Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi
Ar 9 Mehefin mynychais gyfarfod cyntaf Cyngor Partneriaeth y Cytundeb Masnach a Chydweithredu fel arsyllydd, ar y cyd â Gweinidogion o’r Llywodraethau Datganoledig eraill.
Cafodd y cyfarfod ei gyd-gadeirio gan yr Arglwydd Frost, Gweinidog Gwladol yn Swyddfa’r Cabinet ac Is-Lywydd y Comisiwn Ewropeaidd, Maroš Šefčovič a thrafodwyd mesurau ac arferion iechydol a ffytoiechydol a hwyluso masnach; pysgodfeydd; gorfodi’r gyfraith; ffioedd fisa; cyfranogiad yn rhaglenni’r Undeb; a diweddariadau ynghylch y fframweithiau sefydliadol.
Ysgrifennais at yr Arglwydd Frost ar ôl y cyfarfod; amgaeir copi o’r ohebiaeth gyda’r Datganiad Ysgrifenedig hwn.
Dogfennau
-
Letter to Lord Frost, Saesneg yn unig, math o ffeil: pdf, maint ffeil: 345 KB
Saesneg yn unig345 KB