Cyfarfod y Cabinet: 10 a'r 12 Mai 2021
Cofnodion cyfarfod o'r Cabinet ar 10 a'r 12 Mai 2021.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol (drwy Teams)
- Y Gwir Anrh. Mark Drakeford AS
- Rebecca Evans AS
- Vaughan Gething AS
- Lesley Griffiths AS
- Julie James AS
- Eluned Morgan AS
- Jeremy Miles AS
- Ken Skates AS
- Jane Hutt AS
- Hannah Blythyn AS
- Julie Morgan AS
- Lee Waters AS
Swyddogion
- Shan Morgan, yr Ysgrifennydd Parhaol
- Will Whiteley, Dirprwy Gyfarwyddwr, Is-adran y Cabinet
- Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
- Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig
- Christopher W Morgan, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
- Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
- Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus
- Andrew Goodall, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd
- Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol
- Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Cydgysylltu Argyfwng COVID-19
- Frank Atherton, y Prif Swyddog Meddygol
- Chris Jones, Dirprwy Brif Swyddog Meddygol
- Rob Orford, Prif Gynghorydd Gwyddonol dros Iechyd
- Simon Brindle, Cyfarwyddwr Adfer ac Ailgychwyn
- Piers Bisson, Cyfarwyddwr, Trefniadau Pontio Ewropeaidd, y Cyfansoddiad a Chyfiawnder
- Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr Trysorlys Cymru
- Helen Lentle, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol
- Dylan Hughes, y Prif Gwnsler Deddfwriaethol
- Tom Smithson, Dirprwy Gyfarwyddwr Ailgychwyn
- Liz Lalley, Dirprwy Gyfarwyddwr Adfer
- Jason Thomas, Cyfarwyddwr, Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth
- Rob Holt, Dirprwy Gyfarwyddwr Twristiaeth a Digwyddiadau Mawr
- Neil Buffin, Uwch Gyfreithiwr
- Terry Kowal, Uwch Gwnsler Deddfwriaethol
- Christopher Stevens, Ailgychwyn - Polisi Cymdeithasol
- Michelle Morgan, Ailgychwyn - Asesiad Effaith
- Nia Lewis, Ailgychwyn – Polisi Economaidd
- Nicky Guy, Dirprwy Gyfarwyddwr Diwylliant a Chwaraeon
- Steffan Roberts, Dirprwy Gyfarwyddwr Datblygu Twristiaeth
- Bethan Bateman, Dirprwy Gyfarwyddwr Dyfodol Cynaliadwy (dydd Llun yn unig)
- Gemma Nye, Dirprwy Gyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd
- Duncan Hamer, Dirprwy Gyfarwyddwr, Busnes
- Claire McDonald, Pennaeth Polisi Economaidd
- Ffion Thomas, Dirprwy Gyfarwyddwr Argyfyngau Sifil Posibl
- Cathy Weatherup, Swyddfa'r Prif Swyddog Meddygol
- Jo Trott, tîm ymateb i COVID-19
- Simon Jones, Cyfarwyddwr Seilwaith Economaidd (dydd Mercher yn unig)
- Helen Ryder, Dirprwy Gyfarwyddwr Trafnidiaeth Gyhoeddus ac Integredig (dydd Mercher yn unig)
Eitem 1: Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol
1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion 19 Ebrill.
Eitem 2: Adolygiad o Reoliadau Cyfyngiadau Coronafeirws (Rhif 5) - 13 Mai 2021 CAB(20-21)82
2.1 Cyflwynodd y Prif Weinidog y papur, a ofynnodd am arweiniad gan y Cabinet ar drefniadau llacio'r rheolau a gynlluniwyd ar gyfer y cylch adolygu presennol a'r rhai y gellid eu nodi yn dilyn yr adolygiad nesaf, a drefnwyd ar gyfer 3 Mehefin.
2.2 Diben y cyfyngiadau sy'n ymwneud â COVID-19 oedd atal a diogelu rhag haint, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i ledaeniad haint neu halogiad. Rhaid bod bygythiad i iechyd y cyhoedd a rhaid i'r cyfyngiadau fod yn gymesur o ran yr hyn yr oeddent yn ceisio ei gyflawni. Roedd yn ofynnol i Lywodraeth Cymru adolygu'r cyfyngiadau hyn bob tair wythnos.
2.3 Gwahoddodd y Prif Weinidog y Prif Swyddog Meddygol i ddarparu'r cyngor diweddaraf mewn perthynas â throsglwyddiad y feirws a'r effaith ar y GIG. Yn gyffredinol, roedd nifer cyffredinol yr achosion a gadarnhawyd yn gostwng yn raddol ac roedd y sefyllfa'n gymharol ddiniwed. Roedd y data profi'n dangos bod positifedd profion ar gyfer COVID-19 yn parhau i ostwng yn gyson. Roedd y patrwm yn debyg ledled y DU, ond roedd gan Gymru'r nifer isaf o achosion o hyd.
2.4 Y cyfartaledd saith diwrnod oedd tuag wyth o bob 100,000 o'r boblogaeth a'r gyfradd 'R' oedd tua 0.84. Roedd 32 o bobl â COVID-19 wedi'i gadarnhau yn yr ysbyty, gyda thri yn meddiannu gwelyau gofal critigol.
