Adroddiad blynyddol Llywodraeth Cymru ar gydymffurfio gyda Safonau’r Gymraeg 2020 i 2021
Y pumed adroddiad ar sut yr ydym yn sicrhau cydymffurfiaeth â Safonau'r Gymraeg.
Bydd PDF o'r ddogfen hon wedi'i lawrlwytho'n fuan
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Mae Llywodraeth Cymru yn falch o gyhoeddi ei phumed adroddiad blynyddol ar weithredu Safonau'r Gymraeg ers i'r safonau ddod i rym ym mis Mawrth 2016. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i wneud cynnydd da o ran cydymffurfio â'r gofynion a sicrhau bod pobl yn gallu ymgysylltu â ni yn Gymraeg neu yn Saesneg. Mae cydymffurfiaeth Gweinidogion Cymru â'r safonau yn un rhan o strategaeth cynllunio ieithyddol ehangach a fydd yn cynorthwyo'r Llywodraeth i gyflawni ei nodau ar gyfer 2050; y nod cyntaf yw cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru i 1 miliwn a chynyddu'n sylweddol y defnydd o'r iaith o ddydd i ddydd ledled y wlad, tra bod yr ail yn ymwneud ag arferion gwaith mewnol y Llywodraeth wrth i ni anelu at ddod yn sefydliad gwirioneddol ddwyieithog.
Mae llawer o'n ffocws dros y flwyddyn ddiwethaf wedi bod ar yr ymateb i bandemig y coronafeirws ac yn ystod y cyfnod hwn mae'r angen i ymateb i argyfwng iechyd cyhoeddus wedi golygu bod Llywodraeth Cymru wedi gorfod gweithio'n wahanol iawn. Mae'r angen i wneud penderfyniadau i amddiffyn pobl Cymru'n gyflym ac i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r cyhoedd wedi bod flaenaf yn ein meddyliau. Mae cyfathrebu yn Gymraeg wedi chwarae rhan bwysig yn y broses hon oherwydd yn ystod cyfnod pryderus ac ansicr mae wedi bod yn bwysicach nag erioed i gyfathrebu â'r cyhoedd yn eu dewis iaith.
Bu pwysau aruthrol ar Weinidogion a swyddogion o ganlyniad i'r pandemig. Rydym wedi parhau i weithredu'n ddwyieithog er bod hyn wedi bod yn heriol ar adegau. Fodd bynnag, o ystyried brys a phwysigrwydd rhannu negeseuon iechyd cyhoeddus hanfodol sydd wedi effeithio ar ein bywydau i gyd, weithiau cyn gynted ag y bydd penderfyniadau wedi'u gwneud, nid ydym bob amser wedi gallu cyhoeddi gwybodaeth ar yr un pryd yn y ddwy iaith. Fodd bynnag, yr ydym wedi addasu ein ffyrdd o weithio'n gyflym i ymateb i'r amgylchiadau eithriadol, er enghraifft drwy ddefnyddio technoleg yn well, er mwyn sicrhau ein bod yn parhau i ddarparu gwasanaethau dwyieithog o ansawdd uchel i bobl Cymru. Rydym hefyd wedi ceisio sicrhau bod y Gymraeg yn parhau i gael ei hyrwyddo a'i defnyddio er gwaethaf newidiadau digynsail i'n harferion gwaith a achoswyd gan yr angen i weithio gartref yn y rhan fwyaf o achosion.
1. Cydymffurfio â Safonau Cyflenwi Gwasanaeth
1.1 Cyffredinol
Mae'r Safonau Cyflenwi Gwasanaeth yn ymwneud â chyfathrebu ac ymgysylltu Llywodraeth Cymru â'r cyhoedd. Ein nod yw sicrhau y gall pobl Cymru ymgysylltu â'u Llywodraeth yn eu dewis iaith bob amser, a'n bod yn darparu gwasanaethau dwyieithog o ansawdd uchel bob tro.
Rydym yn parhau i weithredu drwy rwydwaith o gydlynwyr gwasanaethau dwyieithog, sy'n cynnwys cynrychiolwyr o bob rhan o'r sefydliad.
Mae'r cydlynwyr yn sicrhau bod eu cydweithwyr yn ymwybodol o faterion sy'n codi mewn dau brif faes:
- materion cydymffurfio â Safonau'r Gymraeg, dan arweiniad Tîm Safonau'r Gymraeg
- polisi Cymraeg 2050 a phrif ffrydio materion iaith, dan arweiniad Is-adran y Gymraeg.
Mae'r cydlynwyr yn cefnogi adrannau Llywodraeth Cymru drwy roi cyngor ac arweiniad i gydweithwyr, sydd, yn eu tro, yn sicrhau bod y sefydliad yn cydymffurfio â'r Safonau a bod polisi Cymraeg 2050 yn cael ei adlewyrchu ym mhob elfen o waith Llywodraeth Cymru.
Mae'r rhwydwaith yn darparu fforwm ar gyfer trafod arfer da a mynd i'r afael ag unrhyw rwystrau sy'n codi. Mae hefyd yn rhoi sicrwydd bod y safonau'n cael eu hystyried a'u gweithredu ar draws y sefydliad.
