Newid hinsawdd a chyrraedd sero-net: canfyddiadau ac ymwybyddiaeth yng Nghymru (crynodeb)
Mae'r adroddiad hwn yn crynhoi canfyddiadau arolwg a oedd yn archwilio ymwybyddiaeth, agweddau a dewisiadau tuag at wahanol lwybrau i leihau allyriadau carbon a chyrraedd Sero-Net yng Nghymru.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cefndir a Methodoleg
Ar adeg yr ymchwil hon, roedd Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i leihau allyriadau carbon 95% erbyn 2050, gydag uchelgais i gyrraedd Carbon Sero-net erbyn 2050. Yn dilyn y gwaith maes ym mis Chwefror 2021, newidiodd hyn o uchelgais i gyrraedd Carbon Sero-net, i ymrwymiad i gyrraedd Carbon Sero-net, yn unol â tharged y DU ar gyfer Sero-net.
Nod yr ymchwil hon oedd datblygu'r sail dystiolaeth o ymwybyddiaeth, agweddau a dewisiadau'r cyhoedd mewn perthynas â’r gwahanol lwybrau ar gyfer cyrraedd Sero-net, a'r newid cymdeithasol sydd ei angen i gyrraedd Sero-net yng Nghymru a'r DU.
Fel rhan o hyn, comisiynodd Llywodraeth Cymru Adran yr Amgylchedd a Materion Gwledig (DEFRA) i gynyddu sampl Cymru yn yr arolwg o’r DU gyfan, er mwyn creu sampl sy’n cynrychioli poblogaeth Cymru. Casglwyd y data ym mis Medi a mis Hydref 2020 drwy arolwg ar-lein. Roedd y cyfranogwyr yn aelodau o gyhoedd yn y DU ac yn 18 mlwydd oed neu’n hŷn. Defnyddiodd yr arolwg ddull samplu cwota gyda chwotâu wedi'u gosod yn unol â chyfrannau'r DU ar gyfer oedran, rhyw, rhanbarth, ethnigrwydd a dosbarth cymdeithasol.
Ymatebodd 1,149 o drigolion Cymru i'r arolwg. Mae'r canlyniadau yn yr adroddiad hwn yn seiliedig ar sampl Cymru yn unig.
Canlyniadau
Newid yn yr hinsawdd: pryderon a chanfyddiadau
Dywedodd y rhan fwyaf o ymatebwyr yr arolwg eu bod yn eithaf pryderus neu’n bryderus iawn am newid yn yr hinsawdd (86%). Er gwaethaf hyn, dim ond 22% o ymatebwyr oedd yn credu y byddai newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar y DU 'yn llawer iawn', a dim ond 15% oedd yn credu hyn ar gyfer eu hardal leol. Roedd 46% o'r ymatebwyr o'r farn y byddai newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar wledydd eraill 'yn llawer iawn’.
Pan ofynnwyd i’r ymatebwyr am amrediad o sectorau a faint roeddent yn ei gyfrannu at allyriadau carbon yn y DU, roedd y rhan fwyaf ohonynt yn credu bod pob sector yn cyfrannu o leiaf i ryw raddau. Roedd yr ymatebwyr yn credu mai trafnidiaeth oedd y sector oedd yn cyfrannu’r mwyaf, ac yn credu mai amaethyddiaeth oedd yn gwneud y cyfraniad lleiaf. Roedd 82% o'r ymatebwyr yn credu bod trafnidiaeth yn gwneud cyfraniad ‘mawr iawn’ at allyriadau carbon, o’u cymharu â 55% oedd yn credu’r un peth am allyriadau o amaethyddiaeth.
Gwybodaeth am sero-net a chefnogaeth
Roedd mwyafrif (84%) yr ymatebwyr o leiaf wedi clywed am y cysyniad o Sero-net. Dywedodd 57% eu bod yn gwybod ychydig neu eithaf tipyn; gyda dim ond 8% yn dweud eu bod yn gwybod llawer amdano.
Dywedodd y mwyafrif (80%) eu bod yn cefnogi'n gryf neu rywfaint ymrwymiad y DU i gyrraedd Sero-net erbyn 2050. Dywedodd 68% eu bod yn cefnogi'n gryf neu rywfaint ymrwymiad Sero-net Cymru i leihau allyriadau 95% erbyn 2050, gydag uchelgais i gyrraedd Sero-net erbyn 2050.