2.5 Roedd y gwaith o gyflwyno'r rhaglen frechu yn parhau i symud yn gyflym, gyda chyfran uwch o'r boblogaeth yng Nghymru yn cael eu dosau cyntaf a'u hail ddos na gweddill y DU. Roedd dros 75% o'r boblogaeth oedolion wedi cael eu dos cyntaf, gydag un o bob pedwar yn cael yr ail ddos.
2.6 Os bydd gwelliannau iechyd y cyhoedd yn parhau, roedd y Cabinet wedi nodi gynt y byddai'n bosibl ystyried symud rhwng y Lefelau Rhybudd mewn un cam. Roedd y farn hon wedi'i llywio gan y modelu a wnaed gan Brifysgol Abertawe. Roedd amodau Iechyd y Cyhoedd yn cefnogi symud i Lefel Rhybudd 2 ar 17 Mai. Er hynny, roedd nifer o faterion y byddai angen i'r Gweinidogion eu hystyried cyn y gellid cadarnhau hyn.
2.7 Ystyriodd y Cabinet y cyngor gan y Prif Swyddog Meddygol a'r Grŵp Cyngor Technegol, a daeth i'r casgliad y dylid cysoni'r niferoedd.
2.8 Serch hynny, byddai angen gorfodi'r mesurau lliniaru, megis Profi, Olrhain, Diogelu yn gryf. Roedd yn bwysig hefyd rybuddio'r cyhoedd a'r sector y gallai fod angen ailorfodi cyfyngiadau llymach os na fyddant yn cydymffurfio â'r rheolau, ac os bydd cyfraddau heintio'n dechrau cynyddu.
2.9 Yn wahanol i ailagor lletygarwch dan do yn y gorffennol, ni fyddai gofynion mwyach ar gyfer pryd sylweddol o fwyd, cyrffyw o 10pm, na slotiau amser penodol. Er hynny, byddai gwasanaeth gweini wrth y bwrdd o hyd, byddai manylion cyswllt yn cael eu casglu a byddai pobl yn cael eu hannog i archebu ymlaen llaw.
2.10 Cytunodd y Gweinidogion y dylid cyfyngu llety a rennir sy'n ymwneud â gweithgarwch preswyl i blant i ystafelloedd meddiannaeth sengl a phebyll ar hyn o bryd,. Dylid ymestyn hyn i grwpiau o ddim mwy na chwech o dan Lefel Rhybudd 1, ond byddai ailagor ystafelloedd cysgu mwy yn llawn yn gysylltiedig ag unrhyw newidiadau i reolau pellter cymdeithasol yn y dyfodol.
2.11 Roedd y Cabinet o'r farn ei bod yn dal yn gymesur i weithgareddau wedi'u trefnu wahardd gwerthu neu yfed alcohol o gofio bod y rhain yn weithgareddau risg uwch. Byddai alcohol yn parhau i gael ei ganiatáu mewn derbyniadau priodas a gwylnosau a gellid ei werthu mewn digwyddiadau, yn amodol ar fesurau lliniaru.
2.12 Byddai theatrau a neuaddau cyngerdd yn gallu ailddechrau perfformiadau, yn debyg i berfformiadau sinemâu ond efallai na fydd y cyfyngiadau ar niferoedd cynulleidfaoedd, a bennir gan ofynion pellter cymdeithasol, yn arwain at lawer yn ailagor ar hyn o bryd.
2.13 Byddai bwyd a diod mewn sinemâu, theatrau, neuaddau cyngerdd a meysydd chwaraeon ar gael i'w bwyta mewn seddau yn unig, wrth wylio'r adloniant. Nodwyd na fyddai angen diwygio'r Rheoliadau ar gyfer y mwyafrif o'r newidiadau hyn, ar wahân i'r gofyniad i werthu bwyd a diod i'w bwyta mewn man eistedd.
2.14 Cadarnhaodd y Cabinet y dylid symud i Lefel Rhybudd 2 o 17 Mai, yn amodol ar y cynnydd i chwech o bobl yn cyfarfod mewn lleoliad wedi'i reoleiddio.
2.15 O ran digwyddiadau, y cynnig oedd y gallai'r rhai o fewn Lefel Rhybudd dau ailddechrau o 17 Mai gyda chapiau penodol ar niferoedd, a fyddai'n cyd-fynd â'r Alban. Roedd nifer o ddigwyddiadau peilot, megis dathliad Eid yng Nghastell Caerdydd, wedi'u trefnu i gael eu cynnal y mis hwnnw.
2.16 Gallai'r Llywodraeth nodi hefyd, ar yr amod bod y cyfraddau trosglwyddo'n parhau'n isel, mai'r gobaith oedd y gellid cynnal digwyddiadau mwy o 7 Mehefin, gyda chapiau ar niferoedd yn unol â'r dull gweithredu yn Lloegr
2.17 Cytunodd y Gweinidogion â'r cynigion ond cydnabu bwysigrwydd nodi'r hyn a allai ddigwydd o 7 Mehefin, o ran niferoedd, yn hytrach na gwneud ymrwymiadau cadarn ar hyn o bryd.