1.2 Cwynion
Cawsom 26 o gwynion yn ymwneud â’r Safonau Cyflenwi Gwasanaeth yn ystod y cyfnod adrodd. Roedd saith o'r cwynion hyn yn ymwneud yn uniongyrchol â'r ymateb i bandemig y coronafeirws. Ni dderbyniwyd unrhyw gwynion yn uniongyrchol gan aelodau o'r cyhoedd. O'r 26 cwyn a dderbyniwyd gan swyddfa Comisiynydd y Gymraeg, mae 12 ymchwiliad wedi'u terfynu, gyda'r gweddill yn parhau.
1.3 Defnyddio ein gwasanaethau Cymraeg
Gwefannau
Cyfanswm Saesneg | Cyfanswm Cymraeg | |
---|---|---|
Edrych ar dudalennau | 33,943,906 | 651,519 |
Dogfennau wedi’u lawrlwytho | 1,816,396 | 37,894 |
Noder:
- O 4 Mehefin 2020 ymlaen, roedd y cwcis sy'n ddiofyn ar gyfer defnyddio Google Analytics wedi'u diffodd. Felly, ar ôl y dyddiad hwnnw, dim ond defnyddwyr a dderbyniodd y cwcis hynny sy'n cael eu cyfrif.
- Ni ddylid cymryd y ffigurau fel rhai manwl gywir a dim ond fel awgrym y dylid eu defnyddio. Mae Google yn cymhwyso samplu i'w gynnyrch dadansoddol am ddim.
- Traffig allanol yn unig yw'r ffigurau uchod (h.y. mae traffig gan ddefnyddwyr Llywodraeth Cymru wedi’i eithrio).
Gohebiaeth Weinidogol a swyddogol
Derbyniodd swyddfeydd preifat y Gweinidogion 41,037 o eitemau o ohebiaeth yn ystod y cyfnod adrodd, ac roedd 970 (2.36%) ohonynt yn Gymraeg. Mae hyn yn cymharu â 671 darn o ohebiaeth a dderbyniwyd yn Gymraeg (4.6%) yn 2019-2020.
Cyfanswm nifer y galwadau ffôn Cymraeg a dderbyniwyd gan y Ddesg Gymorth Cydwasanaethau (Mewnol ac Allanol)
Desg Gymorth Mewnol (galwadau a dderbyniwyd gan staff Llywodraeth Cymru) | Desg Gymorth Allanol (galwadau a dderbyniwyd o'r tu allan i Lywodraeth Cymru) | Cyfansymiau wedi'u cyfuno | |
---|---|---|---|
Galwadau i’r llinell Gymraeg | 136 (4.9%) | 1520 (4.3%) | 1656 (4.3%) |
Galwadau i’r llinell Saesneg | 2631 (95.1%) | 33988 (95.7%) | 36619 (95.7%) |
Cyfanswm Cyfunol | 2767 | 35508 | 38275 |
2. Cydymffurfio â'r Safonau Llunio Polisi
2.1 Cyffredinol
'Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr' yw strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer hyrwyddo a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg. Mae Cymraeg 2050 a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) yn datgan bod y Gymraeg yn flaenoriaeth strategol i Lywodraeth Cymru. Gweledigaeth Llywodraeth Cymru yw gweld y Gymraeg yn ffynnu, gyda chynnydd yn nifer y bobl sy'n siarad ac yn defnyddio'r iaith yn eu bywydau bob dydd.
Mae'r Safonau Llunio Polisi yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru:
- ystyried effeithiau ein penderfyniadau polisi ar y Gymraeg (cadarnhaol a negyddol)
- ystyried sut i gynyddu effeithiau cadarnhaol, lliniaru neu leihau effeithiau andwyol a manteisio ar bob cyfle i hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg
- ceisio barn ar yr effeithiau ar y Gymraeg wrth ymgysylltu neu ymgynghori a ymofyn barn siaradwyr Cymraeg a defnyddwyr yr iaith.
Cyflwynwyd fframwaith asesu effaith integredig newydd yn 2018 i ystyried effeithiau penderfyniadau polisi ar gyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg ac ar yr egwyddor na ddylid trin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg. Diben y fframwaith yw rhoi cyngor i staff i roi ystyriaeth briodol i ystod o bynciau, gan gynnwys y Gymraeg, wrth wneud penderfyniadau polisi. Mae'r asesiad o'r effaith ar y Gymraeg yn un o'r asesiadau statudol, gorfodol y mae'n rhaid i swyddogion ei gwblhau wrth ddatblygu, adolygu neu ddiwygio polisïau.
Y nod yw datblygu polisïau o'r ansawdd uchaf posibl, sydd, yn ei dro, yn gwneud gwahaniaeth i ddinasyddion Cymru. Mae'r fframwaith yn cyd-fynd yn agos ag amcanion strategaeth Cymraeg 2050, ac yn ceisio sicrhau bod ei hamcanion yn cael eu prif ffrydio o fewn penderfyniadau polisïau Gweinidogol. Er mwyn helpu staff i ddefnyddio'r fframwaith newydd, darperir canllaw cynhwysfawr hefyd i staff ynghyd â llawlyfr data ar y Gymraeg yng Nghymru.
