Dawn Bowden AS, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a’r Prif Chwip
Rwyf bellach wedi cael cyfarfod adeiladol a defnyddiol gyda chynrychiolwyr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, i drafod eu cynlluniau i ailstrwythuro Uwch Gynghrair Merched Cymru. Mater i Gymdeithas Bêl-droed Cymru, nid y Llywodraeth, yw'r ailstrwythuro, ond mae wedi cael ei godi ar lawr y Senedd, felly roeddwn i'n teimlo ei bod yn bwysig siarad yn uniongyrchol â Chymdeithas Bêl-droed Cymru, i ddeall yn well ei chynlluniau a’r effaith y bydd unrhyw benderfyniadau’n ei chael ar ein huchelgais i sicrhau bod mynediad at chwaraeon yng Nghymru yn fwy cynhwysol.
Wrth gwrs, rwy'n cefnogi yn llwyr uchelgais Cymdeithas Bêl-droed Cymru a’i hawydd i ddatblygu a gwella'r gêm i fenywod yng Nghymru. Fodd bynnag, fel y cydnabu’r Gymdeithas yn ein cyfarfod, mae'n amlwg nad yw'r newidiadau arfaethedig i strwythur gêm ddomestig menywod wedi cael eu cyfleu mewn ffordd foddhaol, yn enwedig i'r chwaraewyr yr effeithir arnynt. Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn cydnabod bod angen iddi newid y ffordd y mae’n cyfathrebu â chlybiau a chwaraewyr fel mater o frys, a hefyd gwella’r ffordd mae’n cyfathrebu ag Aelodau'r Senedd a Llywodraeth Cymru.
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi rhoi ymrwymiad imi y bydd yn gwneud popeth yn ei gallu i gefnogi'r clybiau a'r chwaraewyr y mae'r newidiadau'n effeithio arnynt, ac i weithio’n agosach ac yn fwy rhagweithiol ag Aelodau'r Senedd a Llywodraeth Cymru yn y dyfodol. Edrychaf ymlaen at weld Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn cyflawni'r ymrwymiad hwnnw.