Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Ar 16 Mehefin, ysgrifennais at yr Aelodau i amlinellu sefyllfa bresennol y rhaglen o Adolygiadau Trefniadau Etholiadol sy’n mynd rhagddi. Nodais hefyd sut yr oeddwn yn bwriadu rhoi gwybod am fy mhenderfyniadau ynglŷn â phob ardal.
Roedd hyn yn cynnwys ymrwymiad i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau yn rheolaidd drwy ddatganiadau ysgrifenedig. Dyma’r trydydd o’r datganiadau hynny.
Yn ogystal, ysgrifennais at Arweinydd a Phrif Weithredwr Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg i gadarnhau fy mhenderfyniad i dderbyn argymhellion Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru gydag addasiadau mewn perthynas â Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg.
Mae Adroddiad Argymhellion Terfynol Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru ar gyfer Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg ar gael yma.
Yn ogystal, ysgrifennais at Arweinydd a Phrif Weithredwr Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i gadarnhau fy mhenderfyniad i weithredu argymhellion Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru gydag addasiadau mewn perthynas â Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae Adroddiad Argymhellion Terfynol Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru ar gyfer Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar gael yma. Mae’r addasiadau i’r argymhellion hyn wedi’u nodi yn yr atodiad i’r datganiad hwn.
Yn ogystal, ysgrifennais at Arweinydd a Phrif Weithredwr Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot i gadarnhau fy mhenderfyniad i weithredu argymhellion Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru gydag addasiadau mewn perthynas â Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot.
Mae Adroddiad Argymhellion Terfynol Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru ar gyfer Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot ar gael yma. Mae’r addasiadau i’r argymhellion hyn wedi’u nodi yn yr atodiad i’r datganiad hwn.
Bydd gwaith yn mynd rhagddo yn awr i roi’r argymhellion hyn ar waith drwy Orchymyn.
Bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei darparu unwaith y byddaf wedi gwneud penderfyniadau ynglŷn ag ardaloedd eraill.
Atodiad
Addasiadau a wnaed i Argymhellion Terfynol y Comisiwn ar gyfer trefniadau etholiadol yr ardaloedd canlynol.
Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
- Cynigiodd y Comisiwn y dylid rhoi i ward etholiadol a elwir yn Saesneg Bridgend Central yr enw Cymraeg Canol Pen-y-bont. Bydd yr enw Cymraeg Canol Pen-y-bont ar Ogwr yn cael ei roi i’r ward etholiadol.
- Cynigiodd y Comisiwn y dylid rhoi i ward etholiadol Cefn Glas yr enw unigol Cefn Glas. Bydd yr enw unigol Cefn-glas yn cael ei roi i'r ward etholiadol
Bwrdeistref Siriol Castell-nedd Port Talbot
- Cynigiodd y Comisiwn y dylid rhoi i ward etholiadol Trebanos yr enw Cymraeg Trebannws. Bydd yr enw Cymraeg Trebanos yn cael ei roi i’r ward etholiadol.
- Cynigiodd y Comisiwn y dylid rhoi i ward etholiadol Resolfen a Thonna yr enw Cymraeg Resolfen a Thonnau. Bydd yr enw Cymraeg Resolfen a Thonna yn cael ei roi i’r ward etholiadol.
- Cynigiodd y Comisiwn y dylid rhoi i ward etholiadol Blaengwrach a Gorllewin Glyn-nedd yr enw Cymraeg Blaengwrach a Gorllewin Glyn-nedd. Bydd yr enw Cymraeg Blaen-gwrach a Gorllewin Glyn-nedd yn cael ei roi i’r ward etholiadol.