Eluned Morgan, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Ers yr wythnos ddiwethaf, cymerwyd camau sylweddol ymlaen gyda’n Rhaglen frechu COVID-19. Ddydd Gwener, cadarnheais ein bod wedi cyrraedd Carreg Filltir 3, gyda mwy na 75% o oedolion dan 50 oed yng Nghymru wedi cael eu dos cyntaf. Mae’r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) hefyd wedi cyhoeddi cyngor dros dro ar ddarparu brechlynnau atgyfnerthu yn yr hydref. Heddiw, byddaf yn cyhoeddi ein diweddariad wythnosol ar y Rhaglen frechu COVID-19.
Heddiw, roeddwn hefyd am roi diweddariad ar dystysgrifau COVID ac ar y sefyllfa ddiweddaraf o safbwynt y cyngor dros dro a ddisgwylir oddi wrth y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu.
Tystysgrifau Covid
Rydym yn gweithio gyda phartneriaid i ddarparu gwasanaeth a fydd yn llunio datganiad ar statws brechu COVID-19. Bydd hyn yn caniatáu i breswylwyr yng Nghymru ddangos tystiolaeth o’r brechlynnau COVID-19 y maent wedi eu derbyn.
Mae Pàs COVID y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) yn caniatáu ichi ddangos i eraill eich bod wedi derbyn brechlyn COVID-19 pan fyddwch yn teithio dramor. Mae NHS Digital yn gweithio gyda GIG Cymru i roi trefniadau ar waith ar gyfer rhannu data rhwng Cymru a Lloegr. Gall pob un sydd wedi’i frechu yng Nghymru neu yn Lloegr ac sydd wedi cofrestru gyda meddyg teulu yng Nghymru gael ei bàs COVID digidol eisoes drwy wefan y GIG, o 23 Mehefin 2021. Bydd pob un sydd wedi cofrestru gyda meddyg teulu yn Lloegr ond sydd wedi cael y brechiad yng Nghymru yn gallu dangos tystiolaeth o’i ddata brechu COVID drwy wefan y GIG, o ddydd Llun 12 Gorffennaf.
Yr un cynnyrch ag sy’n ymddangos ar Bàs COVID y GIG fel Vaxzevria yw pob brechlyn AstraZeneca a roddir yn y DU. Mae’r Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd wedi awdurdodi’r brechlyn hwn ac rydym yn hyderus na fydd unrhyw effaith ar y gallu i deithio. Mae pob dos a ddefnyddir yn y DU wedi bod drwy wiriadau diogelwch ac ansawdd trwyadl, gan gynnwys profi sypiau unigol ac archwiliadau corfforol o safleoedd, gan y rheoleiddiwr meddyginiaethau, yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA).
Cyngor dros dro y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu
Mae'r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu wedi cyhoeddi ei gyngor dros dro wrth inni symud i gam newydd o’r Rhaglen frechu COVID-19. Mae hyn yn rhoi inni arweiniad yr ydym yn ei groesawu ar gyfer y cam nesaf o gyflwyno’r rhaglen a rhywfaint o sicrwydd ar gyfer cynllunio ymgyrch yr hydref i roi brechlynnau atgyfnerthu.
Cyngor dros dro yw hwn a bydd y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu yn ystyried rhagor o ddata gwyddonol wrth iddynt ddod i’r amlwg dros y misoedd nesaf cyn datblygu eu cyngor terfynol.
Mae GIG Cymru wedi bod yn cynllunio ar y rhagdybiaeth o roi brechlynnau atgyfnerthu ym mis Medi/Hydref i grwpiau â blaenoriaeth 1-9, gyda bwlch o tua 6 mis yn dilyn ail ddos ac mae’r byrddau iechyd wedi cyflwyno eu cynlluniau cychwynnol ar y sail hon. Byddwn yn gweithio gyda’r byrddau iechyd i sicrhau eu bod yn barod i ddarparu rhaglen atgyfnerthu o ddechrau mis Medi, yn unol â chyngor y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu.
Byddaf yn rhoi diweddariad pellach ynglŷn â’r sefyllfa o ran brechu plant a phobl ifanc wedi i’r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu gyhoeddi ei gyngor dros dro ar y mater hwn.
Yn olaf, hoffwn bwysleisio bod y brechlyn yn gam hanfodol ar ein trywydd allan o’r pandemig ac i ddiogelu Cymru. Dyna pam rydym am ei gwneud mor hawdd â phosibl i bobl gael y brechlyn, yn enwedig oedolion iau sydd â galwadau eraill ar eu hamser. Mae canolfannau brechu mewn sawl rhan o Gymru yn awr ar agor i bobl alw i mewn am apwyntiad. Rydym yn dal i weithio i sicrhau nad oes unrhyw un yn cael ei adael ar ôl yng Nghymru a bod pob un sy’n gymwys i gael ei frechu yn dod ymlaen. Os oes unrhyw rai yn meddwl eu bod wedi cael eu gadael ar ôl, neu os nad ydynt eisoes wedi derbyn cynnig i gael y brechlyn am ba bynnag reswm, gallant weld â phwy y dylid cysylltu yma. Nid yw hi byth yn rhy hwyr i drefnu apwyntiad neu i fynd i apwyntiad galw i mewn.