rgb(0,0,0)
rgb(196,97,157)
Peidiwch â gwneud i’ch anwyliaid ddyfalu a ydych chi am roi organau
Straeon rhoi organau
Rhoi aren i dad
Mae seren 17 oed CBeebies wedi diolch i drawsblaniad cornbilen am ganiatáu iddi weld y goleuni unwaith eto.
Mae nyrs 36 oed o'r Wyddgrug yn dweud bod ei drawsblaniad aren a phancreas yn golygu nad oes angen iddo chwistrellu inswlin mwyach, wedi blynyddoedd o orfod gwneud hynny.
Gobeithio bydd fy stori’n annog pobl i siarad am roi organau
Rhoddodd fy nhrawsblaniad ryddid i mi
Roeddwn i’n benderfynol o guro’r clefyd
Rhodd i newid bywyd
Galwad ffôn yn newid bywyd
Edrych i'r dyfodol
Menyw o Sir Ddinbych yn annog pobl i roi cornbilennau er cof am ei diweddar ŵr.
Y profiad o ofyn i deulu mewn galar am organau eu hanwyliaid.
Ar ôl tri thrawsblaniad, gallai dyn o Lanfair-ym-muallt wynebu oes o ddialysis.
Diwrnod ym mywyd llawfeddyg trawsblannu
Rhannwch eich penderfyniad am roi organau, waeth beth yw eich oedran.
Gall methiant organau effeithio ar unrhyw un.
Mae bywyd yn mynd yn ei flaen.
Ail gyfle i fyw bywyd yn llawn o antur.
Ffrindiau gorau yn cyd-sefydlu clwb pêl-droed i helpu i godi ymwybyddiaeth o roi organau.
Gwnewch benderfyniad, cofrestrwch y penderfyniad hwnnw, yna dywedwch wrth eich teulu.
Y broses rhoi organau yng Nghymru, a chofnodi eich penderfyniad i optio i mewn neu allan.
Gwnewch yn siŵr nad oes unrhyw ddryswch ynghylch eich penderfyniad ar roi organau pan fyddwch yn marw.
Gwnewch benderfyniad, cofrestrwch y penderfyniad hwnnw, yna dywedwch wrth eich teulu.
- Os byddwch yn penderfynu optio i mewn a bod yn rhoddwr
Gwnewch yn siŵr eich bod yn dweud wrth eich teulu yr hoffech chi fod yn rhoddwr er mwyn iddynt allu cefnogi eich penderfyniad bob tro, gallwch gofrestru eich penderfyniad hefyd.
- Os byddwch yn penderfynu optio allan a pheidio bod yn rhoddwr
Dywedwch wrth eich teulu nad ydych chi am roi organau, gallwch gofrestru eich penderfyniad hefyd.
- Os byddwch yn penderfynu gwneud dim, byddwch yn cael eich trin fel pe nad ydych chi'n gwrthwynebu bod yn rhoddwr organau a thybir eich bod chi wedi rhoi eich cydsyniad.
Dywedwch wrth eich teulu eich bod am roi organau er mwyn iddynt allu cefnogi eich penderfyniad bob tro.
Os nad yw'r teulu'n gwybod beth oedd dymuniadau eu perthynas, maent yn llawer llai tebygol o gefnogi eich penderfyniad ar roi organau.
Beth bynnag a wnewch, rhaid i chi sicrhau bod pobl yn gwybod beth yw eich penderfyniad - peidiwch â gadael iddynt ddyfalu a ydych chi am roi organau.