2.18 Cytunodd y Cabinet hefyd y dylid diweddaru'r Cynllun Rheoli Coronafeirws er mwyn sicrhau bod y cyfeiriadau at y Lefelau Rhybudd yn adlewyrchu'r adolygiad presennol. Byddai caniatáu i bobl wneud ymarfer corff gydag un person arall yn ystod Lefel Rhybudd 4 hefyd yn newid parhaol.
2.19 Nodwyd bod Llywodraeth y DU wrthi'n adolygu'r rheolau ynghylch cadw pellter cymdeithasol a byddai angen i'r Cabinet gyfarfod eto yn ddiweddarach yr wythnos honno i ystyried ymateb Llywodraeth Cymru i newidiadau o'r fath.
2.20 O ran dychwelyd i deithio nad yw'n hanfodol, roedd Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi system goleuadau traffig yn ddiweddar, a oedd yn cynnwys deg gwlad a thiriogaethau o fewn 'rhestr werdd' lle yr ystyriwyd ei bod yn ddiogel teithio heb fod angen cwarantîn ar ôl dychwelyd. Byddai cyfarfod pellach i drafod ymateb Llywodraeth Cymru y diwrnod canlynol a byddai nodyn o'r cyfarfod hwn yn cael ei rannu gyda'r Cabinet.
2.21 O ran paratoi ar gyfer yr adolygiad nesaf, cytunodd y Cabinet y dylai'r Prif Weinidog ddangos, yn y gynhadledd i'r wasg ddydd Gwener, cyhyd â bod yr amodau'n parhau'n ffafriol, y byddai Cymru'n symud i Lefel Rhybudd 1 ar 7 Mehefin.
2.22 Cytunodd y Cabinet y dylai swyddogion symud ymlaen yn unol â'r penderfyniadau a wnaed gan y Gweinidogion.
2.23 Nodwyd y byddai'r Cabinet yn cyfarfod eto yn ddiweddarach yr wythnos honno i ystyried unrhyw newidiadau i'r rheolau cadw pellter cymdeithasol.
Eitem 3: Dydd Mercher 12 Mai
3.1 Cyfarfu'r Cabinet eto i ystyried y materion a oedd heb eu trafod yn y cyfarfod ddydd Llun.
3.2 Rhoddodd y papur ategol gyngor ynghylch a ddylid caniatáu unrhyw newidiadau i'r rheolau ar gadw pellter cymdeithasol, o gofio'r cyhoeddiadau diweddar gan Lywodraeth y DU a'r Alban.
3.3 Er hynny, amlinellodd y Prif Swyddog Meddygol rai pryderon a ddaeth i'r amlwg ynghylch lledaeniad cyflym amrywiolyn India (B.1.617.2) o'r feirws mewn rhannau o Lundain a Gogledd Orllewin Lloegr, yn agos at y ffin â Chymru. Roedd yr amrywiolyn hwn yn llawer mwy trosglwyddadwy na'r fersiwn a ddaeth i'r amlwg o Gaint ac fe ddaeth yn flaenllaw wedi hynny ledled y DU. Byddai angen i bob un o bedair Gwlad y DU fynd i'r afael â lledaeniad B.1.617.2.
3.4 Cadarnhaodd y Prif Gynghorydd Gwyddonol dros Iechyd fod pryderon hefyd ymysg y gymuned wyddonol ynghylch lledaeniad cyflym yr amrywiolyn hwn.
3.5 Cytunodd y Cabinet ei bod yn rhy fuan i wneud unrhyw benderfyniadau ar lacio gofynion pellter cymdeithasol a dylai'r Prif Weinidog ddangos, yn ei gynhadledd i'r wasg, ddydd Gwener mai uchelgais y Llywodraeth oedd gwneud newidiadau o'r fath ac o bosibl gysoni dulliau gweithredu â'r Alban, ond roedd angen mwy o eglurder ynghylch lledaeniad B.1.617.2 cyn y gellid ystyried unrhyw newidiadau.
3.6 Cydnabu'r Cabinet yr angen i roi digon o rybudd i'r sector priodasau ynghylch pryd y byddai cynnydd yn nifer y bobl sy'n cael mynychu derbyniadau, ond byddai'n anodd ymrwymo i rifau ar hyn o bryd, yn enwedig o ystyried y newyddion am amrywiolyn India o'r feirws.
3.7 Felly, cytunwyd y byddai'r Prif Weinidog yn nodi ddydd Gwener bod angen mwy o dystiolaeth am gyfraddau trosglwyddo cyn y gellid cynnal derbyniadau mwy, ond byddai hyn yn cael ei adolygu pan fyddai'r wybodaeth ar gael.
3.8 Awgrymwyd y gallai fod angen dangos hefyd fod y Llywodraeth yn ystyried cynyddu nifer y bobl a allai ymweld â chartrefi gofal.
3.9 Cytunodd y Cabinet y dylai swyddogion symud ymlaen yn unol â'r penderfyniadau a wnaed gan y Gweinidogion.