Mick Antoniw, Y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
Ers i bolisi etholiadau gael ei datganoli yn 2017, mae diwygiadau Llywodraeth Cymru wedi canolbwyntio ar ymestyn yr etholfraint ar gyfer etholiadau datganoledig a gwella'r broses ar gyfer y canfasio blynyddol. Er mwyn cyflawni hyn, pasiwyd dwy Ddeddf gan y Senedd, ochr yn ochr â darn mawr o is-ddeddfwriaeth.
Wrth inni symud i'r chweched Senedd, mae'n bryd yn awr i gyflymu ein hagenda ddiwygio a dechrau gwireddu ein huchelgeisiau i foderneiddio gweinyddiaeth etholiadol yng Nghymru. Mae hyn yn golygu symud i gymhlethdod sut a phryd y mae pobl yn pleidleisio, sut y cânt eu cofrestru, yr wybodaeth sydd ar gael iddynt a galluogi pawb sydd am gofrestru neu bleidleisio i wneud hynny.
Mae'n bwysig tanategu'r agenda ddiwygio hon gyda fframwaith clir â set o egwyddorion. Dyma fydd sylfaen ein hymatebion hefyd i ddiwygio etholiadol ledled y DU. Mae hyn yn dangos bod ein diwygiadau yn seiliedig ar egwyddorion, eu bod yn gydlynol, yn ystyrlon ac wedi'u hanelu at yr hyn sydd orau i bleidleiswyr. Mae hefyd yn dangos gwerth datganoli a gwerthoedd cyfiawnder cymdeithasol sydd wrth wraidd y Llywodraeth hon.
Rhaid i ddiwygiadau etholiadol gael eu gosod o fewn cyd-destun ehangach. Yn gyntaf, mae'n rhaid inni ystyried gallu diwygio etholiadol a democrataidd i chwarae rhan ganolog wrth gyflawni nodau strategol Llywodraeth Cymru. Mae cysylltiad cryf rhwng cymryd rhan mewn democratiaeth a gwell canlyniadau. Mae cefnogi pobl i oresgyn rhwystrau a brofir oherwydd eu cyflyrau economaidd-gymdeithasol yn hanfodol er mwyn cyflawni ein nod cyffredinol o wella cyfraddau a phrofiadau cyfranogi. Wrth ystyried newidiadau polisi neu ymyriadau, rhaid inni eu hystyried gyda hyn mewn golwg; mae'n hanfodol ein bod yn rhoi mesurau ar waith i gefnogi'r gwaith o leihau'r anghydraddoldebau sy'n gysylltiedig ag anfanteision economaidd-gymdeithasol.
Yn yr un modd, mae cyfranogiad mewn democratiaeth gan bobl â nodweddion gwarchodedig yn llawer is na'r rhai sydd heb nodweddion gwarchodedig. Rhaid inni ystyried hefyd sut y mae hyn yn cyd-fynd â'r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol. Bydd angen i bob diwygiad etholiadol ganolbwyntio ar gyfranogiad cyfartal, gan ddefnyddio dulliau megis y model cymdeithasol o anabledd fel sylfaen a sicrhau bod Nodau Cenedlaethol Deddf Llesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol yn rhan annatod o atebion a mentrau polisi.
Rydym yn credu y dylai'r holl ddiwygiadau etholiadol gael eu tanategu gan y Ffyrdd o Weithio a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Rydym yn ymrwymo felly i gynllunio diwygiadau ar y cyd â rhanddeiliaid, gan roi inni fantais profiadau'r rhai sy'n deall orau'r rhwystrau i ddemocratiaeth. Byddwn yn gweithio gyda phobl Cymru a sefydliadau arbenigol i sicrhau bod atebion polisi yn datrys problemau gwirioneddol a wynebir gan ddinasyddion ac yn mynd ati i ddileu rhwystrau i gyfranogiad.
