Wrth ymateb i ystadegau’r farchnad lafur a gyhoeddwyd heddiw, dywedodd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi:
“Mae’r ffigurau heddiw eto yn rhai calonogol, gyda diweithdra yng Nghymru’n is nag yn y chwarter diwetha’ ac yn dal i fod yn is na chyfartaledd y DU, ond mae pawb yn deall bod economi Cymru’n wynebu ansicrwydd o hyd oherwydd y pandemig ac ymadawiad y DU â’r UE.
“Rydyn ni wedi gwneud popeth posibl i helpu busnesau Cymru yn ystod y cyfnod hynod anodd hwn, gan gynnwys neilltuo dros £2.5 biliwn o gymorth i fusnesau yng Nghymru. Mae’r pecyn hwn ar ben ac yn ategu’r cymorth y mae Llywodraeth y DU wedi’i roi.
“Cafodd yr help hwn ei dargedu, yn enwedig er lles busnesau bach a chymunedau Cymru, a drwy hynny, mae rhagor na 160,000 o swyddi yng Nghymru wedi’u diogelu, a fyddai fel arall wedi’u colli.
“Rydyn ni wedi estyn y 100% o ryddhad rhag ardrethi i fusnesau tan ddiwedd y flwyddyn ariannol hon a chanolbwyntio ar roi hyfforddiant a help gyda’u sgiliau i weithwyr trwy ein gwasanaeth Cymru’n Gweithio.
“Fy mlaenoriaeth nawr, fel Gweinidog yr Economi, yw sicrhau bod Llywodraeth Cymru mewn sefyllfa i allu rhoi hwb i Gymru iddi ymadfer o’r pandemig, a rhoi’r math iawn o gymorth i fusnesau a gweithwyr yng Nghymru, er mwyn i ni allu adeiladu economi gryfach, gwyrddach a mwy ffyniannus, mewn Cymru sy’n decach i bawb.
“Mae helpu pobl ifanc yn rhan hanfodol o’n gwaith i sbarduno adferiad economaidd Cymru. Dyna’n rheswm dros ymrwymo i’n Gwarant i Bobl Ifanc, a fydd yn golygu cynnig gwaith, addysg, hyfforddiant neu hunangyflogaeth i bawb o dan 25 oed yng Nghymru. Rydyn ni hefyd yn ymrwymo i greu 125,000 o brentisiaethau i bobl o bob oed."