Mae templedi ymgynghori safonol Llywodraeth Cymru yn sicrhau ein bod yn derbyn sylwadau ymatebwyr ar effeithiau ein penderfyniadau polisi ar y Gymraeg. Yn yr un modd, mae templedi caffael safonol yn sicrhau bod y safonau'n ystyriaeth bwysig wrth gontractio gwasanaethau trydydd parti. Mae canllawiau wedi'u datblygu ar gyfer staff ar gydymffurfio â gofynion yn ystod ymarferion ymgynghori, gwasanaethau contractio, cyllid grant a chomisiynu ymchwil.
2.2 Cwynion
Derbyniwyd dau gwyn gan Gomisiynydd y Gymraeg yn ymwneud â'r Safonau Llunio Polisi yn ystod y cyfnod adrodd. Mae'r ymchwiliadau'n parhau.
3. Cydymffurfio â'r Safonau Gweithredol
3.1 Datblygu polisi ar ddefnydd mewnol o'r Gymraeg
Yn Ebrill 2020, cyhoeddwyd strategaeth fewnol Llywodraeth Cymru 'Cymraeg. Mae'n perthyn i ni i gyd', ar gyfer defnyddio'r Gymraeg o fewn y sefydliad. Gweledigaeth Llywodraeth Cymru yn y strategaeth yw dod yn sefydliad gwirioneddol ddwyieithog erbyn 2050, sy'n golygu y bydd y Gymraeg a'r Saesneg yn cael eu defnyddio'n naturiol ac yn gyfnewidiol fel ieithoedd gwaith y Llywodraeth. Er mwyn cyflawni hyn, ein bwriad yw y bydd holl staff Llywodraeth Cymru yn gallu deall y Gymraeg, o leiaf, erbyn 2050.
Pennwyd y strategaeth drwy ystyried y cyfeiriad gwleidyddol a'r fframwaith cyfreithiol sydd eisoes ar waith. Rydym yn ymwybodol bod defnyddio'r Gymraeg yn y gweithle yn rhoi mwy o bwrpas a pherthnasedd i'r iaith, ac mae hyn yn arbennig o wir am y rhai sy'n dysgu Cymraeg neu sy'n ystyried a ddylid anfon eu plant i addysg cyfrwng Cymraeg. Trwy fabwysiadu polisi sy'n amlygu gwerth y Gymraeg yn y gweithle, y bwriad yw y bydd mwy o blant a phobl ifanc (yn arbennig) yn gwerthfawrogi bod y gallu i siarad Cymraeg yn sgil defnyddiol, nawr ac yn y dyfodol.
Gellir gweld copi o'r strategaeth yma: Cymraeg. Mae'n perthyn i ni i gyd
Gwyddom hefyd y gallai gosod amcan a gweledigaeth ar gyfer y Gymraeg yn Llywodraeth Cymru ddylanwadu ar rannau eraill o'r sector cyhoeddus yng Nghymru. Lansiwyd y strategaeth hon yn ystod wythnosau cynnar y pandemig, ym mis Ebrill 2020. Gan ei bod wedi bod yn gyfnod pryderus ac ansicr iawn, ni fu'n briodol tynnu gormod o sylw at y strategaeth yn gyhoeddus. Mewn amser, fodd bynnag, rydym am rannu'r strategaeth yn ehangach er mwyn dangos arweiniad, a'r bwriad yw ysbrydoli sefydliadau eraill i bennu eu cyfeiriad strategol o hyrwyddo'r defnydd o'r iaith.
Gweithredu'r Strategaeth ac amcan cychwynnol 2020 i 2025
Rydym yn ymwybodol fod yn rhaid i’r camau a gymerir i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg fod yn rhesymol ac yn gymesur. Felly, bydd dod yn sefydliad dwyieithog yn golygu newid yn raddol. I’r perwyl hyn, caiff y strategaeth ei seilio ar yr egwyddorion canlynol:
- Gwneud ymrwymiad hirdymor ac arwain y ffordd:
bydd y newid yn digwydd yn raddol, dros amser, ond ein bwriad yw arwain trwy esiampl yn y ffordd yr ydym yn hybu defnydd o’r iaith yn y gweithle. - Buddsoddi yn ein staff a chynnig cyfleoedd iddynt ddysgu Cymraeg a meithrin sgiliau ieithyddol:
mae’n hanfodol darparu hyfforddiant effeithiol a hwylus, gan roi amser a chymhelliant i bobl wella’u sgiliau Cymraeg yn barhaus. - Parhau i fod yn sefydliad agored, cynhwysol ac amrywiol:
mae gan bawb y potensial i fod yn siaradwr Cymraeg, ac nid yw’r strategaeth hon yn groes i’n hymrwymiad i fod yn agored, yn gynhwysol ac yn amrywiol – er y bydd sgiliau Cymraeg yn fwyfwy angenrheidiol ar gyfer nifer cynyddol o swyddi, nid yw meithrin gweithle dwyieithog yn golygu (nac yn awgrymu) bod y sgiliau hynny’n ofynnol ar gyfer ymuno â Llywodraeth Cymru. - Mynd ati’n rheolaidd i adolygu ein ffyrdd o weithio er mwyn hwyluso mwy o ddefnydd o’r Gymraeg:
pan fyddwn yn cyflwyno polisïau a mentrau mewnol newydd, byddwn yn adolygu i ba raddau maent yn cynnig cyfleoedd pellach i’r staff ddefnyddio’r Gymraeg yn eu gwaith beunyddiol.
