Eluned Morgan, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae dros 3.7 miliwn dos o’r brechlyn wedi cael eu rhoi yng Nghymru. Rydym yn gwneud cynnydd arbennig tuag at gyrraedd carreg filltir 3 fel y nodir yn ein Strategaeth, ac rydym yn disgwyl y byddwn yn cyrraedd y garreg filltir hon yn gynnar.
Rwy’n falch o gyhoeddi bod 88% o’n hoedolion wedi cael eu dos cyntaf, ac mae 60% wedi cael yr ail ddos, sef y cwrs llawn i’w diogelu yn erbyn COVID-19. Mae hynny’n golygu bod 3 o bob 5 oedolyn bellach wedi’u diogelu’n llawn.
Mae pob bwrdd iechyd yng Nghymru yn annog unrhyw un rhwng 18 a 29 oed sydd heb gael y brechlyn eto, i fynd i gael ei frechu. Os ydych yn credu eich bod wedi colli allan, neu os nad ydych eisoes wedi derbyn cynnig i gael y brechlyn am ba bynnag reswm, gallwch gysylltu drwy’r ffyrdd hyn. Dyw hi fyth yn rhy hwyr i drefnu apwyntiad.
Yn ogystal â gwneud yn siŵr nad oes neb yn colli allan ar y dos cyntaf, byddwn yn canolbwyntio ar gynnig ail ddos i bawb yng ngrwpiau blaenoriaeth un i naw dros y pedair wythnos nesaf. Mae hynny’n cynnwys pawb dros 50 oed, pob gweithiwr gofal iechyd, gweithwyr gofal cymdeithasol, a grwpiau eraill sy’n agored i niwed gan gynnwys y rheini mewn cartrefi gofal.
Gan ddibynnu ar gyflenwadau, byddwn yn dod ag apwyntiadau i bobl dros 40 oed ymlaen, fel nad oes yn rhaid iddyn nhw aros mwy nag wyth wythnos rhwng eu dos cyntaf a’u hail ddos.
Hoffem barhau i gynnal y cyfraddau uchel, a gweld niferoedd uchel o bobl yn derbyn yr ail ddos hefyd, fel bod pawb yn teimlo’r manteision o gael eu diogelu’n llawn gan y brechlyn. Mae hyn yn hollol hanfodol mewn perthynas ag amrywiolyn Delta. Er mwyn cyflawni hyn, mae angen help pawb arnom i annog pob un i gael y cwrs llawn o ddau ddos. Y brechlyn yw’r ffordd orau o atal salwch difrifol ac atal y feirws rhag lledaenu.
Heddiw, byddaf yn cyhoeddi ein diweddariad wythnosol ar raglen frechu COVID-19. Rwy’n hynod o falch o’n GIG a’r holl wirfoddolwyr ar draws Cymru y mae eu gwaith caled a’u hymroddiad wedi sicrhau bod y cynnydd hwn yn bosibl. Rwy’n ddiolchgar i bob un person sydd wedi cael ei frechu, a helpu i ddiogelu Cymru rhag y coronafeirws.