rgb(0,0,0)
rgb(196,97,157)
Dod yn rhoddwr byw a rhoi'r rhodd orau bosib
Bob blwyddyn mae dros 250 o gleifion yn marw wrth aros am drawsblaniad aren, yn sgil prinder organau. Mae angen rhoddwyr byw er mwyn helpu i achub bywydau.
Pam fod angen rhoddwyr byw
Yn anffodus, nid oes digon o arennau yn cael eu rhoi gan bobl sydd wedi marw ar gyfer pawb sydd angen trawsblaniad. Er mwyn cael trawsblaniad aren gan rywun sydd wedi marw, mae'n rhaid aros tua 2 flynedd ar gyfartaledd, ac mewn rhai achosion prin gall fod dros 5 mlynedd.
Y newyddion da yw:
- mae gennym ddwy aren, a gall person iach fyw bywyd cwbl naturiol â dim ond un aren yn gweithio.
- gall bywydau pobl gael eu trawsnewid gan roddwr byw, gan arwain at lai o amser aros, osgoi dialysis a gwella ansawdd a hyd bywyd rhywun.
- mae'n bosibl rhoi mwy nag arennau yn unig - gall rhoddwr byw roi rhan o'r afu/iau i helpu rhywun arall.
- gall unrhyw un fod yn rhoddwr byw - nid oes unrhyw gyfyngiad oedran.
Straeon rhoddwr byw
Rhannu’r rhodd eithaf.
Dyfodol cadarnhaol i Hollie diolch i roddwr a thad.
Ar ôl cael ei hysbrydoli gan salwch dirybudd cyfaill iddi.
Dod yn rhoddwr byw
Gwybodaeth ynghylch cymhwysedd, sut i ymgeisio, a manylion cyswllt i gael rhagor o fanylion.