Yn ogystal â gosod nod hirdymor ar gyfer 2050, rydym hefyd yn gosod amcan tymor byrrach ar gyfer y cyfnod hyd at 2025: yn ystod y pum mlynedd cyntaf, ein hamcan yw gweld Llywodraeth Cymru yn dod yn sefydliad sydd yn dangos esiampl yn ei defnydd mewnol o'r iaith pan gaiff ei hasesu yn erbyn sefydliadau tebyg yn y sector cyhoeddus yng Nghymru. Bydd yr amcan tymor byrrach yn cael ei adolygu yn 2025, a bydd amcan newydd a chamau gweithredu cysylltiedig yn cael eu pennu ar gyfer y cyfnod dilynol o bum mlynedd – proses a fydd yn parhau hyd nes y cyrhaeddir nod 2050.
Mae deg cam gweithredu wedi'u nodi yn y strategaeth, a fydd yn ein helpu i gyflawni'r amcan o ddod yn sefydliad enghreifftiol dros y pum mlynedd nesaf. Mae'r camau hyn yn seiliedig ar y themâu canlynol: arweinyddiaeth, dysgu, recriwtio a thechnoleg.
Cynnydd o ran gweithredu'r Strategaeth yn ystod y flwyddyn gyntaf
Er gwaethaf yr amgylchiadau anodd eleni, gwnaed cynnydd o ran gweithredu'r strategaeth:
Arweinyddiaeth
Mae ein rhaglen gynefino ar gyfer yr Uwch Wasanaeth Sifil wedi'i hailwampio i gynnwys sesiwn newydd ar y Gymraeg, sy'n cynnwys trafodaeth ar sut mae uwch swyddogion yn arwain eu timau drwy arwain drwy esiampl wrth hyrwyddo'r iaith. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am eu rôl yn prif ffrydio'r Gymraeg wrth ddatblygu polisïau a deddfwriaeth, a chefnogi eu staff i ddatblygu, mireinio a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gwaith. Yn ogystal, mae'r Ysgrifennydd Parhaol wedi rhannu gwybodaeth gyda'r Uwch Wasanaeth Sifil am y strategaeth sy'n nodi ei disgwyliadau hi o ran eu harweinyddiaeth a'r iaith Gymraeg.
Dysgu
Un o lwyddiannau'r newid diweddar i weithio’n rhithwir o fewn Llywodraeth Cymru, yw'r ffordd di-dor y symudodd ein hyfforddiant ar-lein, a'r cyfleoedd y mae hynny wedi'u cynnig. Mae hyn hefyd yn wir am ein cynnig dysgu Cymraeg. Cynhaliwyd cynllun peilot o'r rhaglen ‘Say Something in Welsh’ ar gyfer 60 o ddysgwyr newydd sbon, a bu cynnydd o 44% yn nifer y staff a gofrestrodd ar gyfer cyrsiau dysgu Cymraeg wythnosol. Cafodd y rhaglen fentora ar gyfer dysgwyr ei hailwampio, er mwyn sicrhau bod pob dysgwr yn Llywodraeth Cymru yn cael cymorth a chyfle i ymarfer eu sgiliau, a chyflogwyd tiwtor ymgynghorol am chwe mis i gynnig hyfforddiant wedi'i deilwra i staff ac i wneud argymhellion ar y cynnig dysgu. Datblygwyd cyrsiau newydd i fraenaru’r tir ar gyfer cyflwyno Cymraeg Cwrteisi fel sgil i bawb: cwrs ynganu a chwrs ymwybyddiaeth iaith newydd. Datblygwyd cwrs newydd hefyd ar y cyd ag Academi Wales ar gyfer uwch arweinwyr y sector cyhoeddus yng Nghymru: 'Arwain mewn Gwlad Ddwyieithog', fel rhan o’r rhaglen ‘Deall Dwyieithrwydd’. Mae mwy o wybodaeth a data ar y rhaglen dysgu Cymraeg isod.
Recriwtio
Mae newid sylweddol ar y gweill i'r ffordd y mae swyddi'n cael eu hysbysebu yn Llywodraeth Cymru. Ni fyddwn o dan y drefn newydd yn hysbysebu swydd wag na swydd newydd heb i'r Gymraeg gael ei nodi fel sgil dymunol, hanfodol neu i’w dysgu yn y swydd. Mae hyn yn golygu byddwn yn diffodd y dewis "Nid oes angen sgiliau Cymraeg ar gyfer y swydd hon" o'n system recriwtio i swyddi a recriwtio i benodiadau cyhoeddus. Yn hytrach, wrth benodi byddwn yn pwysleisio gwerth sgiliau Cymraeg ar gyfer gweithio yn y Llywodraeth, waeth beth fo'r swydd.