Ar adeg casglu’r data roedd Cymru wedi ymrwymo i leihau allyriadau carbon 95% erbyn 2050, gydag uchelgais i gyrraedd Sero-net erbyn 2050. Ers casglu’r data, mae hyn bellach wedi newid i ymrwymiad i Sero-net erbyn 2050, yn unol â tharged Llywodraeth y DU.
Canfyddiadau o newidiadau a thechnolegau lleihau carbon
Rhoddwyd i ymatebwyr restr o newidiadau posibl i’r gymdeithas y gellid eu gwneud i gyrraedd y targed o Sero-net (er enghraifft diwydiant gwyrddach, allyriadau trafnidiaeth is, cyflenwadau ynni gwyrddach) a gofynnwyd iddynt ddweud a hoffent weld y newidiadau. Ar gyfer y rhan fwyaf o'r newidiadau i’r gymdeithas oedd ar y rhestr, dywedodd dros saith o bob deg o’r ymatebwyr yr hoffent weld rhywfaint o newid neu lawer o newid. Lleihau gwastraff oedd y maes lle yr hoffai’r ganran uchaf o ymatebwyr (84%) weld newid. Fodd bynnag, eithriad i hyn yw deietau gwyrddach. Mae canran yr ymatebwyr a hoffai weld rhywfaint neu lawer o newid yn y maes hwn yn gymharol isel (47%), gyda thua chwarter (25%) o’r ymatebwyr yn dweud na hoffent weld unrhyw newid neu lawer o newid yn y maes hwn.
Rhoddwyd disgrifiadau o dechnolegau tynnu nwyon tŷ gwydr a chyflenwadau ynni adnewyddadwy i ymatebwyr (fel opsiynau i helpu i gyrraedd Sero-net), a gofynnwyd iddynt pa mor gadarnhaol neu negyddol yr oeddent yn teimlo yn eu cylch. Roedd y rhan fwyaf o'r ymatebwyr yn teimlo’n gadarnhaol ynghylch y ddau opsiwn hyn, gydag ychydig mwy o ymatebwyr yn teimlo’n gadarnhaol ynghylch ynni gwynt/niwclear (72%) nag a oedd yn teimlo’n gadarnhaol ynghylch technolegau tynnu nwyon tŷ gwydr (67%).
Newidiadau i ffordd o fyw: canfyddiadau a thebygolrwydd
Pan ofynnwyd iddynt am amrediad o newidiadau i’n ffordd o fyw, a pha mor debygol oeddent o ddigwydd dros y degawdau nesaf, yn eu barn nhw, roeddent yn credu mai effeithlonrwydd ynni oedd y newid mwyaf tebygol (gyda 67% yn dweud yn debygol iawn neu’n weddol debygol). Yn eu barn nhw bwyta hanner cymaint o gig ac yfed hanner cymaint o laeth oedd y newid lleiaf tebygol (gyda 44% yn dweud yn debygol iawn neu’n eithaf tebygol).
Wedyn rhoddwyd amrediad o newidiadau i’r ymatebwyr a gofynnwyd iddynt pa mor debygol oeddent o wneud y newidiadau hyn yn eu bywyd eu hunain. Roedd yr ymatebion yn gymysg. Dywedodd tua hanner (53%) eu bod o leiaf ychydig yn debygol o leihau tymheredd eu thermostat, a defnyddio llai o wres (50%). Dywedodd pedwar o bob deg o’r ymatebwyr eu bod yn debygol o osgoi hedfan ar gyfer gwyliau a theithiau busnes, er y dylid ystyried effaith cyfyngiadau coronafeirws yma. Y peth roedd ymatebwyr y lleiaf tebygol o’i wneud oedd prynu car trydan neu newid i dechnoleg gwresogi carbon isel, gyda dim ond traean o ymatebwyr yn dweud eu bod yn debygol o wneud hynny.
Canfyddiadau o'r dyfodol
Roedd o leiaf hanner yr ymatebwyr o'r farn y byddai dyfodol Sero-net yn well ar gyfer llesiant, iechyd a'r economi. Y pethau roedd ymatebwyr y mwyaf sicr yn eu cylch oedd llesiant ac iechyd (gyda 77% ac 80% o ymatebwyr yn dweud y byddai dyfodol Sero-net yn well ar gyfer y rhain, yn y drefn honno). Roedd llai o ymatebwyr yn sicr ynghylch yr effaith ar yr economi, gyda 51% yn dweud y byddai’r economi yn well o ganlyniad i Sero-net, a dim ond ychydig o dan draean (28%) yn dweud y byddai’r economi’n waeth;.
