Pe bai Llywodraeth y DU yn sefydlu porthladdoedd rhydd yn yr Alban a Chymru heb gytundeb y llywodraethau datganoledig, byddai’n tanseilio datganoli, meddai Gweinidogion Cymru a’r Alban.
Er bod y ddwy lywodraeth wedi ymrwymo i weithio â Llywodraeth y DU, mae Gweinidogion y DU wedi awgrymu eu bod am fwrw ymlaen heb ganiatâd y llywodraethau datganoledig. Nid ydynt chwaith wedi rhoi addewid na fyddent yn deddfu mewn meysydd datganoledig. Bydd Gweinidogion Cymru a’r Alban yn herio’n gryf unrhyw ymgais gan Lywodraeth y DU i ddeddfu ar faterion datganoledig.
Mae Gweinidogion yn gofyn hefyd am eglurder gan Lywodraeth y DU am benderfyniadau ar y cyd a dyraniadau ariannol gan fod Gweinidogion wedi bod yn amharod i warantu y byddai’r arian fyddai’n cael ei neilltuo ar gyfer porthladdoedd yng Nghymru a’r Alban yn cyfateb i’r symiau sy’n cael eu cynnig yn Lloegr.
Mae Llywodraeth yr Alban wedi bod yn ceisio gweithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod y cynigion ar gyfer porthladdoedd rhydd yn yr Alban yn adlewyrchu anghenion busnesau a chymunedau’r Alban. Gan addasu cynigion Llywodraeth y DU, byddai porthladdoedd gwyrdd newydd yr Alban yn cynnig pecyn o gymorth i fusnesau fyddai’n seiliedig ar arferion gwaith teg ac a fyddai’n cyfrannu at drawsnewid cyfiawn i economi allyriadau sero net.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ysgrifennu eto at Lywodraeth y DU i ofyn am drafodaeth frys ynghylch sut i fynd â’r cynlluniau hyn yn eu blaenau gan nad oes cynnig ffurfiol wedi’i wneud eto i sefydlu Porthladd Rhydd yng Nghymru.
Dywedodd Gweinidog Cyllid Cymru, Rebecca Evans
Rydym wedi ceisio sawl gwaith i gydweithio’n adeiladol â Llywodraeth y DU a dod i gytundeb ar sut i roi porthladdoedd rhydd ar waith yng Nghymru mewn ffordd sy’n gyson â’n blaenoriaethau a’n gwerthoedd fel Llywodraeth.
Mae Llywodraeth y DU yn rhoi pwysau ar Lywodraeth Cymru i ailgyfeirio ei hadnoddau fel ei bod yn gwireddu un o flaenoriaethau polisi Llywodraeth y DU. Mae hyn yn annerbyniol i ni, ac rydym wedi’i gwneud yn glir bod angen i Lywodraeth y DU ddangos yr un faint o ymrwymiad i borthladdoedd Cymru ag i rai Lloegr.
Dywedodd Gweinidog Economi Cymru, Vaughan Gething
Fel Llywodraeth gyfrifol, rydym am sicrhau bod porthladdoedd rhydd yn rhoi gwerth ein harian i ni. Mae angen i ni deimlo’n hyderus hefyd bod modd lliniaru unrhyw effeithiau drwg y gallai cynigion Llywodraeth y DU esgor arnynt.
Rydyn ni’n cydnabod, heb ein cefnogaeth, y byddai porthladd rhydd yng Nghymru yn llai deniadol ac yn llai cystadleuol na’r rheini yn Lloegr, ond mae penderfyniad Llywodraeth y DU i beidio â thrafod yn adeiladol â ni yn awgrymu y byddai’n well ganddi fentro tanseilio datganoli trwy greu porthladd rhydd diffygiol heb ein cefnogaeth na gweithio gyda ni a dod â buddiannau i Gymru.
Dywedodd Gweinidog Busnes yr Alban, Ivan McKee
Mae Llywodraeth yr Alban yn parhau’n ymroddedig i weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth y DU ond ni allwn gefnogi polisi ganddi sydd ddim yn parchu datganoli. Mae Gweinidogion y DU wedi gwrthod gweithio â ni i sicrhau bod eu cynigion yn diwallu anghenion busnesau a chymunedau yn yr Alban. Os aiff Llywodraeth y DU yn ei blaen gyda chynnig heb ymrwymo i waith teg ac allyriadau sero net, yna ni all Llywodraeth yr Alban gefnogi’r cynnig hwnnw.
Rhag i ni gael râs am y gwaethaf o ran hawliau gweithwyr a’r amgylchedd, bydd Llywodraeth yr Alban yn herio unrhyw ymgais gan Lywodraeth y DU i orfodi ei model ar yr Alban trwy ddeddfu mewn maes datganoledig. Byddai hynny’n mynd yn groes i ysbryd y setliad datganoli. Byddwn i’n annog Ysgrifennydd Gwladol yr Alban a Gweinidogion eraill y DU yn gryf i weithio gyda ni i sicrhau ein bod yn gallu darparu porthladdoedd gwyrdd yn yr Alban.