Technoleg
Mae gweithio o bell yn golygu gweithio mewn ffordd wahanol a sefydlu arferion newydd. Rydym yn paratoi ar gyfer gweithredu pecyn cymorth a ddatblygwyd gan dîm prosiect "ARFer" ym Mhrifysgol Bangor o fewn y sefydliad. Nod y rhaglen yw newid arferion iaith cydweithwyr, gyda siaradwyr Cymraeg a dysgwyr yn gwneud ymrwymiad i ddefnyddio mwy o Gymraeg yn y gweithle. Mae cynlluniau hefyd i weithredu prosiect i gynyddu defnydd technoleg Cymraeg ymhlith siaradwyr Cymraeg y sefydliad fel rhan o'n Cynllun Gweithredu Technoleg Iaith Gymraeg.
3.2 Cwynion
Ni dderbyniwyd unrhyw gwynion yn ymwneud â'r Safonau Gweithredol yn ystod y cyfnod adrodd.
4. Data sgiliau Cymraeg
Mawrth 2021
Darllen | Siarad | Deall | Ysgrifennu | |
---|---|---|---|---|
0 | 37.7% (2188) | 46.0% (2670) | 41.1% (2384) | 52.2% (3026) |
1 | 25.0% (1451) | 21.8% (1266) | 20.2% (1174) | 18.1% (1052) |
2 | 8.1% (470) | 5.1% (295) | 10.0% (579) | 5.3% (307) |
3 | 5.8% (335) | 3.2% (188) | 3.7% (188) | 5.6% (322) |
4 | 5.5% (320) | 5.0% (289) | 5.3% (307) | 5.6% (326) |
5 | 12.7% (739) | 13.8% (799) | 14.6% (849) | 7.9% (461) |
X | 5.1% (298) | 5.1% (294) | 5.1% (293) | 5.3% (307) |
Mawrth 2020
Darllen | Siarad | Deall | Ysgrifennu | |
---|---|---|---|---|
0 | 37.9% (2155) | 46.2% (2626) | 41.3% (2347) | 52.6% (2985) |
1 | 24.8% (1408) | 21.7% (1230) | 20.1% (1139) | 17.7% (1005) |
2 | 7.9% (451) | 4.9% (280) | 10.0% (568) | 10.0% (568) |
3 | 5.8% (331) | 3.2% (184) | 3.6% (203) | 5.5% (312) |
4 | 5.6% (318) | 5.0% (285) | 5.3% (299) | 5.8% (331) |
5 | 12.9% (730) | 14.0% (793) | 14.8% (842) | 7.9% (450) |
X | 5.0% (286) | 4.9% (281) | 4.9% (281) | 5.2% (296) |
5. Data hyfforddiant iaith Gymraeg
Ar ddiwedd 2020 penodwyd tiwtor Cymraeg yn ymgynghorydd, i gynllunio cynllun hyfforddi Cymraeg strwythuredig hirdymor i gefnogi targedau pum mlynedd cychwynnol strategaeth 'Cymraeg. Mae'n perthyn i ni i gyd’, ac i sbarduno gweithredu ein gweledigaeth ddwyieithog yn y tymor hir.
Un o'r gofynion allweddol yw datblygu strategaeth ddysgu barhaus i brif ffrydio defnydd o'r iaith ar draws y sefydliad a galluogi dysgwyr i ddefnyddio'r iaith yn eu rôl o ddydd i ddydd yn y gweithle. Dylai'r strategaeth:
- Argymell pecyn eang o weithgareddau hyfforddi ar draws pob lefel gallu sydd wedi'u cynllunio i gyflawni ein hamcanion.
- Ystyried sut y gall yr hyfforddiant gyfrannu at newid diwylliant sefydliadol ehangach mewn perthynas â'r Gymraeg.
- Gynnwys cynllun gweithredu gyda llinell amser.
- Gyflwyno achos busnes ar gyfer y gweithgareddau hyfforddi arfaethedig gan gynnwys dadansoddiad cost a budd o bob un o'r argymhellion.
Disgwylir i'r strategaeth ddysgu gael ei chyflawni erbyn mis Mehefin 2021.
Dosbarthiadau wythnosol
Cawsom 214 o geisiadau i fynychu dosbarthiadau wythnosol Cymraeg ar gyfer blwyddyn academaidd 2020-21, cynnydd o 44% ar geisiadau'r llynedd.
