Yn rhoi crynodeb o'r gwasanaethau gofal synhwyraidd a gynigir i bobl ag iechyd llygaid gwael a cholli clyw ar gyfer Ebrill 2019 i Fawrth 2021.
Dyma'r datganiad diweddaraf yn y gyfres: Iechyd synhwyraidd (ystadegau gofal llygaid a chlyw)
Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi ystadegau’n ymwneud â gwasanaethau llygaid gofal sylfaenol (gan gynnwys y Gwasanaeth Offthalmig Cyffredinol (GOS) a gwasanaethau gofal llygaid wedi’u targedu yng Nghymru fel Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru (EHEW) a Sgrinio Llygaid Diabetig Cymru (DESW)), Gwasanaeth Llygaid yr Ysbyty, cofrestru ac ardystio nam ar y golwg a Gwasanaeth Golwg Gwan Cymru a’r gweithlu. Mae’r adroddiad hefyd yn cynnwys ystadegau ar nifer y bobl sy’n colli eu clyw, sy’n defnyddio cymhorthion clyw ac yn cael gofal yn yr ysbyty ar gyfer cyflyrau sy’n gysylltiedig â’r clyw.
Mae’r ystadegau hyn yn helpu i fonitro darpariaeth y gwasanaethau presennol ac yn darparu tystiolaeth y mae polisïau awdioleg ac iechyd llygaid presennol yn seiliedig arni ac yn cael eu gwerthuso yn unol â hi.
Caiff yr adroddiad hwn ei ddiweddaru bob dwy flynedd ac mae’n cynnwys y data diweddaraf sydd ar gael (nid yw’r holl ddata ar gael ar gyfer 2019-20 a 2020-21).
Mae gwybodaeth gefndir ar gael yn yr adroddiad ansawdd. Mae’r holl dablau a gyhoeddwyd a rhagor o ddata ar gael yn y taenlenni cysylltiedig neu ar dablau StatsCymru.
Adroddiadau
Data
Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol
Iechyd synhwyraidd (ystadegau gofal llygaid a chlyw), Ebrill 2019 i Fawrth 2021: tablau atodiad , Saesneg yn unig, math o ffeil: ODS, maint ffeil: 129 KB
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.