Roedd canran yr ymatebwyr oedd yn cytuno neu'n cytuno'n gryf y bydd rhaid inni newid y ffordd rydym yn byw yn sylweddol er mwyn mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd gryn dipyn yn uwch (84%) na’r ymatebwyr oedd yn cytuno neu’n cytuno’n gryf y bydd technoleg yn helpu i leihau'r rhan fwyaf o'n hallyriadau carbon (41%).
Canfyddiadau o gyfrifoldeb, cyfranogiad y cyhoedd a chynulliadau hinsawdd
Roedd dros hanner yr holl ymatebwyr o'r farn bod gan y cyhoedd, busnesau a diwydiannau a'r Llywodraeth i gyd lawer o gyfrifoldeb i leihau allyriadau carbon a chyrraedd Sero-net. Pan ofynnwyd iddynt gan bwy oedd y cyfrifoldeb mwyaf, dewisodd y ganran uchaf o ymatebwyr y Llywodraeth (39%), wedyn busnesau (33%) ac yn olaf y cyhoedd (18%).
Roedd y rhan fwyaf o'r ymatebwyr yn credu ei bod yn bwysig cael gwybod am yr hyn y mae'r Llywodraeth yn ei wneud mewn perthynas â Sero-net, ac y dylent gael dweud eu dweud mewn perthynas â hynny. Roedd 85% o’r ymatebwyr yn credu bod y mater cyntaf yn eithaf pwysig o leiaf ac 87% o'r ymatebwyr yn credu bod yr ail fater yn eithaf pwysig o leiaf.
Pan ofynnwyd iddynt am Gynulliad Hinsawdd y DU, roedd 64% o'r ymatebwyr naill yn gwybod dim neu’r peth nesaf i ddim amdano. Yn seiliedig ar y disgrifiad a roddwyd iddynt, roedd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr (60%) yn credu bod cynulliadau dinasyddion (fel y Cynulliad Hinsawdd) yn beth da.
Casgliadau
Mae'r lefel uchel o ymwybyddiaeth o'r cysyniad o Sero-net, a'r lefelau uchel o gefnogaeth ar gyfer y targed i gyrraedd Sero-net, yn awgrymu bod y cyhoedd yn gwybod am Sero-net ac yn cefnogi'r targedau. Gellir gweld y gefnogaeth hon dros gyrraedd targedau Sero-net yn awydd y cyhoedd i weld amrediad o newidiadau cymdeithasol i leihau allyriadau carbon
Roedd yr ymatebwyr o'r farn bod targedau Sero-net yn gadarnhaol ar gyfer llesiant, iechyd a'r economi. Mae hyn yn dystiolaeth bellach bod gan y cyhoedd agwedd gadarnhaol at Sero-net.
Er yr hoffai ymatebwyr weld newidiadau sy’n lleihau carbon yn cael eu rhoi ar waith yn y gymdeithas, at ei gilydd nid oeddent yr un mor sicr y byddai'r newidiadau hyn yn cael eu gwneud dros y degawdau nesaf, ac roeddent yn llai tebygol o wneud y newidiadau hyn yn eu bywyd eu hunain.
Yn benodol, roeddent yn teimlo’n negyddol ynghylch newidiadau i ddeietau o gymharu â newidiadau eraill. Nid oedd nodi'r rhesymau dros hyn o fewn cwmpas yr ymchwil hon, ond mae'n debygol o fod o ganlyniad i gyfuniad o ffactorau. Disgwylir i’r mater hwn gael ei ystyried mewn ymchwil yn y dyfodol.
Roedd y canlyniadau o sampl Cymru ar y cyfan yn debyg iawn i ganlyniadau'r DU gyfan, gan awgrymu mai prin yw'r gwahaniaethau mewn agweddau at Sero-net a newid yn yr hinsawdd ymhlith y gweinyddiaethau datganoledig.
Manylion cyswllt
Awdur: Lucy Campbell
Y farn a fynegir yn yr adroddiad hwn yw barn yr ymchwilwyr, ac nid o reidrwydd barn Llywodraeth Cymru
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag:
Lucy Campbell
E-bost: ymchwildyfodolcynaliadwy@llyw.cymru
Rhif ymchwil gymdeithasol: 49/2021
ISBN digidol: 978-1-80195-605-5