Data gwersi wythnosol 2020 i 2021
Cyfanswm nifer staff Llywodraeth Cymru sydd wedi'u cofrestru | Mynediad | Sylfaen | Canolradd | Uwch | Hyfedredd | |
Aberystwyth | 34 | 13 | 13 | 3 | 4 | 1 |
Bangor | 14 | 7 | 2 | 0 | 4 | 1 |
Caerdydd | 163 | 69 | 44 | 24 | 23 | 3 |
Cyfanswm | 211 | 89 | 59 | 27 | 31 | 5 |
Dosbarthiadau Wythnosol Cofrestredig Medi 2020 | Cyfanswm | Mynediad | Sylfaen | Canolradd | Uwch | Hyfedredd |
Cofrestru | 211 | 89 | 59 | 27 | 31 | 5 |
Canslo | 56 | 22 | 19 | 9 | 5 | 0 |
Dal i ddysgu ar hyn o bryd | 154 | 67 | 40 | 18 | 26 | 5 |
Cyrsiau ar-lein Cymraeg Gwaith a ddarperir gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol (Diweddarwyd y data ddiwethaf ar 13/04/21)
Cwrs | Cofrestru | Cwblhau |
---|---|---|
Croeso: Rhan 1 | 56 | 11 |
Croeso: Rhan 2 | 19 | 6 |
Croeso Nôl: Rhan 1 | 14 | 2 |
Croeso Nôl: Rhan 2 | 5 | 1 |
Gwella Eich Cymraeg: Rhan 1 | 8 | 0 |
Gwella Eich Cymraeg: Rhan 2 | 1 | 0 |
Y Sector Gofal Iechyd: Rhan 1 | 3 | 0 |
Y Sector Gofal Iechyd: Rhan 2 | 1 | 0 |
Sector Manwerthu: Rhan 1 | 5 | 4 |
Sector Manwerthu: Rhan 2 | 4 | 4 |
Athrawon: Rhan 1 | 3 | 0 |
Athrawon: Rhan 2 | 1 | 0 |
Sector Twristiaeth: Rhan 1 | 25 | 14 |
Sector Twristiaeth: Rhan 2 | 7 | 4 |
Cwrs Hunan-astudio Cymraeg Gwaith a ddarparwyd gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol (Diweddarwyd y data ddiwethaf ar 22/04/21)
Nifer y Dysgwyr Llywodraeth Cymru (%) | |||
---|---|---|---|
Dechrau | Cwblhau | ||
Uned 1 | 1.1 | 87 (88%) | 75 (76%) |
1.2 | 57 (58%) | 57 (58%) | |
1.3 | 53 (54%) | 53 (54%) | |
Uned 2 | 2.1 | 72 (73%) | 66 (67%) |
2.2 | 47 (47%) | 47 (47%) | |
Uned 3 | 3.1 | 66 (67%) | 62 (63%) |
3.2 | 34 (34%) | 34 (34%) | |
3.3 | 19 (19%) | 19 (19%) | |
Uned 4 | 4.1 | 56 (57%) | 50 (51%) |
4.2 | 23 (23%) | 23 (23%) | |
4.3 | 23 (23%) | 23 (23%) | |
Uned 5 | 5.1 | 44 (44%) | 35 (35%) |
5.2 | 14 (14%) | 14 (14%) | |
Uned 6 | 6.1 | 26 (26%) | 16 (16%) |
6.2 | 7 (7%) | 7 (7%) | |
6.3 | 8 (8%) | 8 (8%) | |
Uned 7 | 7.1 | 5 (5%) | 0 (0%) |
7.2 | 0 (0%) | 0 (0%) | |
7.3 | 0 (0%) | 0 (0%) |
Cwrs Twitter yn Gymraeg
Cynhaliwyd gweithdy Twitter ymarferol dwy awr a hanner gan Dr Llion Jones, o Ganolfan Bedwyr ym Mhrifysgol Bangor, ar gyfer staff sy'n gweithio yn y maes cyfathrebu allanol ym mis Mawrth 2021. Canolbwyntiodd y gweithdy ar sut i ysgrifennu'n glir ac yn gryno yn Gymraeg ar gyfer llwyfannau cyfryngau cymdeithasol fel Twitter. Cynigiwyd y sesiwn yma i garfan gyfyngedig o staff sy'n siarad Cymraeg mewn rolau cyfathrebu er mwyn helpu i gynyddu eu hyder wrth ddefnyddio'r Gymraeg ar-lein.
Cwrs pwrpasol Gloywi Iaith
Cynhaliwyd y cwrs hwn, oedd wedi'i anelu at staff sy'n fedrus yn y Gymraeg ond a oedd am wella eu sgiliau a/neu eu hyder, drwy gyfrwng sesiynau awr a hanner a gynhaliwyd dros 8 wythnos o fis Chwefror 2021. Cafodd y sesiynau eu cynnal gan ein tiwtor-ymgynghorol Cymraeg dan gontract, gyda gweithgareddau ac adborth unigol. Cynigiwyd y cwrs hwn i ddechrau i garfan gyfyngedig o staff ar lefel 4 a 5 sgiliau iaith Gymraeg ac sy'n gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg o ddydd i ddydd, ond ein nod yw cynnwys y cwrs hwn yn ein cynnig safonol i'r holl staff ar ôl derbyn adborth y peilot.
Sesiynau cynefino
Rhaid i bob aelod newydd o staff ymgymryd â hyfforddiant cynefino iaith Gymraeg. Fel rhan o'r broses mae sesiwn ymwybyddiaeth Gymraeg wedi'i chynnwys yn y cwrs. Yn ystod y cyfnod adrodd cynhaliwyd 18 sesiwn ar gyfer cyfanswm o 294 aelod o staff.
Mae'r sesiwn yn canolbwyntio ar weledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer yr iaith, ein nod o weld yr iaith yn cael ei defnyddio o ddydd i ddydd o fewn y sefydliad, yn ogystal â'n hamcan o weld miliwn o siaradwyr erbyn 2050. Mae'r sesiwn hefyd yn ymdrin â'n dyletswyddau i ddarparu gwasanaethau a gwybodaeth i'r cyhoedd yn ddwyieithog, i brif ffrydio'r Gymraeg drwy ein holl waith llunio polisïau, a'r cyfleoedd i wella neu ddatblygu sgiliau Cymraeg yn y gwaith.
