Jeremy Miles AS, Gweinidog Addysg a’r Gymraeg
Fy mlaenoriaethau dros y flwyddyn nesaf yw adnewyddu a diwygio, a rhoi lles a chynnydd dysgwyr wrth wraidd popeth yr ydym yn ei wneud. Wrth inni gael ein gwynt ati ar ôl y pandemig a gweithio tuag at weithredu’r cwricwlwm newydd a’r gwaith diwygio cysylltiedig, rwyf eisiau manteisio ar yr arloesedd, yr hyblygrwydd a’r ffocws ar les sydd wedi bod o gymorth inni drwy’r cyfnod trafferthus hwn.
Heddiw, rwy’n nodi cyfres o fesurau y bydd Llywodraeth Cymru'n eu cymryd, a hynny er mwyn creu mwy o gapasiti, lleihau pwysau tebygol o fewn y system ac i roi mwy o eglurder ynghylch yr hyn y dylid ei ddisgwyl y flwyddyn nesaf.
Ym mis Gorffennaf 2020, o gofio oblygiadau’r tarfu parhaus yn sgil Covid-19 i’n hysgolion a’n darparwyr ôl-16, ar gyfer cymwysterau a ddyfarnwyd yn 2021 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai mesurau perfformiad yn cael eu hatal ar gyfer 2020/21 hefyd. Mae sefyllfa debyg yn ein hwynebu wrth i ni agosáu at ddiwedd y flwyddyn academaidd hon. Felly, rwyf eisiau bod yn eglur eto, drwy gadarnhau y bydd y penderfyniad i atal mesurau perfformiad Cyfnod Allweddol 4 a’r chweched dosbarth yn ymestyn i flwyddyn academaidd 2021/22. Ni fydd data dyfarniadau cymwysterau yn cael ei ddefnyddio i adrodd ar ddeilliannau cyrhaeddiad ar lefel ysgol, awdurdod lleol na chonsortiwm rhanbarthol ac ni ddylid ei ddefnyddio i ddwyn ysgolion i gyfrif am ddeilliannau dysgwyr
Yn y sector ôl-16, bydd effaith wahanol ar ddarparwyr (dosbarthiadau chwech, sefydliadau AB, dysgu seiliedig ar waith a dysgu oedolion) a rhaglenni gwahanol. Bydd rhai deilliannau yn 2021/22 yn adlewyrchu rhaglen dwy flynedd, a bydd eraill yn seiliedig ar flwyddyn o astudio. Felly, byddwn yn mynd ati i ystyried y ffordd orau o ymdrin â’r mesurau perfformiad ôl-16 yn 2021/22. Byddwn yn ymgynghori â'r sector cyn gwneud unrhyw benderfyniad pendant, er mwyn ystyried beth fyddai'n ddefnyddiol i’w helpu gyda’u prosesau monitro a sicrwydd ansawdd eu hunain.
Gallaf gadarnhau hefyd na fydd Categoreiddio Ysgolion yn digwydd ym mlwyddyn academaidd 2021/22. Bydd consortia rhanbarthol ac awdurdodau lleol yn parhau i weithio mewn partneriaeth ag ysgolion i helpu i roi'r cymorth sydd ei angen arnynt i wella a gweithredu ein diwygiadau uchelgeisiol yn llwyddiannus. Ni fydd ysgolion yn cael categori cyhoeddedig fel rhan o'r broses gymorth hon. Yn dilyn ymgynghoriad diweddar Llywodraeth Cymru ar ganllawiau anstatudol ar wella ysgolion, bwriadaf gyhoeddi ein cynlluniau tymor hwy ar gyfer gwerthuso, gwella ac atebolrwydd yn yr hydref.
Yn ogystal, daeth Rheoliadau Llacio’r Gofynion Adrodd mewn Ysgolion (Cymru) (Coronafeirws) 2021 i rym ar 18 Mehefin 2021. Mae'r Rheoliadau'n diwygio gofynion statudol penodol sy'n gysylltiedig ag adroddiadau mewn ysgolion ar gyfer 2020/21, gan gefnogi'r sicrwydd a roddwyd cyn hynny ynghylch defnyddio data ysgolion yr effeithiwyd arnynt gan bandemig y coronafeirws.
Bydd yn ofynnol i bob ysgol a darparwr ôl-16 barhau i gynnal hunanwerthusiad effeithiol ar gyfer gwella'n barhaus. Mae ein trefniadau gwerthuso, gwella ac atebolrwydd ni’n gofyn iddynt ystyried ystod eang o wybodaeth sy’n berthnasol i gyd-destun yr ysgol eu hun wrth hunanwerthuso a nodi blaenoriaethau ar gyfer gwella. Golyga hyn y bydd ysgolion, gyda chymorth yr awdurdodau lleol a'r consortia rhanbarthol, yn defnyddio'r gwybodaeth sydd ganddynt ar lefel disgyblion am gyrhaeddiad a deilliannau eraill i fyfyrio ar eu trefniadau presennol a'u gwella.
Rwyf hefyd wedi cytuno â Phrif Arolygydd Ei Mawrhydi y bydd y penderfyniad i atal rhaglen arolygu graidd Estyn ar gyfer ysgolion ac Unedau Cyfeirio Disgyblion yn ymestyn i gynnwys tymor yr hydref 2021. Bydd hyn yn galluogi Estyn i ganolbwyntio ar ymweliadau ymgysylltu parhaus ag ysgolion ac Unedau Cyfeirio Disgyblion, gan flaenoriaethu'r darparwyr hynny sydd angen y cymorth mwyaf, cyn cyflwyno'r cwricwlwm newydd. Yn ystod tymor y gwanwyn 2022, bydd Estyn yn treialu trefniadau arolygu newydd, gan geisio cytundeb gan ddarparwyr unigol i gymryd rhan. Ar wahân i'r arolygiadau peilot hyn ac ymweliadau monitro ag ysgolion sydd mewn categori Estyn ar hyn o bryd, ni fydd ysgolion ac Unedau Cyfeirio Disgyblion yn cael eu harolygu cyn Pasg 2022, oni bai bod amgylchiadau eithriadol. Cyn tymor yr haf 2022, bydd Llywodraeth Cymru ac Estyn yn parhau i ystyried y cydbwysedd gorau o ran gweithgarwch ymgysylltu ac arolygu i gefnogi'r daith tuag at Gwricwlwm Cymru, gan adolygu hyn bob tymor.
Bydd y camau hyn yn dilyn ystod o fesurau a gymerwyd dros y flwyddyn academaidd hon i leddfu’r pwysau a rhoi hyblygrwydd. Mae Llywodraeth Cymru, ymysg llawer o newidiadau deddfwriaethol a newidiadau polisi, wedi dileu asesiadau ar ddiwedd cyfnodau allweddol a gofynion safoni, wedi canslo rhai casgliadau data blynyddol ac wedi rhoi cyllid ychwanegol i gefnogi dysgwyr a’n gweithlu addysg.
Fe gymerwyd yr holl gamau hyn gan fod ein prif flaenoriaeth yn parhau i gefnogi dysgwyr wrth inni adfer o’r pandemig. Dyna pam yr ydym yn parhau i leihau’r beichiau gweinyddol ar ysgolion ac wedi caniatáu dull mwy unigol o gefnogi ein pobl ifanc. Byddaf yn parhau i gydweithio â rhanddeiliaid ar y camau ymarferol y gellid eu cymryd i leihau’r pwysau allanol fel rhan o’r ymdrech ar y cyd i adnewyddu a diwygio’r system.