Bydd prosiect newydd cyffrous y cyfarwyddwr Gareth Evans ar gyfer Netflix, HAVOC, yn cael ei ffilmio yng Nghymru yr haf hwn.
Y ffilm gyffro fydd un o'r ffilmiau mwyaf erioed i'w cynhyrchu yng Nghymru, gyda Tom Hardy a Forest Whitaker yn rhan o’r cast.
Bydd y cynhyrchiad yn cael cefnogaeth Cymru Greadigol, a'i ffilmio mewn lleoliadau ledled de Cymru. Nid dyma'r tro cyntaf i Netflix ddod â chynhyrchiad mawr i Gymru: mae'r gyfres fyd-eang Sex Education yn cael ei ffilmio mewn mannau poblogaidd yng Nghymru gan gynnwys Llandogo, Tyndyrn, a Phenarth.
Cafodd Dawn Bowden, y Dirprwy Weinidog dros y Celfyddydau a Chwaraeon, y cyfle yn ddiweddar i gael taith o amgylch setiau Havoc wrth i'r gwaith paratoi ar gyfer ffilmio ddechrau.
Bydd Gareth Evans yn ysgrifennu ac yn cyfarwyddo'r ffilm yn ogystal â chynhyrchu ar gyfer One More One Productions ochr yn ochr â’r cynhyrchwyr Ed Talfan ar gyfer Severn Screen yng Nghaerdydd, Aram Tertzakian ar gyfer XYZ Films a Tom Hardy. Y ffilm yw'r prosiect cyntaf i Gareth Evans yn dilyn cytundeb unigryw gyda Netflix i ysgrifennu a chyfarwyddo ffilmiau i’r stiwdio.
Dywedodd Gareth Evans:
"Dwi’n teimlo’n gyffrous iawn i wneud HAVOC yng Nghymru. Mae ganddi bopeth sydd ei angen arnom - talent, lleoliadau, cyfleusterau a chefnogaeth.
Ar ôl gwneud APOSTLE yma yn 2017 a rhannau allweddol o GANGS OF LONDON yn 2019, rydyn ni’n gwybod beth sydd gan Gymru, a'n gobaith bob amser oedd y gallem ddod â'r cynhyrchiad mawr hwn i Gymru"
Dywedodd Ed Talfan:
"Mae Cymru'n prysur sefydlu ei hun fel lle i ddatblygu a chyflawni'r prosiectau creadigol gorau un. Mae HAVOC yn gam cyffrous ymlaen, gyda ffilm fawr yn cael ei datblygu a'i chynhyrchu yma yng Nghymru.
Bydd doniau o Gymru ar draws y tîm cynhyrchu cyfan, yn ogystal â chyfleoedd pwysig i hyfforddeion newydd ddatblygu eu sgiliau ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol blaenllaw yn y diwydiant.
Rydyn ni’n hynod ddiolchgar am y gefnogaeth gan Cymru Greadigol, ac edrychwn ymlaen at weld y cynhyrchiad yn cyflawni etifeddiaeth wirioneddol a pharhaol i'r diwydiant yng Nghymru."
Dywedodd y Dirprwy Weinidog:
"Rydyn ni’n falch iawn o allu cefnogi'r prosiect cyffrous hwn sy’n cael ei wneud yng Nghymru.
Mae cynhyrchu ffilm a theledu wrth wraidd sector diwydiannau creadigol ffyniannus yng Nghymru, ac mae prosiectau cynhenid fel HAVOC yn dangos y potensial sy'n bodoli i gwmnïau o Gymru wneud eu marc mewn marchnadoedd rhyngwladol.
Dyna pam ein bod yn teimlo’n gyffrous o weld Gareth Evans a Severn Screen yn cydweithio i wneud y prosiect hwn yng Nghymru."