Mae'r sesiynau bellach wedi symud ar-lein ers dechrau'r pandemig. Yn ystod y cyfnod heriol hwn, rydym wedi rhoi ystyriaeth ychwanegol i sut y gallwn helpu staff i integreiddio i'w rôl newydd a'r sefydliad ehangach a pharhau i gael cyfleoedd i ddefnyddio eu sgiliau. Mae pecyn cynefino newydd wedi'i ddatblygu gyda chyflwyniad i'r Gymraeg wedi'i gynnwys. Yn yr adran 'Paratoi ar gyfer eich diwrnod cyntaf' mae'r pecyn yn nodi:
Cymraeg a Saesneg yw ieithoedd gwaith Llywodraeth Cymru. Rydym am weld y Gymraeg yn ffynnu yn y gweithle ac yn y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.
Mae gofynion statudol gennym i ddarparu gwasanaethau i'r cyhoedd a'n staff drwy gyfrwng y Gymraeg, a byddwch yn cael rhagor o wybodaeth am hyn unwaith y byddwch yn dechrau.
Unwaith y byddwch yn dechrau byddwch hefyd yn dysgu am y cyfleoedd sydd ar gael i ddechrau dysgu Cymraeg yn y gweithle, neu'r cyfleoedd y gallwn eu cynnig i chi ddatblygu eich sgiliau.
Sesiynau cynefino ar gyfer yr Uwch Wasanaeth Sifil
Am y tro cyntaf, cynhaliwyd sesiynau cynefino Cymraeg penodol hefyd ar gyfer y garfan newydd o uwch weision sifil a recriwtiwyd i Lywodraeth Cymru yn ystod y cyfnod. Mae'r sesiynau wedi canolbwyntio ar:
Arweinyddiaeth
Disgwyliwn i'n harweinwyr hyrwyddo'r defnydd o'r iaith o fewn eu timau, p'un ai ydynt yn siarad Cymraeg ai peidio.
Dysgu
Rhaid i'n harweinwyr ystyried yr iaith wrth gynllunio'r gweithlu, wrth ystyried ceisiadau am ddysgu, ac wrth recriwtio.
Prif ffrydio
Rhaid i'n huwch arweinwyr sicrhau bod ein nodau hirdymor ar gyfer yr iaith yn cael eu hystyried pan fyddwn yn datblygu polisïau, gwasanaethau ac yn edrych ar sut rydym yn gweithio fel sefydliad.
Cyrsiau eraill a gyflwynwyd drwy gyfrwng y Gymraeg
Yn ystod y cyfnod adrodd:
- Cyfanswm nifer y sesiynau TGCh a gynhaliwyd ar gyfer staff – 217 (4,266 aelod o staff)*
- Nifer y sesiynau TGCh Cymraeg – 21 (323 aelod o staff)*
- Cyfanswm nifer y sesiynau gweithio o bell ac aros mewn cysylltiad – 9 (70 aelod o staff)
- Cyfanswm nifer y sesiynau Cymraeg gweithio o bell ac aros mewn cysylltiad – 1 (7 aelod o staff)
Cynigwyd cyrsiau TGCh Cymraeg am y tro cyntaf yn ystod y cyfnod adrodd er mwyn sicrhau bod staff yn gyfarwydd â Microsoft Teams ac offer gweithio rhithwir eraill. Cafwyd adborth cadarnhaol iawn gan y rheiny a fynychodd y cyrsiau. Yn dilyn llwyddiant y cyrsiau hyn byddant yn cael eu hychwanegu at ein cynnig parhaol yn ein rhaglen ddysgu ar gyfer staff.
Cyrsiau Ymwybyddiaeth o'r Gymraeg: Lansiwyd ym mis Hydref/Tachwedd 2020
Kick off Cymraeg
Mae’r sesiwn rithwir peilot wedi galluogi cyfranogwyr i ddod i wybod mwy am y Gymraeg a 'Cymraeg. Mae'n perthyn i ni i gyd’, strategaeth Llywodraeth Cymru mewn perthynas â'i defnydd mewnol. Mae'r sesiwn hefyd wedi rhoi cyfle i'r tiwtor ofyn cwestiynau treiddgar a thrafod syniadau, teimladau a phrofiadau unigol cyfranogwyr ynglŷn â’r Gymraeg.
Yn dilyn y peilot llwyddiannus, bydd y cwrs nawr yn cael ei gynnig fel rhan arferol o'n darpariaeth cyrsiau Cymraeg.
- Nifer y sesiynau – 4 (50 aelod o staff)
Ynganu Cymraeg
Mae’r sesiwn peilot rhyngweithiol ac ymarferol awr a hanner yma wedi rhoi cyfle i gyfranogwyr ddeall sut i ynganu'r Gymraeg ac ymarfer geiriau ac ymadroddion allweddol, enwau pobl ac enwau lleoedd mewn amgylchedd hwylus a chefnogol. Mae'r cwrs wedi datblygu hyder cyfranogwyr wrth ynganu a defnyddio geiriau ac ymadroddion Cymraeg, a’u galluogi i osod esiampl, rhoi cynnig arni a dysgu gyda'i gilydd.
