Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi
Rwy'n croesawu'r cyhoeddiad a wnaed ar 4 Mehefin gan Lywodraeth y DU fod cytundeb mewn egwyddor wedi'i wneud ar Gytundeb Masnach Rydd EFTA (Norwy, Gwlad yr Iâ a Liechtenstein) y DU-AEE. Mae'r fargen yn ymhelaethu ar y cytundeb parhad nwyddau yn unig blaenorol sydd mewn grym drwy gynnwys trefniadau sy'n ymwneud â masnach mewn gwasanaethau a gostyngiadau tariff pellach ar rai mewnforion ac allforion bwyd.
Cyn 1 Ionawr 2021, roedd ein trefniadau masnachu gyda gwladwriaethau EFTA yr AEE yn cael eu rheoli gan gytundeb gan yr UE y ceisiodd y DU ei efelychu erbyn diwedd y cyfnod pontio er mwyn sicrhau parhad i fusnesau. Roedd y fargen nwyddau yn unig a ddeilliodd o hynny, a lofnodwyd ar 8 Rhagfyr 2020, yn cynnwys cymal adolygu i sicrhau y byddai'r cytundeb yn cael ei ailnegodi a’i fod yn cyd-fynd â threfniadau masnachu'r DU-UE yn y dyfodol, ac i gadw a gwarchod perthynas masnachu’r DU-AEE.
Roedd masnach mewn nwyddau gyda Norwy a Gwlad yr Iâ yn cyfrif am tua 1.6% o gyfanswm masnach nwyddau Cymru yn 2020, o'i gymharu â’r UE sy’n cyfrif am 49.4% o fasnach nwyddau Cymru. Nid oes data ar gael ar werth y masnach rhwng Cymru a Liechtenstein.
Mae'r cytundeb newydd hwn yn deillio o ailnegodiadau ac mae’n sicrhau cysondeb rhwng trefniadau masnachu â thelerau Cytundeb Masnach a Chydweithredu'r DU-UE (TCA). Mae hyn yn golygu mai ychydig iawn o newidiadau fydd i'n busnesau sydd eisoes yn masnachu gyda Norwy, Gwlad yr Iâ a Liechtenstein. Mae'n gadarnhaol bod y fargen yn cynnwys penodau penodol ar fasnach ddigidol a busnesau bach. Dyma’r tro cyntaf y mae unrhyw gytundeb masnach gyda'r tair gwlad Ewropeaidd hyn wedi cynnwys penodau pwrpasol sy’n ymdrin â hyn.
Mae swyddogion yn ystyried manylion y cytundeb i ddeall yn llawn yr effaith ar Gymru, a nodi cyfleoedd posibl i fusnesau Cymru.