Mae'r egwyddorion a nodir isod yn adlewyrchu gwerthoedd cyfiawnder cymdeithasol a'r gwerth a roddwn ar ddemocratiaeth yng Nghymru. Fel Llywodraeth byddwn yn eu defnyddio i feincnodi ein hagenda diwygio etholiadol a'n dull o gefnogi ymgysylltiad a chyfranogiad democrataidd yn ehangach. Rydym yn gofyn i eraill sy'n ymwneud â darparu etholiadau eu defnyddio fel y meincnod wrth ystyried sut y maent yn rheoli'r broses etholiadol o gofrestru hyd at gyhoeddi a chofnodi canlyniadau.
Yr egwyddorion yw:
- Tegwch: Rhaid galluogi pob person sy'n dymuno cymryd rhan mewn democratiaeth i wneud hynny, a hynny mewn amgylchedd diogel a pharchus, fel bod ein sefydliadau'n amrywiol ac yn cynrychioli'r bobl y maent yn eu gwasanaethu.
- Hygyrchedd: Dylai newidiadau i systemau etholiadol a'r gyfraith etholiadol fod yn seiliedig ar yr egwyddor o wneud pleidleisio a chymryd rhan mewn democratiaeth mor hygyrch a chyfleus â phosibl, gan feithrin gallu i ganiatáu i hynny ddigwydd a hybu creadigrwydd ar bob lefel o ddemocratiaeth.
- Cyfranogiad: Rydym am i gynifer o bobl â phosibl arfer eu hawl ddemocrataidd i bleidleisio. Rôl pawb sy'n ymwneud â gweinyddu etholiadol yw cynyddu nifer y bobl sy'n troi allan mewn etholiadau i'r eithaf.
- Gwella profiad dinasyddion: Dylid rhoi'r offer i ddinasyddion lunio eu cymunedau a'u gwlad drwy ymgysylltu, cynrychioli a chyfranogi.
- Symlrwydd: Rhaid moderneiddio'r system etholiadol weinyddol a'r gyfraith etholiadol yng Nghymru er mwyn sicrhau bod cofrestru i bleidleisio, pleidleisio a chymryd rhan yn symlach i ddinasyddion.
- Uniondeb: Rhaid i uniondeb a thryloywder fod yn sail i'r holl ddiwygiadau etholiadol yng Nghymru. Rhaid inni gael system y mae dinasyddion yn ymddiried ynddi a rhannu gwybodaeth o ffynonellau dilys.
Mae democratiaeth iach yn golygu grymuso dinasyddion Cymru i ymgysylltu â sefydliadau democrataidd mewn sawl ffordd wahanol a chydnabod bod cyfranogiad a defnyddio eich llais democrataidd yn ymestyn y tu hwnt i'r weithred o bleidleisio. Os bydd dinasyddion yn teimlo eu bod wedi'u grymuso i gymryd rhan ac nad ydynt yn wynebu rhwystrau i'r cyfranogiad hwn, maent yn fwy tebygol o ymgysylltu.
Mae rhoi gwerth ar ddemocratiaeth yn gofyn am fuddsoddi, nid yn unig buddsoddi yn egwyddorion diwygio etholiadol ond buddsoddi yn y seilwaith a'r bobl sy'n cefnogi'r gwaith o ddarparu etholiadau'n ddiogel ac sy'n cynnig cyfleoedd i gymryd rhan mewn democratiaeth. Bydd hefyd yn gofyn am fuddsoddiad y tu hwnt i Lywodraeth Cymru. Rhaid i ni weithio gyda llywodraeth leol i sicrhau bod democratiaeth yn wasanaeth allweddol ag adnoddau priodol a'i bod yn gallu darparu'r cymorth y mae ar ddinasyddion Cymru ei angen i gymryd rhan weithredol. Rhaid i lywodraeth leol a ninnau fod yn barod i fuddsoddi mewn atebion technolegol a fydd yn cefnogi chwalu rhwystrau i gyfranogiad yn ogystal â chefnogi gwell gwybodaeth, ymgysylltiad a chanlyniadau i bobl Cymru.