Yn dilyn gwerthusiad trylwyr a llwyddiannus, mae'r cwrs bellach yn rhan o'r rhaglen ddysgu ac mae ar gael i holl staff Llywodraeth Cymru.
- Nifer y sesiynau – 5 (58 aelod o staff)
Rhwydwaith yr Iaith Gymraeg
Mae cyfanswm o 244 o weithwyr Llywodraeth Cymru yn aelodau o'n rhwydwaith iaith Gymraeg mewnol ar ein Lab Dysgu. Mae hyn yn gynnydd o 94 aelod ers y llynedd.
Nod y rhwydwaith hwn yw darparu lle ar ein Lab Dysgu (llwyfan Dysgu a Datblygu'r staff) i staff sy'n dysgu/siarad Cymraeg ymarfer a gwella eu hyder drwy gael sgyrsiau a rhannu'r newyddion a'r wybodaeth ddiweddaraf am hyfforddiant, cyfleoedd, y cyfryngau ac ati gydag eraill. Anogir pob dysgwr a gweithiwr newydd i ymuno â'r rhwydwaith.
Mae cyfanswm o 244 o weithwyr Llywodraeth Cymru yn aelodau o'n rhwydwaith iaith Gymraeg mewnol ar ein Lab Dysgu. Mae hyn yn gynnydd o 94 aelod ers y llynedd.
Nod y rhwydwaith hwn yw darparu lle ar ein Lab Dysgu (llwyfan Dysgu a Datblygu'r staff) i staff sy'n dysgu/siarad Cymraeg ymarfer a gwella eu hyder drwy gael sgyrsiau a rhannu'r newyddion a'r wybodaeth ddiweddaraf am hyfforddiant, cyfleoedd, y cyfryngau ac ati gydag eraill. Anogir pob dysgwr a gweithiwr newydd i ymuno â'r rhwydwaith.
Say Something in Welsh
Cafodd cwrs 6 mis Say Something in Welsh ei gynnal ar gyfer 59 aelod o staff yn ystod 2020-2021. Yn dilyn gwerthusiad manwl, a oedd yn cynnwys adborth cadarnhaol gan y staff, bydd y rhaglen nawr yn dod yn rhan parhaol o'r gyfres o gyfleoedd dysgu sydd ar gael i staff Llywodraeth Cymru.
Rhaglen Mentora ar gyfer Dysgwyr
Cafodd ein rhaglen mentora ar gyfer dysgwyr ei hailwampio i adlewyrchu'r cynnydd yn nifer yr ymgeiswyr am hyfforddiant yn ystod y cyfnod adrodd. Mae'r rhaglen yn paru cydweithwyr sy'n dysgu Cymraeg gyda siaradwyr Cymraeg hyderus fel bod gan y dysgwr berson cyfarwydd a chyson i ymarfer siarad Cymraeg. Gyda lansiad 'Cymraeg. Mae'n perthyn i ni i gyd', mae wedi bod yn bwysicach nag erioed i gefnogi cydweithwyr yn eu hyfforddiant iaith Gymraeg.
Mae ein pecyn mentora yn rhoi gwybodaeth i staff am ddod yn fentor Cymraeg, gan gynnwys:
- Trefniadau ar gyfer y cynllun, megis paru â dysgwr
- Awgrymiadau ymarferol ac awgrymiadau ar gyfer cynnal perthynas fentora lwyddiannus
- Manteision i fentoriaid a'r dysgwyr.
Gwnaethom hefyd gyhoeddi ffilm fer yn amlygu perthynas lwyddiannus gyfredol rhwng dysgwr a mentor lle maent yn trafod eu profiadau o'r rhaglen, a'r manteision i'r dysgwr ar mentor.
6. Data recriwtio
Nifer y swyddi newydd a swyddi gwag a hysbysebwyd wedi'u categoreiddio fel swyddi sy'n gofyn am:
- Sgiliau Cymraeg hanfodol
- Sgiliau Cymraeg i'w dysgu pan gânt eu penodi
- Sgiliau Cymraeg yn ddymunol
- Sgiliau Cymraeg nad oes eu hangen
yn ystod 2020-2021 fel a ganlyn:
Categori | Hysbysebu'n fewnol | Hysbysebu'n allanol |
---|---|---|
Hanfodol | 2 | 20 |
I’w ddysgu ar benodiad | 0 | 3 |
Dymunol | 4 | 64 |
Ddim yn angenrheidiol | 28 | 25 |
Cyfanswm | 34 | 112 |
Penodiadau Cyhoeddus: Asesiadau Sgiliau Iaith Gymraeg
Yn ogystal, mae holl penodiadau cyhoeddus Llywodraeth Cymru yn destun asesiad sgiliau iaith Gymraeg. Yn ystod y cyfnod adrodd, cynhaliwyd 39 o asesiadau sgiliau penodiadau cyhoeddus. O'r 39 asesiad hynny, roedd 14 wedi'u categoreiddio'n hanfodol a 25 yn ddymunol.