mae’r math o bartneriaeth yn pennu a yw darpariaethau rhyddhad grŵp yn gallu bod yn berthnasol.
Nid oes gan bartneriaethau a ffurfiwyd o dan gyfraith Cymru a Lloegr; Partneriaethau Cymru a Lloegr a Phartneriaethau Cyfyngedig Cymru a Lloegr bersonoliaeth gyfreithiol ac felly maent yn dryloyw at ddibenion trethiant y DU.
Nid yw Partneriaethau Albanaidd a Phartneriaethau Cyfyngedig Albanaidd yn gyrff corfforaethol ac felly ni allant fod yn aelodau o grŵp Treth Trafodiadau Tir ond mae ganddynt bersonoliaeth gyfreithiol, a gallant fod yn berchen ar gyfrannau mewn is-gwmni. Mae hyn yn golygu bod Partneriaeth Albanaidd yn achosi toriad yn strwythur y grŵp.
Mae Partneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig (lle bynnag maent wedi’u cofrestru yn y DU) yn gyrff corfforaethol – felly gallant fod yn rhiant i grŵp gan eu bod yn gyrff corfforaethol ac yn gallu bod yn berchen ar y cyfrannau yn yr is-gwmnïau. Fodd bynnag, maent hefyd yn achosi toriad mewn grŵp gan nad oes gan y Bartneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig gyfalaf cyfrannau wedi’u cyhoeddi.
At ddibenion y Dreth Trafodiadau Tir, dylid trin partneriaethau nad ydynt yn bartneriaethau’r DU yn yr un modd â’r bartneriaeth DU y maent debycaf iddi.
Dyma enghreifftiau o gymhwyso rhyddhad: Rhyddhad Grŵp – Partneriaethau Cymru a Lloegr a Phartneriaethau Cyfyngedig Cymru a Lloegr
Mae A Cyf yn berchen ar 100% o gyfalaf cyfrannau a gyhoeddwyd B Cyf ac C Cyf. Mae B Cyf ac C Cyf yn berchen ar 50% o fuddiant partneriaeth yr un yn ‘y Bartneriaeth’. Mae'r ‘Bartneriaeth’ yn berchen ar 100% o’r cyfalaf cyfrannau a gyhoeddwyd yn E Cyf a F Cyf. Mae’r ‘Bartneriaeth’ yn y strwythur yn Bartneriaeth Cymru a Lloegr (EWP) neu’n Bartneriaeth Gyfyngedig Cymru a Lloegr (EWLP).
Cymhwyso rhyddhad elusennau
(paragraff 42)
Os bodlonir yr amodau ar gyfer rhyddhad elusennau, mae’r rhyddhad yn berthnasol i bob trafodiad partneriaeth sy’n ymwneud â throsglwyddo buddiant mewn partneriaeth neu fuddiant mewn partneriaeth buddsoddi mewn eiddo. Fodd bynnag, dylid darllen y rheolau ar gyfer rhyddhad elusennau fel petaent wedi’u diwygio er mwyn darparu ar gyfer gwneud y rhyddhad ar gael (gweler paragraff 42 Atodlen 7 DTTT).
Mae rhyddhad elusennau ar gael yn yr amgylchiadau hyn os yw’r trosglwyddai yn elusen, ac mae’n rhaid i bob buddiant trethadwy sy’n cael ei ddal fel eiddo partneriaeth yn union ar ôl y trosglwyddiad gael ei ddal at ddibenion elusennol cymwys.
Hysbysu am drosglwyddo buddiant partneriaeth
(paragraff 44)
Mae trafodiad sy’n drafodiad trethadwy gan ei fod:
- un ai’n drosglwyddiad o fuddiant mewn partneriaeth buddsoddi mewn eiddo ac mae'r eiddo partneriaeth perthnasol yn cynnwys buddiant trethadwy, neu
- yn drosglwyddiad o fuddiant partneriaeth yn unol â threfniadau osgoi talu trethi
yn drafodiad hysbysadwy os (ond dim ond os oes) treth daladwy ar gyfradd o fwy na 0% neu unrhyw swm y byddai treth yn daladwy mewn cysylltiad â’r swm hwnnw oni bai fod rhyddhad wedi’i hawlio.
DTTT/5240 Diwygio’r Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi mewn cysylltiad â phartneriaethau
(paragraff 43)
Mae nifer o ddiwygiadau (gweler paragraff 43 Atodlen 7 DTTT) yn berthnasol i’r rheolau yn y Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (DCRhT) mewn cysylltiad â'r canlynol:
- gwneud asesiadau
- y terfyn amser ar gyfer asesiadau Awdurdod Cyllid Cymru
- hawlio ad-daliadau
- asesiad o hawlydd mewn cysylltiad â hawliad
- hysbysiadau pwysig
- hysbysiadau trethdalwr