Daeth yr ymgynghoriad i ben 16 Awst 2018.
Crynodeb o’r canlyniad
Mae'r y crynodeb o ymatebion bellach ar gael.
Manylion am y canlyniad
Crynodeb o’r ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 518 KB
Ymgynghoriad gwreiddiol
Rydym yn gofyn am eich barn ar reoleiddio mathau penodol o wasanaethau eirioli, fel rhan o gam 3 y broses o weithredu Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Mae'r ymgynghoriad hwn yn gofyn am eich barn ar reoliadau newydd sy'n gosod gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau ac unigolion cyfrifol gwasanaethau eirioli penodol yng Nghymru.
Caiff gwasanaethau eirioli eu trefnu gan awdurdodau lleol dan eu dyletswydd i gynorthwyo plant, plant sy'n derbyn gofal a mathau penodol o unigolion sy'n gadael gofal i wneud sylwadau am eu hanghenion o ran gofal a chymorth.
Rydym hefyd yn gofyn am eich barn ar ganllawiau statudol drafft a fydd yn cyd-fynd â'r rheoliadau.
Dogfennau ymgynghori
Dogfen ymgynghori , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 640 KB
Atodiad A , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 271 KB
Canllawiau statudol , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 687 KB
Rheoliadau , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 390 KB
Gwybodaeth ychwanegol
Noder: Cafodd y ddogfen ymgynghori a'r cwestiynau eu diweddaru ar 3 Awst 2018 er mwyn cynnwys dau gwestiwn safonol ar Ran 2 o'r Rheoliadau. Mae hyn yn trwsio bwlch o fewn y dogfennau gwreiddiol.