Mae angen i Gymru blannu dros 86 miliwn o goed dros y naw mlynedd nesaf i gyflawni ei huchelgais o gyrraedd sero net erbyn 2050, meddai'r Dirprwy Weinidog dros y Newid yn yr Hinsawdd Lee Waters heddiw (dydd Mawrth 13 Gorffennaf).
Datgelwyd y ffigur gan y Dirprwy Weinidog ar ymweliad â phrosiect plannu cymunedol yn y Mynydd Du, cyn y disgwylir iddo gyhoeddi "galwad genedlaethol i weithredu" yn y Senedd lle bydd yn gofyn i Gymru helpu i sicrhau newid gwirioneddol er mwyn cyrraedd y targed uchelgeisiol ar gyfer newid yn yr hinsawdd.
Roedd y Dirprwy Weinidog yn ymweld â Stump up for Trees elusen fach yn plannu 100,000 o goed llydanddail brodorol mewn ardal o'r enw Bryn Arw, ger y Fenni – dyma'r ymgyrch plannu coed sylweddol cyntaf ar dir comin yng Nghymru.
Meddai y Dirprwy Weinidog:
"Rwyf am i bawb werthfawrogi'r manteision niferus a ddaw o goed yng Nghymru, nid yn unig o ran mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd, ond gwella ansawdd aer, gwella natur a gwella lles meddyliol pobl.
"Er mwyn mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, mae angen newid sylweddol yng nghoetiroedd Cymru a thrawsnewid y ffordd y defnyddir coed Cymru ar draws ein heconomi.
"Er mwyn cyrraedd sero net, mae angen i ni blannu 43,000 hectar o goed newydd erbyn 2030, gan godi i 180,000 hectar erbyn 2050. Mae hynny'n golygu plannu tua 86 miliwn o goed dros y naw mlynedd nesaf.
"Y llynedd dim ond 0.08k hectar o goetir a blannwyd yng Nghymru. Dros y tair wythnos diwethaf rwyf wedi bod yn gweithio'n ddwys gyda thîm o arbenigwyr i ddeall sut y gallwn gynyddu'n sylweddol nifer y coed rydym yn eu plannu bob blwyddyn a thrawsnewid y ffordd y defnyddir coed Cymru.
"Mae'n her enfawr a dim ond drwy gydweithio ar gyfer newid fydd hyn yn bosibl, gan gynnwys nifer o bartneriaid a phob teulu yng Nghymru.
"Heddiw rwy'n cyhoeddi galwad genedlaethol i weithredu, gan ofyn i bawb ymuno â ni i gyflawni'r her hon i blannu mwy o goed i Gymru."
Bydd pobl, a chymunedau ledled Cymru, yn cael eu hannog i blannu coed a bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda ffermwyr a thirfeddianwyr i nodi cyfleoedd i blannu.
Mae gwaith hefyd yn dechrau i gyflawni ymrwymiad maniffesto'r llywodraeth i gyflawni Strategaeth Diwydiannol Pren i greu swyddi drwy ddatblygu economi goed newydd i Gymru.
Ar hyn o bryd mae 80% o'r pren a ddefnyddir yn y DU yn cael ei fewnforio, a dim ond 4% o'r 1.5m o bren Cymreig a gynaeafir sy'n cael ei brosesu i'w ddefnyddio fel pren iar gyfer adeiladu. Defnyddir y rhan fwyaf o bren Cymru ar gyfer cynhyrchion gwerth is, fel pyst ffensys, paneli, paledi a deciau.
"Bydd cyrraedd sero net, yn enwedig yn y sector adeiladu, yn golygu defnyddio llawer mwy o bren yng Nghymru,"
meddai'r Dirprwy Weinidog.
"Mae hyn yn golygu rôl bwysig i goetiroedd cynhyrchiol dyfu mwy o bren Cymru yn gynaliadwy, yn hytrach na mewnforio pren sy'n cael effaith amgylcheddol negyddol dramor.
"Mae cyfle i broseswyr a gweithgynhyrchwyr coed yng Nghymru ddatblygu a chreu mwy o swyddi. Bydd hyn yn galw am gydgysylltu ar draws y gadwyn gyflenwi, er mwyn sicrhau bod mwy o bren Cymru yn mynd i ddefnyddiau gwerth ychwanegol uchel, a bod cymaint o'r cyfoeth a grëir â phosibl yn cael ei gadw yng Nghymru."
Bydd y Dirprwy Weinidog yn nodi canfyddiadau'r grŵp arbenigol yn y Senedd yn ddiweddarach heddiw.