Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae profion COVID-19 rheolaidd wedi cael eu cynnig i weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol, staff addysg, myfyrwyr a gweithwyr yn y sectorau cyhoeddus a phreifat ers dechrau 2021. Mae'r grwpiau hyn wedi cael dyfeisiau prawf llif unffordd (LFD) i'w defnyddio'n rheolaidd, ddwywaith yr wythnos fel arfer, ar gyfer unigolion nad oes ganddynt unrhyw symptomau. Dod o hyd i achosion a lleihau achosion o drosglwyddo’r feirws yw’r nod. Mae unigolion nad ydynt yn gallu gweithio gartref, gofalwyr di-dâl a gwirfoddolwyr hefyd wedi gallu manteisio ar gael pecynnau hunan-brawf llif unffordd ers mis Ebrill.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cyhoeddi adroddiad gwyliadwriaeth wythnosol ar brofion LFD ar gyfer trigolion Cymru gan gynnwys nifer y profion a gofnodwyd a'r canlyniadau. Ers 1 Ionawr 2021, mae 2.7 miliwn o brofion LFD wedi cael eu cofrestru yng Nghymru. Cofnodwyd 2,400 o ganlyniadau positif, gyda chyfradd positifedd profion gyffredinol o 0.13%. Cafodd 315 o episodau profi positif eu cofrestru rhwng 14 ac 20 Mehefin 2021, gyda chyfradd positifedd profion o 0.27%. Mae canran yr episodau profi positif wedi cynyddu dros y pythefnos diwethaf, yn unol â'r cynnydd yn nifer yr achosion a ganfuwyd drwy gynnal profion symptomatig (PCR) dros yr un cyfnod.
Mae'n ofynnol i unigolion roi gwybod beth yw canlyniad eu profion LFD, boed y canlyniad hwnnw yn bositif neu’n negatif, ar wefan a gynhelir gan Lywodraeth y DU. Fodd bynnag, rydym yn poeni nad yw pawb yn cofnodi eu canlyniadau, yn enwedig os ydynt yn negatif. Mae nifer y profion a gofrestrir yng Nghymru wedi cynyddu’n gyffredinol dros amser. Ond rydym yn cydnabod bod angen gwella eto a byddwn yn llunio rhagor o ddeunyddiau cyfathrebu ac yn cynyddu ymwybyddiaeth ymhellach i bwysleisio pa mor bwysig yw cofnodi canlyniadau.
Yr wythnos ddiwethaf, lansiwyd arolwg gennym ar gyfer unigolion sy'n cynnal profion rheolaidd ar draws gwahanol grwpiau er mwyn deall profiad pobl yn well a'n helpu i gynllunio pa fath o brofion y dylem eu cynnig yn y dyfodol. Rydym hefyd yn gweithio ar ein dulliau cyfathrebu i gynyddu nifer yr unigolion sy’n cael eu profi a sicrhau bod unigolion hefyd yn deall bod angen iddynt gofrestru canlyniadau negatif yn ogystal â rhai positif. Bydd y camau hyn yn ein helpu i wella profiad unigolion sy’n cael profion asymptomatig yn rheolaidd ac yn cynyddu’r manteision a ddaw yn sgil cynnal y profion hyn.