Mae Llywodraeth Cymru yn atgoffa busnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch yng Nghymru na fydd yn rhaid iddynt dalu unrhyw ardrethi tan fis Ebrill 2022 wrth i ostyngiadau llawn yn Lloegr ddod i ben yfory (1 Gorffennaf).
Ym mis Mawrth, cyhoeddodd Llywodraeth y DU y byddai ei chyfnod rhyddhad ardrethi i fusnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch o 100 y cant yn gostwng ar 30 Mehefin, gyda gostyngiad o 66 y cant yn dod i rym am weddill y flwyddyn ariannol.
Yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru wedi ymestyn y gostyngiad llawn o 100 y cant i bob busnes ac elusen yn y sectorau hamdden a lletygarwch tan fis Ebrill 2022. Bydd manwerthwyr mewn eiddo sydd â gwerth ardrethol o hyd at £500k hefyd yn parhau i dderbyn gostyngiadau llawn ar eu cyfraddau am weddill y flwyddyn.
Mae'r pecyn gwerth £380m yn rhoi hwb mawr ei angen i fusnesau bach a chanolig yng Nghymru sy'n ei chael hi'n anodd ymdopi ag effeithiau'r pandemig. Mae'n gweithredu ar y cyd â'n cynlluniau rhyddhad parhaol sy'n darparu £240m o ryddhad i drethdalwyr ledled Cymru eleni.
Dywedodd Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol:
Wrth i filiau ddechrau glanio yn Lloegr, rydym yn atgoffa busnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch yng Nghymru na fydd angen iddynt dalu ardrethi tan fis Ebrill 2022.
Rydym wedi gwrando ar y sectorau ac eisiau helpu siopau a lleoliadau i godi nôl ar eu traed. Er y gall y busnesau hyn agor erbyn hyn, mae anawsterau'r flwyddyn ddiwethaf, ynghyd â'r cyfyngiadau sy'n parhau yn eu lle, yn golygu y byddai llawer yn ei chael hi’n anodd i dalu hyd yn oed rhai o'u hardrethi arferol.
Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:
Mae ein disgownt rhyddhad ardrethi o 100% yn rhan hanfodol o'r pecyn cymorth economaidd rydym wedi'i ddarparu i helpu busnesau ledled Cymru, gan roi'r amser sydd ei angen arnynt i ganolbwyntio ar adfer.
Ers dechrau'r pandemig, rydym wedi cefnogi busnesau Cymru gyda gwerth £2.5bn o gymorth, sydd wedi helpu i ddiogelu dros 160,000 o swyddi yng Nghymru a allai fod wedi'u colli fel arall.
Byddwn yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi busnesau Cymru.