Jane Hutt, Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Mae pandemig COVID-19 wedi tynnu sylw amlwg at y ffaith bod anghydraddoldebau dwfn yn parhau o fewn ein cymdeithas. Wrth inni ddod dros effeithiau’r pandemig, mae ein hamcanion lles, sydd wedi’u hamlinellu yn y Rhaglen Lywodraethu, yn canolbwyntio ar y meysydd lle mae angen gweithredu, ac yn ein helpu i greu sylfaen gadarn ar gyfer y dyfodol.
Ym mis Mawrth, amlinellais sut yr ymatebodd y Fforwm Cydraddoldeb i Bobl Anabl i’r her yn egnïol ac yn benderfynol i ysgrifennu adroddiad Drws ar Glo: Datgloi bywydau a hawliau pobl anabl yng Nghymru ar ôl COVID-19, a gydluniwyd gan yr Athro Debbie Foster o Ysgol Fusnes Caerdydd a Grŵp Llywio o bobl anabl a oedd yn cynrychioli Sefydliadau Pobl Anabl ac elusennau. Cadeiriwyd y Grŵp Llywio gan Rhian Davies, Prif Weithredwr Anabledd Cymru.
Mae’r adroddiad wedi tynnu sylw difrifol at y niwed y mae’r pandemig wedi’i wneud i bobl anabl, gan waethygu’r anghydraddoldeb a oedd eisoes yn bodoli a chreu drwg pellach. Mae 5 prif bennod iddo, sef Cymharu’r model cymdeithasol a’r model meddygol o anabledd; Hawliau dynol; Iechyd a Llesiant; Anfanteision economaidd-gymdeithasol; ac Allgáu, Hygyrchedd a Dinasyddiaeth.
Mae’r adroddiad pwysig hwn wedi rhoi dealltwriaeth gyfoethog inni ynghyd â nifer fawr o argymhellion i seilio unrhyw gamau gweithredu pellach arnynt. Pan ddaeth yr adroddiad i law Llywodraeth Cymru am y tro cyntaf, trefnodd Prif Weinidog Cymru gyfarfod â’r awduron, ac ymunodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a minnau, i drafod y canfyddiadau a mynd ati ar unwaith i lunio camau priodol i fynd i’r afael â nhw.
Heddiw rydym yn cyhoeddi’r adroddiad ochr yn ochr ag ymateb Llywodraeth Cymru sy’n tynnu sylw at y gwaith rydym eisoes wedi’i sefydlu i fynd i’r afael â’r materion hyn. Mae ein hymrwymiad parhaus i’r Model Cymdeithasol o Anabledd, sef testun y bennod gyntaf, yn darparu’r ethos cyffredinol ar gyfer mynd i’r afael â’r argymhellion yng ngweddill yr adroddiad.
Rydym wedi ymrwymo i gryfhau’r fframwaith hawliau dynol drwy ymgorffori Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau i gyfraith Cymru. Mae hwn yn ymrwymiad sylweddol i gefnogi a gwella bywydau pobl anabl, a fydd yn adeiladu ar ddarpariaethau’r Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol a ddaeth i rym yng Nghymru ar 31 Mawrth 2021. Bydd y Ddyletswydd yn gwella’r broses o wneud penderfyniadau ac yn helpu’r rheini sydd dan anfantais economaidd-gymdeithasol drwy sicrhau bod gwarchod pobl rhag anghydraddoldeb yn gwbl ganolog i’r penderfyniadau a wneir.
Fel y dywedais yn fy natganiad llafar yn nodi Diwrnod Rhyngwladol Pobl Anabl, mae’r gwaith sydd eisoes wedi’i wneud yn golygu bod llawer gyda ni i ymfalchïo ynddo yng Nghymru. Fodd bynnag, mae llawer iawn yn rhagor o waith gennym i’w wneud er mwyn dad-wneud effeithiau niweidiol pandemig COVID-19 a mynd i’r afael â’r anghydraddoldebau dwfn o fewn ein cymdeithas. Ym mhob un o’r meysydd sy’n cael sylw yn yr adroddiad, rydym yn ymrwymo i ystyried ymhellach y dystiolaeth a gyflwynwyd ac i gael deialog ystyrlon ynghylch sut orau i liniaru ar yr effeithiau niweidiol ar bobl anabl. Lle bo angen, byddwn yn ceisio dod o hyd i dystiolaeth ychwanegol er mwyn cael darlun cywir o’r effeithiau hynny.
Mae Prif Weinidog Cymru wedi cytuno i sefydlu Tasglu Hawliau Pobl Anabl dan arweiniad Gweinidog i fwrw ymlaen â’r gwaith hwn, i fynd i’r afael â’r anghydraddoldebau y mae’r adroddiad yn tynnu sylw atynt, a goruchwylio’r gwaith o ddatblygu camau a fydd yn ffurfio Cynllun Gweithredu Hawliau Pobl Anabl. Bydd rhai o’r camau hyn yn rhai i Lywodraeth Cymru eu gweithredu, a bydd angen ymgymryd ag eraill drwy gydweithio â’n partneriaid ar draws y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol. Bydd aelodaeth y Tasglu yn cyfuno arbenigedd traws-sectoraidd â chynrychiolwyr a ddewisir gan y Fforwm Cydraddoldeb i Bobl Anabl er mwyn sicrhau bod y Tasglu yn adlewyrchu natur drawsbynciol yr adroddiad ynghyd â natur amrywiol Cymru. Bydd pobl anabl yn gwbl flaenllaw ym mhob rhan o’r gwaith hwn.
Rwy’n falch o allu cyhoeddi adroddiad Drws ar Glo: Datgloi bywydau a hawliau pobl anabl yng Nghymru ar ôl COVID-19 ac amlinellu rhywfaint o’r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i’r afael â’r canfyddiadau. Edrychaf ymlaen at ymwneud yn llawn â’r Tasglu i ymchwilio i gamau pellach a’u rhoi ar waith er mwyn sicrhau ein bod yn cyflawni ein huchelgais i greu Cymru gryfach a thecach.